Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/398

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef gomissiwn yn erbyn y diaflaid, ac yn erbyn pob peth a ddeilliai o uffern yn y proffeswyr. Taranodd hefyd yn erbyn y dull cnawdol o garu oedd yn y wlad, a holai hwynt a oeddynt yn myned i'r eglwys bob Sul, i wrando Rowland neu Howell Davies. Yn Dyffryn Saith, pregethai ar: "A hyn yw y bywyd tragywyddol," ac yn Nghastell-newydd-Emlyn, ar: "Ys truan o ddyn ydwyf fi." Pasiodd yn mlaen trwy Pen-y-wenallt, Dygoed, i Ty'r Yet. Yn y lle diweddaf, yr oedd nifer o gynghorwyr wedi ymgynull, a bu yntau yn eu cymhell i sefydlu casgliad wythnosol yn mhob man. Dangosodd iddynt ei amgylchiadau ei hun, nad oedd ganddo ddim ond yr addewid i syrthio yn ol arni, ac y buasai wedi rhoddi ei waith i fynu er ys llawer dydd oni bai y tyst oedd o'i fewn fod Duw wedi ei alw ato. Ymwelodd yn nesaf â Longhouse, ac a Hay's Castle, lle y bu yn gwrando Howell Davies yn eglwys y plwyf, ac yn cyfranogi o'r sacrament.

Y dydd Llun canlynol, brysiodd i Hwlffordd, lle y cynhelid Cymdeithasfa Fisol. Cafodd fod yr Arglwydd yno o'i flaen. Pan y trefnent parthed casgliad wythnosol, gwrthwynebai rhai; a chynghorai Harris hwy i fod yn araf gyda hyn, rhag nad oedd. Duw ynddo, a phe y gwthient y peth yn mlaen trwy y tew a'r tenau, efallai y collent eu dylanwad yn yr efengyl, yr hwn ddylanwad yr oedd Crist wedi ei bwrcasu a'i briod waed. Dangosai mai y ffordd oreu i orchfygu cyndynrwydd oedd trwy gariad ac amynedd. Cyfeiriodd at ei amgylchiadau, nad oedd wedi derbyn pum' punt mewn chwe' mis; ei fod wedi gwrthod can' punt y flwyddyn, yr hyn a fuasai yn ddau cant yn bur fuan; ond ei fod yn İlawenychu wrth fod mewn tlodi ac anghysur, gan ei chyfrif yn anrhydedd. Wedi trefnu amryw bethau, aeth i'r ystafell i bregethu; ei destun oedd, Eph. v. 20, a moesoldeb Cristionogol ei fater. Cyfarfyddai y Gymdeithasfa ar ddiwedd yr odfa, a bu Howell Harris yn dangos iddynt yr addysg a hoffai i'r cynghorwyr gael, sef sillebiaeth, gramadeg Saesneg, rheitheg, rhesymeg, daearyddiaeth, hanesiaeth, athroniaeth, ac ieithoedd. Mynegodd fel y buasai yn rhoddi gwersi yn Nhrefecca; yr oedd yr holl gynghorwyr yn ymddangos yn foddlon, a chydunwyd fod John Sparks i barotoi llyfrau sillebu, a chopïau, erbyn y Gymdeithasfa nesaf. Dysgwylid i'r goruchwylwyr hefyd gymeryd gwersi. "Yna," meddai, "dangosais fod eisiau addysg yn mhob peth, onide nis gallent fod yn ddefnyddiol, ac fel tadau; y dylent ddysgu pa fodd i ymddwyn wrth y bwrdd, ac mewn cwmni, yn ol eu cymeriadau, nid fel fops, ac nid fel ynfydion; a pha fodd i gyfarch. Dysgais yr hyn a allwn, ac ar iddynt fod yn farw iddynt eu hunain, ac i'r byd, ac i'w ffasiynau, fel na byddai o bwys ganddynt beth a wisgent. Dangosais anrhydedd ein swydd, ein bod yn cael agoshau at berson y Brenhin." Gwelir fod cynllun Howell Harris o addysg athrofaol yn un tra eang. Canfyddai y rhaid dechreu yn isel. Yr oedd rhai o'r cynghorwyr heb gael ond ychydig o addysg foreuol, ac felly rhaid eu hyfforddi mewn sillebiaeth ac ysgrifenu; ond bwriadai i'r cwrs ymeangu ac ymddyrchafu, fel na fyddai y rhai a elent trwyddo yn ol mewn diwylliant i glerigwyr yr Eglwys Sefydledig. Dengys y cyfeiriad at hyfforddi y dynion ieuainc mewn cyfarch, ac mewn iawn ymddygiad wrth y bwrdd, mor ymarferol ydoedd Harris yn ei holl gynlluniau. Yr oedd llawer o'r pregethwyr ieuainc yn hanu o deuluoedd tlodion; gwyddent gryn lawer am athrawiaethau yr efengyl, ond ychydig am reolau moesgarwch, ac arferion cymdeithasol, fel eu dysgid gan Arglwydd Chesterfield; a chan y byddent yn cael eu gwahodd, nid yn anfynych y pryd hwnw, i dai boneddigion y wlad, amryw o ba rai a dueddent at Fethodistiaeth, yr oedd perygl iddynt fyned yn wrthddrychau gwawd i'r rhai anianol yn y cyfryw leoedd. Eithr yr oedd y Diwygiwr yn dra awyddus am iddynt beidio myned yn falch, pa anrhydedd bynag a roddid arnynt; a phwyntiai allan fod cael agoshau at berson y Brenhin yn fwy o urddas na chael myned i dŷ unrhyw bendefig.

O Hwlffordd, aeth Harris i dref Penfro, lle y pregethodd i gynulleidfa fawr, ar Mat. i. 21. Enw yr Iesu oedd ei fater; dangosai ei fod yn Frenhin, yn Offeiriad, ac yn Brophwyd; ac yr oedd nerth a goleuni dirfawr yn cydfyned a'r sylwadau. Cawn ef yn nesaf mewn lle o'r enw Caino. Dywed ei fod yn lluddedig o ran corph, a'i fod yn llefaru mewn cryn gaethiwed, ond hydera i rywrai dderbyn bendith. "Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd a fyddant fel mynydd Seion," oedd ei destun. Yn y seiat breifat, cafodd ryddid mawr wrth gynghori yr aelodau i fyw trwy ffydd. Dywedai am y cynghorwyr eu bod yn benderfynol i fyned yn eu blaen i bregethu, hyd yn nod pe raid iddynt fod heb ddillad,