Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/436

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lafurwyr. Rhaid fod mesur o brudd-der yn mynwes y naill blaid a'r llall. O Sir Gaerfyrddin, croesodd dros y mynyddoedd i Landdewi-brefi, a dywed i gynulleidfa o amryw filoedd ddyfod yn nghyd. Beth a'i cymhellai i fyned gymaint allan o'i ffordd er pregethu yno, y mae yn anhawdd dweyd, os nad oedd am daflu i lawr fath o her i Daniel Rowland, yr hwn a wasanaethai yn yr eglwys yno fel cuwrad. Eithr llawn rhagfarn y cafodd bobl Llanddewi-brefi; nid oedd neb fel pe am ymddyrchafu at y goleuni. Oddiyma, wedi ymweled â nifer o leoedd yn Siroedd Caerfyrddin a Maesyfed, dychwelodd i Drefecca. Dyma y daith ddiweddaf, o unrhyw bwys, am faith flynyddoedd it Howell Harris gydag achos yr efengyl yn Nghymru. Teimlai fod ei achos yn gwanhau dros y wlad. Yr oedd y safon a osodosai i fynu yn rhy uchel, ei ddysgyblaeth yn rhy lem, a'i ymddygiad yn rhy dra-awdurdodol, i'r cynghorwyr a'r seiadau allu glynu wrtho. Ac y mae yn amlwg fod plaid Rowland yn enill tir. Gyda hwy yr oedd cydymdeimlad yr enwadau eraill, yn Eglwyswyr, ac yn Ymneillduwyr. Cawn ddarfod i Whitefield, yr haf hwn drachefn, ddyfod i lawr i Gymru, a phregethu tros ddeugain o weithiau gyda phobl Rowland, a bu yn bresenol mewn un Gymdeithasfa. Er y teimlai Harris fod y llif yn myned yn ei erbyn, ni lwfrhaodd ei galon mewn un modd, ond y mae yn dechreu ar ffurf newydd o weithredu, sef casglu teulu i Drefecca, a dysgyblu pregethwyr ac eraill yno, fel y gallai y lle ddyfod yn ganolbwynt gweithrediadau crefyddol, a ymledent dros holl Gymru, a rhanau o Loegr.