Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/417

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cam. Dyma fy marn i, beth bynag a wnaeth Crist yn un natur, fe a'i gwnaeth yn y ddwy; ni wnaeth efe ddim mewn un natur yn wahanol oddiwrth y llall.

"Uniawn. Os felly y mae, fe fu chwant bwyd ar y Duwdod; fe gysgodd, ac a fu ddarostyngedig i'r cyfryw wendidau, yr hyn yw cabledd erchyll, yn wir. Ac os yw'r peth yr ydych chwi yn ei haeru yn wir, sef, beth bynag a wnaeth Crist mewn un natur, fe a'i gwnaeth yn y ddwy; ni wyddai Crist, fel yr oedd ef yn Dduw, pa bryd y byddai dydd y farn; ac wrth hyny, nid oedd efe ddim yn wir Dduw, yn eich barn chwi, gan nad oedd efe ddim yn hollwybodol. Gwelwch yn awr pwy yw yr Ariad.

"Cam. Yr wyf fi yn dywedyd wrthych, fod y pethau yma, ag yr ydych chwi yn eu gwrthwynebu, wedi eu datguddio i ni. Pe buasech chwithau wedi eich gwir oleuo, ac heb gael eich arwain gan eich rheswm cnawdol, chwi a welech y dirgeledigaethau hyn fel ninau. Ond yn awr, gan eich bod chwi yn dywyll, nid ellwch amgyffred y pethau gogoneddus ag sydd wedi eu datguddio i ni.

"Uniawn. Gadewch fod y peth felly, ein bod ni yn dywyll ac yn anwybodus; ond, atolwg, peidiwch a barnu yr holl henafiaid, cyfansoddwyr gwasanaeth ein Heglwys ni, yr hen ŵr da hyny, Athanasius; ïe, yn wir, yn fyr, yr holl gorph o ddefinyddion uniawngred.

"Cam. Felly, yr ydych chwi yn crynhoi eich gwybodaeth wrth ddarllen llyfrau. Mi a ddymunwn pe bai yr holl lyfrau wedi eu llosgi. Ond, atolwg, a ydych chwi yn maentymio fod y Duwdod yn gadael ein Harglwydd yn ei groeshoeliad?

"Uniawn. Mi a glywais eich bod yn dweyd i mi ddywedyd felly, pan nad yw hyn ond un arall o'ch anwireddau. Yr wyf fi yn dywedyd, i Dduw guddio ei wyneb yn y cyfryw fodd, fel ag yr oedd y natur ddynol heb deimlo cysur y Duwdod, yr hyn a barodd i Grist waeddi allan: Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist? Dyma yr ymadawiad ag yr wyf fi yn ei feddwl. Ond yr wyf fi yn credu fod undeb personol y ddwy natur yn aros o hyd, fel ag yr oedd ein Harglwydd yn Dduw-ddyn yn y groth, yn Dduw-ddyn ar y groes, ac yn Dduw-ddyn yn y bedd. "DANIEL ROWLAND.

"Mi a ail-ddymunaf arnoch, unwaith yn ychwaneg, i gadw o fewn terfynau gwirionedd. Mi a gynghorwn i chwi, yn enwedig y goreu o lle llosgi llyfrau da, eu darllen hwy, yn enwedig y goreu o lyfrau, y Beibl. A chwanegwch lawer o weddi at hyn; a chwedi'n, yr wyf yn ymddiried, y bydd it chwi gael eich gwaredu oddiwrth eich hunan-dyb, a rhoddi heibio duo a diystyru. eraill, ac heb gael eich arwain gan yr yspryd gwyllt ag sydd yn awr yn eich meddianu; ac fe fydd i chwi gael eich adferyd i'r hen lwybrau gwirionedd; ac ni bydd eich barn yn hwy gael ei llygru gan yr heresiau yr ydych yn awr yn eu maentymio. A Duw a roddo i chwi ddeall da yn mhob peth. Amen."

Cyhoeddwyd trydydd argraffiad o'r Ymddiddan yn y flwyddyn 1792, dros y Gymdeithasfa, a chafodd ei argraffu yn swyddfa John Daniel, Caerfyrddin. I'r argraffiad hwn, ceir y rhagymadrodd a ganlyn: "Ddarllenydd diduedd, nid oedd meddyliau cydsyniol yr Association, wrth roi anogaeth i ail-argraffu yr Ymddiddan rhwng yr Uniawngred a'r Camsyniol, yn tueddu i ddianrhydeddu, diystyru, nac enllibio un person penodol, nac un gangen eglwysig sydd yn proffesu ffydd yn enw tragywyddol Fab Duw, a brawdgarwch. Ond yn gymaint a bod aneirif o bobl newydd yn awr yn weithwyr yn y winllan; rhai yn dadau, yn athrawon, a chynorthwywyr; y dyben ydyw hysbysu yn eirwir beth oedd barn uniawngred tadau, cenadon, a chynorthwywyr, yn nechreuad yr Association, yn enwedig y Parchedig Mr. D. Rowland. I Ioan ii. 24: ''Arosed, gan hyny, ynoch chwi yr hyn a glywsoch o'r dechreuad. Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab, ac yn y Tad." Wrth y rhagymadrodd yma cawn enwau J. E. a J. T. Dywed Mr. Morris Davies, Bangor, ar sail tystiolaeth a ystyria yn ddigonol, mai yr Hybarch John Evans, o'r Bala, oedd J. E.; a thybia mai yr hen bregethwr ffyddlawn, John Thomas, o Lancwnlle, ond a orphenodd ei yrfa yn Ninbych, oedd J. T. Y mae argraffiad 1792, hefyd, yn cynwys yr emyn ganlynol; ni wyddis a ydoedd yn yr argraffiadau blaen-