gosod dan gerydd gan Howell Harris oblegyd eu balchder; gobeithiai allu eu derbyn yn awr; ond nid oedd eu pechod wedi ei ddarostwng; a rhaid ydoedd parhau y ddysgyblaeth. Bu gyda hwy drachefn a thrachefn yn ceisio eu perswadio; yr oedd y boreu yn gwawrio pan y rhodd y gorchwyl i fynu; a phan y methodd ei hun, anfonodd y cynghorwr Thomas James atynt. Eithr ofer a fu ymgais y ddau. Eu gwir drosedd oedd cyfeiliorni mewn athrawiaeth. Ganol mis Mai, aeth i Lundain, ac arosodd yno hyd ddechreu Gorphenaf. Yn ystod yr amser hwn, disgynodd i'w ran y gorchwyl annymunol o droi Herbert Jenkins allan o'r Cyfundeb.
Y mae y dydd-lyfr, o ddechreu Gorphenaf hyd ganol Awst, ar goll. Yr ydym yn cael Daniel Rowland a Howell Harris, Awst 19, yn teithio yn nghyd i Drefynwy, ac yn hynod gyfeillgar. Agorodd Harris ei holl fynwes iddo, gan egluro y rheswm am ddiarddeliad Herbert Jenkins, ac hefyd esbonio rhai ymadroddion o'i eiddo yn Ngogledd Cymru. Tueddwn i feddwl mai dychwelyd yr oeddynt, wedi bod yn hebrwng yr Iarlles Huntington yn ei hol i Loegr, ar ol treulio rhai wythnosau yn Nghymru. Yr oeddynt hwy eu dau, yn nghyd â Griffith Jones, a Howell Davies, wedi cyfarfod yr Iarlles yn Mryste; teithiasant trwy y rhan fwyaf o Ddeheudir Cymru yn araf; byddai rhai o'r offeiriaid yn pregethu yn y pentrefydd, trwy ba rai yr oeddynt yn myned, neu ynte, rai o'r prif gynghorwyr, a chafwyd odfaeon y cofiodd y foneddiges dduwiol am danynt hyd ei bedd. Buont yn aros am rai dyddiau yn Nhrefecca, a chafodd Griffith Jones odfa ryfedd yno ar y maes. Yn The Life and Times of Selina, Countess of Huntington, dywedir i'r daith hon gymeryd lle ddiwedd Mai a dechreu Mehefin. Ond yn ol dydd-lyfr Howell Harris, nis gell hyn fod yn gywir, oblegyd bu ef yn Llundain yn gweinidogaethu trwy y rhan fwyaf of Fai, a thrwy yr oll o Fehefin. Tebygol, mai diwedd Gorphenaf, a dechreu Awst, "rhwng y ddau gynhauaf," fel y dywedir, y cymerodd yr Iarlles y daith hon.
Yn ganlynol, yr ydym yn ei gael ar daith trwy Siroedd Aberteifi a Phenfro. Nis gallwn ei ddilyn o le i le, ond hyfryd gweled fod Howell Davies yn gyfaill ac yn gydymaith iddo ar ei ymweliad a Phenfro. Ac yr oedd cynulleidfaoedd aruthrol yn dyfod i'w wrando yn mhob man. Yn y Parke yr oedd mewn cyfyng gyngor gyda golwg ar beth i bregethu, gan fod nifer mawr o offeiriaid yn bresenol, "a llawer o Ymneillduwyr rhagfarnllyd. Ymddengys ei fod ef a'r Ymneillduwyr yn pellhau yn gyflym oddiwrth eu gilydd. Wedi ymgynghori â Duw, cymerodd yn destun, 1 Cor. ii. 2: "Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." "Dangosais" meddai, "y modd yr oeddynt wedi blino Paul a'u dadleuon; ond yn awr ei fod wedi penderfynu na chaent ei flino mwy; na fyddai a fynai ychwaneg ag unrhyw wybodaeth ond Crist croeshoeliedig. Yna, arweiniwyd fi i lefaru ar ddirgelwch duwioldeb. Pwysleisiais mai dirgelwch ydyw, ai fod tu hwnt i ddadl. Yn unol a'm harfer, llefarais yn gryf parthed Duwdod Crist, ei fod yn Dduw yn y preseb, ac yn Dduw ar y groes; ac er mai y natur ddynol a ddyoddefodd, eto fod ei ddyoddefiadau yn Ddwyfol. Eglurais ei eiriau gyda golwg ar ei fod yn israddol i'r Tad, ac yn gydraddol ag ef. Cyfeiriais at y lleidr yn gweddio ar y Dyn hwn, iddo fentro ei enaid arno, gan ei weled yn Oruchaf Lywodraethwr, ac yn Dduw ar y tragywyddoldeb i ba un yr oedd ar gymeryd naid. Ni ddarfu iddo yntau wrthod y weddi, ond atebodd hi gyda mawrhydi teilwng o Dduw. Cyfeiriais at Stephan yn gweddïo arno. Dangosais, nid yn unig ei fod ef—y Dyn hwn-y Person hwn—yn Dduw, ond ei fod yn Dduw tragywyddol; mai efe yw yr unig Dduw, mai efe a wnaeth y bydoedd, ac nad oes yr un Duw arall ar wahan nac uwchlaw iddo; ein bod yn credu yn y Duwdod, yn ol credoau Athanasius, Nicene, a'r Apostolion, fod tri o gyd-dragywyddol Bersonau, ond nad oes ond un Duw; ac mai yr un Duw hwn yn mherson y Mab a ddaeth yn ddyn, ac a roddodd ei fywyd i lawr. Yna, troais atynt, a gofynais ai nid oeddynt yn gwneyd tri Duw? Ac ai nid oeddynt yn myned heibio iddo at Dad, yr hwn a ystyrient yn fwy nag ef? Dangosais nad oedd y fath Dad, oddiwrth ei ymadrodd ef ei hun wrth Phylip; ac nad oes na mwy na llai, na chynt na chwedin, yn y Duwdod; a bod yr hwn sydd yn gweled y Mab yn gweled yr oll o'r Duwdod, yr hwn a leinw bob lle, a phob peth ar unwaith. Yn awr, os mai efe yw yr unig Dduw, ac os nad oes ond efe, ai nid oes rhai o honoch wedi bod yn addoli Duw dyeithr, ïe, yn addoli llun a delw yn eich deall? Yr ydych yn pasio heibio y Duw byw, i addoli hwn, y duw ac nad oes yr un Duw arall ar wahan nac uwchlaw iddo ; ein bod yn credu yn y Duwdod, yn ol credoau Athanasius, Nicene, a'r Apostohon, fod tri o gyd-dra- gywyddol Bersonau, ond nad oes ond un Duw ; ac mai yr un Duw hwn yn mherson y Mab a ddaeth yn ddyn, ac a roddodd ei fywyd i lawr. Yna, troais atynt, a gofyn- ais ai nid oeddynt yn gwneyd tri Duw ? Ac ai nid oeddynt yn myned heibio iddo at Dad, yr hwn a ystyrient yn fwy nag ef ? Dangosais nad oedd y fath Dad, oddiwrth ei ymadrodd ef ei hun wrth Phyhp ; ac nad oes na mwy na llai, na chynt na chwedin, yn y Duwdod ; a bod yr hwn sydd yn gweled y Mab yn gweled yr oU o'r Duwdod, yr hwn a leinw bob lle, a phob peth ar unwaith. Yn awr, os mai efe yw yr unig Dduw, ac os nad oes ond efe, ai nid oes rhai o honoch wedi bod yn addoh Duw dyeithr, íe, yn addoh Ihm a delw yn eich deall ? Yr ydych yn pasio heibio y Duw byw, i addoh hwn, y duw