Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/397

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond ofer a fu yr ymgais, yr oedd calon y cynghorwr wedi suddo i'r byd. Oddiyma pasiodd trwy Rhaiadr, Dolyfelin, ac Erwd, gan ddychwelyd adref dydd Gwener, gwedi taith lafurus o yn agos i bythefnos.

Yn ystod yr ychydig amser y bu gartref, cronicla ddarfod iddo dderbyn pedwar gwrthgiliwr i'r seiat yn Nhrefecca; gwrthododd dderbyn un wraig oddiwrth yr Ymneillduwyr, nes iddi, yn gyntaf, gael hamdden i ystyried y mater mewn difrifwch. Cyfarfyddodd ddwy waith a'r cynghorwyr, er eu haddysgu a'u cymhwyso at y gwaith. Dywed iddynt fod yn ymwneyd am beth amser ag egwyddorion sylfaenol sillebiaeth, darlleniaeth, rhifyddiaeth, a gramadeg. Gyda y gwaith hwn teimlai bleser dirfawr. Daeth y newydd i'w glustiau fod ei frawd-yn-nghyfraith wedi cael swydd dan y brenhin, gwerth pum' cant o bunoedd yn y flwyddyn. "Yr oeddwn yn ddiolchgar am y swydd sydd genyf fi," meddai; "yr wyf finau yn was y Brenhin, sef gwas Brenhin brenhinoedd, ac y mae genyf le anrhydeddus yn ei gyfrin-gynghor."

Tua diwedd Chwefror, cawn ef yn cychwyn am daith faith yn Siroedd Aberteifi a Phenfro. Yn Bolgoed, ffermdy tua dwy filltir o Aberhonddu, llefarodd oddiar y geiriau: "Du ydwyf fi, ond hawddgar.' Yn Bronwydd, yn y seiat breifat ar ol y bregeth, arweiniwyd ef i adrodd cychwyniad a chynydd y diwygiad, y modd y cawsai ef ei benodi yn Watford yn arolygwr cyffredinol; yna, dangosai nad oedd y seiadau yn eglwysi, ond canghenau diwygiedig o'r Eglwys Sefydledig, yn mha un yr oeddynt i aros hyd nes y llyncid y tywyllwch oedd yn y Sefydliad yn y goleuni claer, neu ynte y caent eu gwthio allan o honi. Dywedai, yn mhellach, ei fod yn caru yr Ymneillduwyr, ac nas gallai oddef i neb eu dirmygu na'u hamarchu. Oddiyma aeth i Gilycwm, lle y pregethodd ar y ddyledswydd o aros yn Nghrist. Cafwyd seiat ryfedd ar ol y bregeth. Wrth ei fod yn egluro gymaint a wnaeth yr Arglwydd erddynt, torodd y fath orfoledd allan, a chanmol Duw, fel y bu raid iddo roddi i fynu am amser. Tramwyodd yn ganlynol trwy Lwynyberllan, Llansadwrn, Cayo, a Llancrwys; ac ar y ffordd cafodd sicrwydd i'w feddwl y rhoddai yr Arglwydd —yr ieithoedd Lladin, Groeg, a Hebraeg— iddo, fel y byddai yn fwy defnyddiol i'r praidd. Cawsai ffydd i weddïo am hyn; ni chymerai ball mewn un modd, am y gwelai y tueddai at ogoniant Duw. Yr oedd yn foreu Sabbath arno pan y croesai ar draws y mynyddoedd, a thrwy ddyffryn ffrwythlawn Teifi, nes dod i Capel Bettws, tua dwy filltir islaw Llangeitho. Yma arosodd hyd nes y deuai Rowland o Lancwnlle i weinyddu y sacrament. Diau fod ei yspryd i raddau yn gythryblus ynddo, oblegyd ni fuasai yn Llangeitho er ys dwy flynedd bellach, o herwydd yr oerfelgarwch a gyfodasai rhwng Rowland ag yntau. Cafodd arwydd arbenig o ffafr Duw yn yr ordinhad. Y prydnawn hwnw, yn Nghapel Gwynfil, yr enw wrth ba un yr adnabyddir pentref Llangeitho yn y cymydogaethau cyfagos, pregethodd i dyrfa anferth yn yr awyr agored. Ei destun. ydoedd : ydoedd: "Du ydwyf fi, ond hawddgar." Yr oedd wedi gwlawio yn drwm trwy y dydd, ond nid cynt y gorphenodd Harris ei weddi, nag y gwasgarwyd y cymylau, ac y daeth yr haul i'r golwg, a chafwyd hîn ddymunol i gynal y cyfarfod. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat breifat am dair awr. Llefarai am amryw bethau; am ganlyn esiampl Crist, ac nad oedd yn gweled ei hun yn ddiafol mewn cnawd ond pan yn myfyrio ar ymddarostyngiad y Gwaredwr; am dynerwch Crist at Petr yn peidio danod ei gwymp iddo, ac am ddarllen yr Ysgrythyrau, gan ddangos y byddai hyn yn aros wedi i'w teimladau oeri. Rhoddodd reolau i'r gwŷr a'r gwragedd yn y seiadau, ar iddynt ddarllen penod, a gweddïo, ac oni fyddai i Dduw agor eu genau i siarad er adeiladaeth, ar iddynt beidio siarad o gwbl. Yr oedd y presenoldeb dwyfol mor amlwg yn y cyfarfod, fel y methai Harris fyned yn ei flaen. "Bloeddiwn i fy hun," meddai, "nis gallwn ymatal; dydd o ymgymodi ydoedd. Cefais nerth ychwanegol at y gwaith. Gweddïai llawer, ac nis gall tafod fynegu y gorfoleddu oedd yno." Y noswaith hono teimlai ei gorph yn dra lluddedig. Cyn ymadael, taer ddymunai ar Daniel Rowland i ymweled a Sir Frycheiniog. Y mae yn sicr fod gwell dealltwriaeth yn ffynu rhwng y ddau nag a fuasai.

Nos Lun, pregethai yn Abermeurig; pregeth lem, a llawn bygythion, a deddf, a tharanau. Deallodd yn ganlynol fod y lle yn dra annuwiol a llygredig, ac mai dyna oedd eisiau yno. Dydd Mawrth, cawn ef yn Cwm Cynon; ac yn y seiat ar ol y bregeth, dywedai na ddylai hunan a diafol gael trigo yn nhŷ Dduw; fod ganddo ond ofer a fu yr ymgais, yr oedd calon y cynghorwr wedi suddo i'r byd. Oddiyma pasiodd trwy Rhaiadr, Dolyfelin, ac Erwd, gan ddychwelyd adref dydd Gwener, gwedi taith lafurus o yn agos i bythefnos.

Nos Lun, pregethai yn Abermeurig; pregeth lem, a llawn bygythion, a deddf, a tharanau. Deallodd yn ganlynol fod y lle yn dra annuwiol a llygredig, ac mai dyna oedd eisiau yno. Dydd Mawrth, cawn ef yn Cwm Cynon; ac yn y seiat ar ol y bregeth, dywedai na ddylai hunan a diafol gael trigo yn nhŷ Dduw; fod ganddo