Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/418

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

orol; felly, nid oes sicrwydd mai Daniel. Rowland yw eu hawdwr:

"Y Tri yn Un mewn undeb,
Yn nhragywyddoldeb draw,
Ymrwymodd mewn cyfamod,
Fel rhoddi llaw mewn llaw,
I godi f'enaid euog,
O ryw ddyfnderoedd mawr,
A'm cànu fel yr eira,
Ffieiddiaf lwch y llawr.

Pan oedd cyfiawnder difrif
Yn llosgi megys tân,
A swn taranau Sinai
Yn gyru'r gwres yn mlaen,
Gwaed Iesu croeshoeliedig
A wraeth foddlonrwydd llawn;
Myrdd o fyrddiynau heddy'
Sy'n canu am yr iawn.

Yr Yspryd Glân sancteiddiol,
Y ffynon o lanhad,
Sydd yn cymhwyso'n helaeth
Yr iachawdwriaeth rad,
Nes byddo f'enaid ofnus,
Crynedig, ar y llawr,
Yn dechreu hwylio'i danau,
Yn y cystuddiau mawr.

Fe'm dysg, fe'm cyfarwydda,
I gerdded ar fy nhaith;
Fel colofn dân fe'm harwain
Trwy'r dyrys anial maith;
Nes delwy' i Sion dawel,
Sy' heb ryfel byth, na phoen,
Ond cydsain Haleluwiah!
Hosana i Dduw a'r Oen.

Fe dderfydd peraidd bynciau
Yr hediaid mân y sydd
Yn chwareu 'u llaes adenydd,
Ar doriad gwawr y dydd;
Ond gwaredigion Sïon,
A ddaeth o'r cystudd mawr;
Par eu caniadau 'n newydd,
A newydd fydd eu gwawr."

Dengys yr Ymddiddan hwn fod syniadau Daniel Rowland ar y pynciau mewn dadl, yn gyffelyb i eiddo y rhai a ystyrir yn gyffredin yn dduwinyddion uniawngred, a'i fod yn dra chydnabyddus a hanesiaeth eglwysig. Dengys, hefyd, ysywaeth, ei fod wedi ymddigio trwyddo, ac i chwerwder ei yspryd ei arwain i ddefnyddio geiriau llymion, fel brath cleddyf. Nid ydym yn sicr, ychwaith, ei fod yn cyflwyno golygiadau Howell Harris gyda hollol degwch; prin, efallai, y gellid dysgwyl hyny wrtho mewn dadleuaeth mor gyffrous. Nid cywir dweyd fod Harris yn ymwrthod, o leiaf yn gyfangwbl, a'r gair person, pan yn cyfeirio at y Drindod; yr ydym wedi dod ar draws y term droiau, yn y difyniadau a rydd o'i bregethau. Nid ydym ychwaith wedi cael ei fod yn dal ddarfod i'r Tad ymgnawdoli, ond efallai yr ystyriai Rowland hyn yn gasgliad anocheladwy oddiwrth y dywediad fod y Drindod yn preswylio yn Iesu Grist. Nid annhebyg, hefyd, fod Harris, yn ngwres ei areithyddiaeth wrth bregethu, yn defnyddio ymadroddion mwy eithafol nag a gofnoda pan yn ysgrifenu yr hyn a ddywedodd, gwedi i'r gwres gilio. Eithr am y pethau eraill, sef ei fod yn condemnio gwybodaeth llyfrau, yn galw ei wrthwynebwyr yn Ariaid, ac yn Ddeistiaid, ei fod yn dal fod corph yr Arglwydd Iesu yn holl-bresenol, a'i fod, pan y gwesgid yn galed arno, yn syrthio yn ol ar y datguddiad y tybiai ei fod wedi ei dderbyn, y mae sail iddynt oll yn nydd-lyfr Harris ei hun. Hyd yn nod pe na byddai ei olygiadau ar y Drindod a dirgelwch person Crist yn annghywir, yr oedd yn pwysleisio yn ormodol ar hyn, ac yn rhoddi iddo fwy o le nag oedd briodol, yn ol cysondeb y ffydd. Yn mlynyddoedd olaf ei gysylltiad a'r Methodistiaid, prin y cai dim arall sylw yn ei weinidogaeth; beth bynag a fyddai ei destun, troai at y pwnc hwn fel y nodwydd. at begwn y gogledd; ac un o'r achwyniadau a ddygid yn ei erbyn ydoedd, fod cyfnewidiad hollol wedi cymeryd lle yn nhôn ei bregethu. Diau mai un rheswm am hyn oedd y gwrthwynebiad a gyfododd i'w athrawiaeth. Ymgyndynu, a myned yn fwy penderfynol, a wnelai, yn ddieithriad, pan y caffai ei wrthwynebu. A gosodai allan ei syniadau mewn ymadroddion a dull tra chyffrous. Meddai unwaith: "Nid wyf yn adnabod yr un Duw ond Iesu Grist; cymerwch chwi y lleill i gyd; yr wyf yn eu herio oll." Yr oedd ymadroddion o'r natur yma, yn nghyd a'r haeriad fod ei wrthwynebwyr yn addoli eilunod o greadigaeth eu dychymyg eu hunain, ac yn gwadu priodol dduwdod yr Arglwydd Iesu, yn annyoddefol i deimlad Daniel Rowland a'i gyfeillion, ac yn gwneyd aros mewn cydgymundeb ag ef yn anmhosibl.

Rhaid cofio, hefyd, fod achosion eraill i'r ymraniad heblaw gwahaniaeth barn. parthed athrawiaeth. Honai Harris awdurdod unbenaethol dros y seiadau a'r cynghorwyr. Geilw ei hun drosodd a throsodd yn dad y Gymdeithasfa; cyffelyba ei swydd i eiddo Moses, yr hwn a osodasid yn farnwr ar Israel, ac ystyria ei fod wedi cael ei osod ynddi gan Dduw lawn mor uniongyrchol. Nid ymgynghorai â barn ei frodyr; ac ystyriai fod dywedyd yn ei erbyn yn wrthwynebu Duw. Diarddelai o'r seiat, a thorai y cynghorwyr allan,