Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/433

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eithr aeth nifer allan heb ateb, ac yn eu mysg rai oeddynt wedi rhoddi i mewn yn Llwynyberllan, sef John Richard, Llansamlet, Thomas Bowen, Llanfair-muallt, Stephen Jones, William Jones, a Rue Thomas. &c. Nifer y rhai ddarfu ymrwymo oedd saith-ar-hugain, ac ymgyfamodent eu bod hwy, a'r hyn oll a feddent, i gael eu llywodraethu a'u trefnu gan y corph cyffredin; y gwnaent bregethu neu beidio pregethu, rhoddi eu holl amser i fyned o gwmpas, yn union fel y trefnid iddynt; y rhoddent eu gwasanaeth oll iddo ef ac i'w gilydd, gan gymeryd y naill y llall, er gwell ac er gwaeth. "Dangosais iddynt fawredd y gwaith," meddai Harris, "ei fod tu hwnt i'r hyn yr oeddym yn ymwneyd ag ef yn flaenorol; fod hwnw yn gofyn am i ni fod yn farw i'n hewyllys a'n doethineb ein hunain; eithr fod hwn yn gofyn doethineb arbenig, i weled pwy sydd wedi cael ei anfon gan yr Yspryd Glân." Gwelir fod y cynghorwyr a ganlynent Harris yn ymffurfio yn fath o urdd, ac yn cymeryd arnynt fath o adduned, nid annhebyg o ran llymder dysgyblaeth, a llwyrder ufudd-dod, i'r urddau arbenig yn yr Eglwys Babaidd. Cofnodir nad oedd Richard Tibbot yn Dyserth, am y cawsai ei anfon ar daith i'r Gogledd, a Lewis Evan gydag ef.

Y dydd Llun canlynol, yn Gore, clywodd fod ei fam wedi marw. Brysiodd tuag adref, ac wrth edrych ar y corph, yr oedd natur yn derfysglyd ynddo, ond pan y clywodd mai ei geiriau diweddaf oeddynt: "Arglwydd Iesu, derbyn fy yspryd," ymdawelodd, ond hiraethai yntau am fyned adref. Pregethodd yn ei hangladd oddiar y geiriau: "O angau, pa le mae dy golyn?" Erbyn hyn, y mae yn cael sail i ofni fod y llanw yn dechreu troi yn ei erbyn yn ngwahanol ranau y wlad. Yn Erwd, cafodd lythyr o Dyserth, lle y cadwai ei Gymdeithasfa yr wythnos cyn hyny, fod y seiat wedi ymwrthod ag ef, ac wedi rhoddi ei hun dan ofal Thomas Bowen. Yn Cwmcynon, ar ei ffordd i Sir Benfro, cofnoda fod pawb a wrandawsent arno yno, naill ai wedi cael eu hargyhoeddi, neu eu dystewi; na wnaeth neb ei wrthwynebu, ond iddynt fyned allan. Mewn amryw fanau yn Sir Gaerfyrddin, dywed iddo adael y seiat heb gymeryd ei gofal, am y teimlai yno bresenoldeb y diafol. Trafaelodd Benfro yn bur fanwl; dywed iddo gael odfaeon da, "ond," meddai, "yr wyf yn cael fy nuo gymaint oblegyd fy athrawiaeth, a'm canlynwyr, a Madam Griffiths, fel y mae yn gofyn cryn lawer o ffydd i'm derbyn i dŷ." Yn nesaf, cawn ef ar daith yn Sir Forganwg, a thra cymysglyd y mae yn cael pethau. Ar y ddegfed o Chwefror, ysgrifena fel y canlyn yn y Dyffryn, ger Taibach: "Neithiwr, daethum yma, ar ol pregethu yn yr Hafod, ac wedi gwrthod aros yno, am nad oedd yr Arglwydd yn eu mysg. Pan y pregethwn iddynt, yr oedd y cyfan yn eu condemnio, am iddynt adael yr Arglwydd." Prydnhawn yr un dydd, pregethai yn Castellnedd, ac aeth yr hwyr hono i dŷ John Richard, Llansamlet, i letya. Eithr yno cafodd fod John Richard wedi sefyll ar ol, ac wedi methu dyfod i'r goleuni, gan gymeryd ei berswadio gan ei wraig, a chan ei reswm cnawdol, a'i ddiffyg ffydd. Yr oedd, hefyd, wedi troi yn erbyn Madam Griffiths. Ymadawodd Harris ar unwaith, gan deithio trwy y nos, nes cyrhaedd Llandilo Fach. Ar y ffordd, amheuai ai ni wnai yr Arglwydd godi rhyw gorph arall o bobl i gario yn mlaen ei waith? Ac ai ni fyddai iddo ef a Madam Griffiths gael eu gadael wrthynt eu hunain yn y diwedd, a'r bobl wedi myned i wrando y blaid arall? Yn Gelly-dorch-leithe, dranoeth, cyfeiria at dŷ y cynghorwr George Phillips, fel tŷ ychwanegol y darfu iddo wrthod aros o'i fewn, am nad oedd yr Arglwydd yn ben yno.

Ar y 14eg o Chwefror, 1751, cynhelid cyfarfod yn Nhrefecca i drefnu teithiau y cynghorwyr i wahanol leoedd. Penderfynwyd fod pump i fod ar daith yn gyson yn y Dê, a phedwar yn y Gogledd; trwy y trefniant yma, tybid y byddai pob seiat yn cael ymweliad unwaith yr wythnos. Cydunwyd, yn mhellach, fod y cynghorwyr i ymweled ag aelodau preifat, y rhai y tybid eu bod yn gymhwys i uno, gan roddi gwybod am danynt i Harris a Madam Griffiths, fel y gallent hwy eu sefydlu yn eu lle. Nid oedd neb i gael eu hystyried yn aelodau ond a feddent y ffydd, ac a roddasent eu hunain i'r Arglwydd, ond yr oedd y rhai a ddifrifol geisient, ac a ymdrechent ddyfod i fynu, i gael ymweled â hwy. Cafwyd yma, hefyd, fod amryw frodyr yn weiniaid, a rhai yn tueddu i droi yn ol. Yr ydym yn cael cyfarfod cyffelyb yn Nghastellnedd, Ebrill 10 a 11, yn mha un, heblaw Howell Harris a Madam Griffiths, yr oedd yn bresenol John Sparks, Richard Tibbot, Lewis Evan, ac amryw eraill. Y nesaf at Harris ei hun, John