a myned o gwmpas yn droednoeth. Dangosodd ddyledswydd meistri a gweision, y dylent hunan-ymwadu mwy; mai Iesu Grist yw yr esiampl yn hyn, ac mai buddiol iddynt fyddai byw yn is na'u sefyllfa, fel y byddai ganddynt rywbeth i'w gyfranu i'r Arglwydd. Am dano ei hun dywedai, yr ystyriai hi yn anrhydedd cael bod yn wlyb, a thrafaelu can' milltir yr wythnos, gan bregethu ddwy neu dair gwaith y dydd, heb gael dim fel tâl am ei lafur, ond yr hyn a dderbyniai gan yr Arglwydd. Ei le nesaf oedd Jefferson. Wrth deithio tuag yno, cythruddwyd ef yn ddirfawr gan ryw chwedl a ddaeth i'w glustiau, sef ddarfod i Daniel Rowland ddweyd fod dylanwad Mr. Whitefield arno wedi peri iddo newid ei farn gyda golwg ar athrawiaeth y Drindod; a darfod i Howell Davies awgrymu i rywun nad oedd efe (Harris) yr un yn awr ag a oedd gynt. Ar y dechreu, teimlai y rhaid iddo gael iawn am y sarhad; ond yn mhen ychydig llonyddodd ei dymher, a phenderfynodd ddyoddef yr oll. Y mae yn sicr fod cludwyr chwedlau yn gwneyd llawer o niwed i'w yspryd. Yn Jefferson, ei destun ydoedd: "Mawr yw dirgelwch duwioldeb." Dangosais," meddai, "yn mha ystyr y mae yn ddirgelwch. Yn (1) am ei fod wedi ei guddio yn gyfangwbl oddiwrth y dyn anianol; ni wyr efe ddim yn ei gylch. (2) Am mai trwy ffydd, a thrwy ddysgeidiaeth yr Yspryd Glân yn unig y gellir ei wybod, ac nid trwy foddion naturiol, megys darllen, efrydu, a myfyrio, er fod yr Yspryd yn aml yn dyfod trwy y cyfryngau hyn, ac felly y dylem eu defnyddio. (3) Y mae yn ddirgelwch am nas gellir plymio i'w waelodion, hyd yn nod gan y rhai sydd yn canfod ddyfnaf iddo." Dywed, yn mhellach, iddo gymhwyso yr athrawiaeth gyda nerth at bechaduriaid difater. "Yr oeddwn yn ofnadwy o lym," meddai, "hyrddiais ddychrynfeydd Duw arnynt, gan ddangos eu bod yn pechu yn erbyn deddf ac efengyl. Dangosais pa fodd y mae yr hen a'r ieuainc, y cyfoethog a'r tlawd, yn cydbechu ar y ffordd lydan, ac eto yn taeru nad oes un rheidrwydd am fyned o gwmpas i gynghori y bobl. Dangosais sefyllfa y sir; taranais yn arswydus, a rhybuddiais hwy." Diau ei bod yn lle ofnadwy yno, a bod y dylanwad yn ormod i gnawd. Yn y seiat a ddilynai, yn yr hon yr oedd John Harris yn bresenol, anogodd hwy yn gryf i gariad brawdol, ac i beidio esgeuluso y moddion. "Ni wyddoch faint eich colled wrth esgeuluso un cyfleustra," meddai. Pregethodd gyda nerth yn St. Kennox; ac wrth fyned oddiyno i Maenclochog, rhaid oedd iddo ef a John Sparks, yr hwn oedd yn dra anwyl ganddo, ymadael. Eithr aeth John Harris yn mhellach gydag ef, ac anogai yntau ef i gyffroi yr aelodau i fod ar eu goreu dros yr Arglwydd. "Am danaf fy hun," meddai, "dywedais nas gallwn orphwys, a'm bod yn benderfynol, trwy ras, o farw yn y gwaith anrhydeddus hwn."
O Maenclochog, cawn ef yn myned yn nghwmni ei hen gyfaill, Howell Davies, i'r Parke. Cyffelyba hwy i deithwyr wedi cael eu dwyn yn nghyd, ar ol bod yn tramwy trwy ystormydd enbyd. Agorodd Harris ei holl galon i'w frawd, gan ddangos mawredd y gwaith, y modd yr oedd yn llwyddo, ac fel y credai fod y tymhestloedd y buont ynddynt, yn tueddu i'w cadw rhag ymfalchio. Ei destun yma oedd: "Gwir yw y gair." Yna, teithia trwy Gilfach, Mounton, Lacharn, Merthyr, a Llanpumsant. Yn y rhan fwyaf o'r lleoedd hyn, pregethai heb un testun, ac yr oedd nerth mawr yn cydfyned a'i weinidogaeth. Yn Nghaerfyrddin, gwrandawodd ar John Richard yn pregethu ar ymddarostyngiad y Gwaredwr; yn ganlynol, pregethodd yntau ar ddirgelwch. Crist. Ymddengys fod yma Gymdeithasfa Fisol, a gwasgai Harris yn ddwys ar y pregethwyr y dymunoldeb iddynt i ymdrechu am ragor o addysg. Gorphenodd ei daith yn Llanddeusant; yr oedd yn ddyfnder nos arno yn cyrhaedd y lle, a dywed ei fod yn wlyb hyd ei groen, ac yn oer, wrth groesi y Mynydd Du. Er hwyred ydoedd, yr oedd yn rhaid iddo. bregethu; dechreuai yr odfa am ddeuddeg o'r gloch y nos, a'r mater oedd: "Iachawdwriaeth orphenedig;" a daeth yr Arglwydd i lawr. Oddiyma, aeth ar ei union tua Threfecca, yr hwn le a gyrhaeddodd am bedwar o'r gloch y boreu, y dydd o flaen y Pasg. Fel hyn yr ysgrifena wedi dychwelyd: "Y boreu hwn daethum adref, ar ol taith o dros dair wythnos yn Siroedd Penfro, Aberteifi, a Chaerfyrddin, a chwedi tramwy dros un-cant-ar-ddeg o filltiroedd. Ffafriodd yr Arglwydd fi yn rhyfedd yn mhob man, wrth bregethu, cynghori yn y seiadau preifat, a threfnu pethau cysylltiedig a theyrnas dragywyddol ein Hachubwr. Er ein holl bechadurusrwydd, y mae yr Arglwydd yn cario ei waith yn mlaen yn mhob man. Yr wyf yn credu fy mod yn