Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/432

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

helid math o gyfarfod rhagbarotoawl i'r Gymdeithasfa gan Howell Harris a'i blaid yn Llwynyberllan. Ymddengys mai cyfarfod y Corph mewnol" ydoedd; ac yr oedd tua phump-ar-hugain yn bresenol, yn mysg pa rai, heblaw Harris ei hun a Madam Griffiths, y cawn Richard Tibbot, John Sparks, John Richard, ac eraill o ryw gymaint o enwogrwydd. Yr oedd yr hunanymwadiad a ofynai Harris gan y cynghorwyr, a'r ddysgyblaeth a gadwai arnynt, yn dechreu dyfod yn annyoddefol o lym; ac un o brif orchwylion y gwahanol Gymdeithasfaoedd oedd gwyntyllu y pregethwyr, er cael gweled pwy a ddeuai i fynu a'r safon. Rhoddwyd hwy dan arholiad caled yn Llwynyberllan. Gofynid tri chwestiwn iddynt (1) A oedd eu gwybodaeth o Grist yn yr yspryd, ynte yn y pen yn unig? (2) A oeddynt yn meddu Ilawn sicrwydd eu bod wedi cael eu galw ganddo i bregethu? Ac os felly, a oeddynt yn feirw i bob math o amcanion personol, ac yn barod i ddyoddef pob math o galedi, oerfel, newyn, noethni, a phob cyffelyb groesau? (3) A oeddynt yn ymlynu wrth waith hwn y diwygiad, fel y mae yn cael ei gario yn mlaen oddifewn i'r Eglwys Sefydledig? Braidd nad yw yn gofyn ganddynt ganddynt i hunanymwadu a'u hewyllys ac a'u barn, a bod yn gwbl ddibris o'u hamgylchiadau, gan fod yn fath o beirianau yn ei law ef, i fyned o gwmpas, ac i weithredu fel eu gorchymynid. Er caleted y prawf, atebodd y cynghorwyr y gofyniadau yn foddlonol, rhai gyda mwy a rhai gyda llai o ffydd. Eithr yr oedd un cwestiwn llosgawl yn aflonyddu meddyliau y cynghorwyr, sef presenoldeb a swyddogaeth Madam Griffiths, "y Llygad," yn y Gymdeithasfa. Mewn gwirionedd, hi a lywodraethai i raddau mawr, gan y credai Harris fod meddwl Duw ganddi; a phan y gweithredai mewn rhyw amgylchiad heb ymgynghori â hi, nid esgeulusai hithau ei geryddu yn llym. Yr oedd ei llywodraeth yn pwyso fel hunllef ar y pregethwyr, a dyma y mater yn dyfod i'r bwrdd. "Gwedi hyn," meddai Harris, "pan nad oedd Madam Griffiths yn cael rhyddid i siarad, mi a aethum allan, a thorwyd y cwbl i fynu mewn annhrefn." Ai y cynghorwyr a'i rhwystrent i lefaru, gan wrthod gwrando; ynte hi a deimlai nas gallai siarad fel arfer, am nad oedd y cyfarfod mewn cydymdeimlad à hi, nis gwyddom. Yr olaf sydd fwyaf tebyg. Parhaodd yr annhrefn a'r dyryswch am bum' awr; Madam Griffiths yn bygwth ymadael, a Harris a rhai o'r cynghorwyr yn crefu arni beidio; " a'r Arglwydd a'i cadwodd rhag myned," meddai y dydd-lyfr. gwmpas deuddeg, cyfarfyddwyd drachefn, buwyd wrthi yn dadleu hyd dri o'r gloch y boreu, ac yna trodd y fuddugoliaeth of blaid Harris. "Gwedi brwydr enbyd a maith â Satan," meddai, "o gwmpas tri o'r gloch y boreu, daeth yr Arglwydd i lawr, ac unodd hi a minau â hwy." Diau genym mai parch, yn ymylu ar fod yn addoliad, i Howell Harris a barodd i'r brodyr roddi ffordd. Cyfodasai Harris yn y canol, gan ofyn pwy oedd yn teimlo ar ei galon i roddi ei hun, enaid a chorph, i'r Arglwydd, ac i'w gilydd dros byth? cyntaf i ateb yr alwad oedd Thomas Jones; y nesaf oedd Thomas Williams, yn dra difrifol; gwedi hyny, amryw eraill, ac yn eu mysg Richard Tibbot. "Yna," medd y cofnodau, "mor fuan ag yr oedd pob un yn ildio, yr oedd gogoniant gweledig yn gorphwys arno, a theimlai pawb berthynas a'u gilydd na wyddent am ei chyffelyb o'r blaen, a theimlent bob peth yn gyffredin." Yn awr y gwelai Harris sylfaen teml Dduw yn Nghymru yn cael ei gosod i lawr. Hawdd gweled eu bod wedi colli pwyll a barn, gan ymgladdu yn y cyfriniol a'r dychymygol. Ond yr oedd amryw o'r brodyr yn petruso, wedi y cwbl, a gwrthodasant ateb ar y pryd.

Ar yr ail o Ionawr, yr oedd y Gymdeithasfa yn Dyserth. Yn Llanfairmuallt, ar y ffordd tuag yno, pregethodd Thomas Williams a John Relly. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth rymus gan John Sparks. Yna, dechreuodd Harris lefaru, am yr angenrheidrwydd anorfod i bawb roddi eu hunain i fynu i'r Arglwydd, i'w waith, ac i'w gilydd; fod yr amser wedi dyfod yn awr i osod i lawr y sylfaen, ac i ymuno yn nghyd. Yna, gofynai, megys y gwnaethai yn Llwynyberllan: "Pwy sydd yn awr yn barod i adael pob peth er mwyn Duw a'r gwaith hwn? Pwy a fedr roddi ei enaid, ei gorph, a'i yspryd, yn nghyd a'r oll ag ydyw, a'r oll sydd ynddo, i'r Arglwydd, ac i ni, ei frodyr a'i weision?" Crybwyllodd fod deg o honynt wedi cydymrwymo i wneyd hyny yn Llwynyberllan. Cododd nifer mawr i ddangos eu parodrwydd, ac wrth eu gweled ar eu traed, sibrydai y cynghorwr William Powell wrth Harris: "Y mae yr Arglwydd yn gwneyd gwaith mawr."