isiwn cyffredin, "Ewch, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." (2) Hyd nes y byddent yn cymeryd y prif-ffyrdd a'r caeau, na fyddent yn cymeryd mantais ar y rhyddid ardderchog oedd yn eu dwylaw trwy ganiatad caredig y llywodraeth. (3) Am fod llawer o bobl gnawdol a ddeuent i wrando i'r maes agored, neu i'r heol, ond na ddeuent i dŷ. (4) Am mai trwy bregethu allan y dechreuodd y gwaith, a'i fod yn ymddangos yn rhesymol iddo gael ei ddwyn yn mlaen yn yspryd ei gych wyniad. (5) Hyd oni fyddent wedi cymeryd y prif-ffyrdd a'r caeau, nas gallent deimlo yn hyderus eu bod wedi gwneyd yr oll o fewn eu gallu dros iachawdwriaeth y wlad. Y Gymdeithasfa hon yw y diweddaf y ceir ei hanes yn nghofnodau Harris.
Ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1752, cawn Gymdeithasfa Gyffredinol yn Lanllugan, Sir Drefaldwyn. Tua phump-ar-hugain oedd yn bresenol. Nid ydym yn meddwl fod Lewis Evan yn eu mysg, oblegyd yn fuan ar ol hyn yr ydym yn cael Harris yn gweinyddu cerydd llym arno fel un oedd wedi methu dyfod i fynu i'r goleuni, act wedi dangos gelyniaeth at yr Arglwydd. Gwaith cyntaf y Gymdeithasfa oedd ym. wrthod a'r enw 66 Methodistiaid," gan fod yr enw wedi cael ei halogi yn enbyd trwy au athrawiaeth, hunanoldeb, a gelyniaeth at y gwaed. O hyn allan yr oedd pobl Howell Harris i gael eu hadnabod wrth yr enw Cynghorwyr," yr hwn enw nid oedd neb yn ei ddefnyddio, ac yr oedd eu prif gyfarfodydd i gael eu galw yn Gynghorau, ac nid yn Gymdeithas faoedd. Tebygol fod y rhai a elent o gwmpas i rybuddio pechaduriaid yn dechreu cael eu hadnabod fel llefarwyr, neu bregethwyr, a bod cynghorwr, fel enw swyddol, yn myned allan o arferiad. Yr oedd Harris yn y "Cynghor" hwn yn enbyd o lym; dywedai wrth y brodyr, nad oeddynt yn tyfu, na feddent yspryd y diwygiad, nad oedd cariad Duw yn llosgi yn eu heneidiau, ac mai dyna y rheswm paham yr oedd mor lleied yn dyfod i'w gwrando. Dywedai, yn mhellach, nad oedd ar y diafol ddim o'u hofn, eithr yn hytrach fod arnynt hwy ofn y diafol. Achwyna, hefyd, fod pawb fel pe byddent yn ei erbyn ef a'r rhai a lynent wrtho, a bod rhai o'r brodyr mewn perygl o gael eu lladd yn Siroedd Môn a Dinbych. Un o benderfyniadau y Cynghor oedd peidio adeiladu rhagor o gapelau, a pheidio defnyddio capel o gwbl, ond pregethu yn yr awyr agored, mewn ffeiriau, a marchnadoedd, ac yn y pentrefydd. Ar y ffordd adref o Gynghor Llanllugan, y mae yn galw yn y Fedw, ac yma cawn y syniad "deulu yn Nhrefecca yn cymeryd ffurf. Ymddiddenais," meddai, "â dwy chwaer, Sarah a Hannah Bowen, y rhai ydynt yn teimlo eu hunain dan rwymau i gyflwyno eu hunain i'r Arglwydd, ac i mi. Cymhellais hwynt i ddyfod i fyw i Drefecca, gan ei fod yn debygol fod yr Arglwydd yn myned i osod i lawr sail ty yno, ac efallai mai hwy fyddai y meini cyntaf. Yr wyf fi yn awr i fod yn fwy cartrefol, er ysgrifenu, &c." Merched Mr. Bowen, o'r Tyddyn, oedd y ddwy hyn, ac aethant i Drefecca, fel y cymhellai hwynt. Miss Sarah Bowen a ddaeth gwedi hyn yn wraig i Simon Lloyd, o'r Bala.
Cynhaliwyd y Cynghor nesaf yn Nhrefecca, Chwefror II, 1752. Erbyn hyn, yr oedd amryw o'r prif gynghorwyr, a safasent o blaid Howell Harris yn ddewr ar y cyntaf, wedi ei adael. Yn mysg y cyfryw yr oedd John Sparks, John Harris, St. Kennox, a Thomas Williams, o'r Groeswen. Yr oedd yntau yn llym iawn wrth y pregethwyr oedd ar ol. Dywedai wrthynt nad oeddynt i gadw seiadau o gwbl; nad oedd neb o honynt wedi dyfod yn ddigon o dad i hyny, ond myned allan i Lregethu yn unig. Ac y mae yn sicr fod y pregethwyr a lynent wrtho yn fwy anwybodus, yn fwy anniwylledig eu moes, ac yn llawnach o ryw fath o zêl benboeth, na'r rhai oeddynt wedi cefnu. Yn uniongyrchol wedi y Cynghor, aeth am daith faith trwy Siroedd Caerfyrddin, Penfro, rhan o Sir Aberteifi, a Sir Forganwg. Cafodd gynulleidfaoedd anferth yn mhob man, yn arbenig yn ngodreu Sir Aberteifi, ac yn Sir Benfro. Yn yr awyr agored y pregethai yn mhob lle; dywed fod y cynulleidfaoedd yn rhy fawr i unrhyw dy; ond y mae lle i gasglu fod llawer o'r tai, yn mha rai yr arferid ei dderbyn fel angel Duw, wedi cael eu cau iddo yn awr. Yn Cilgeran, sylwa fod ei gynulleidfa yn cael ei gwneyd i fynu yn gyfangwbl yn mron o ddynion digrefydd, y ddynion digrefydd, y rhai na arferent fyned i wrando i un man; ond fod y proffeswyr yn absenol, ac mai felly yr oedd yn y nifer amlaf o'i gyfarfodydd. Yn Hwlffordd, pregethai ar yr ystryd, a dywed fod Howell Davies, John Sparks, a John Harris, St. Kennox, yn mysg ei wrandawyr. Pregethu yn enbyd o lym at wnelai; ac nid yw yn ymddangos iddo gael unrhyw gymdeithas a'i hen gyd