Fel na fedr neb yn Nghymru,
Trwy na chleddyf fyth na ffon,
Ddod â thy, o'r un rhifedi,
Tan y dymher hyfryd hon.
Y mae gweddi cyn y wawrddydd
Yn Nhrefecca ganddo fe,
'R amser bo trwm gwsg breuddwydlyd
Yn teyrnasu yn llawer lle;
A chyn llanw'r bol o fwydydd,
Fe geir yno gynghor prudd,
A chyn swper, gweddi a darllen—
Tri addoliad yn y dydd."
Parodd cyfodiad yr adeilad, a sefydliad y teulu, yn Nhrefecca, i liaws o chwedlau anwireddus gael eu taenu ar led yn Nghymru. Awgrymid mai amcan y Diwygiwr oedd ymgyfoethogi ar drau y bobl oludog a hudai i'r lle, a gwneyd arian trwy eu llafur a'u diwydrwydd. Nid oedd un sail i'r chwedlau hyn. Pa beth bynag oedd ffaeleddau Howell Harris, nid oedd gwanc am gyfoeth, nac anrhydedd daearol, yn un o honynt. Ar yr un pryd, nid oedd yn gwbl rydd o roddi achlysur i ddrwgdybiaeth. Pan fyddai pobl gyfoethog, yn arbenig os mai merched ieuainc a fyddent, yn bwrw yr oll a feddent i'r drysorfa gyffredin yn Nhrefecca, yr oedd yn naturiol i'r perthynasau a ddysgwylient elwa oddiwrth eu meddianau mewn rhyw ffordd neu gilydd, fyned yn chwerw eu teimlad, a hau eu drwgdybiau ar led. A chwedi i'r meddiant gael ei fwrw i mewn, nid heb anhawsder dirfawr y gellid ei gael allan drachefn, hyd yn nod pan fyddai yr amgylchiadau yn cyfreithloni hyny. Fel esiampl, gallwn gyfeirio at helynt Miss Sarah Bowen, un o'r ddwy chwaer o'r Tyddyn, yr hon oedd yn meddu cryn gyfoeth, ac fel pawb a ddeuent i Drefecca a'i rhoddasai oll i'r sefydlaid. Un diwrnod, daeth Mr. Simon Lloyd, o Plasyndref, Bala, i'r lle, mewn rhan, feallai, o gywreinrwydd, ac mewn rhan er cael budd ysprydol i'w enaid. Wedi iddo guro, pwy agorodd y drws iddo ond Miss Bowen. Rhedodd serch y boneddwr ar y ferch ieuanc ar unwaith; a chan iddo allu ei denu hithau i gyfranogi o'r unrhyw deimlad, gwnaeth y ddau drefniadau i briodi. Ond sut i gael meddianau y foneddiges yn ol oedd yr anhawsder. Bu yn gryn helynt yn nghylch y peth; daeth John Evans, y pregethwr adnabyddus o'r Bala, yn ei un swydd i Drefecca, i gyfryngu, ac wedi tipyn o ddadleuaeth, llwyddwyd i wneyd gweithred briodas foddhaol, yr hon sydd ar gael hyd y dydd hwn.
Tua'r flwyddyn 1756, yr oedd y deyrnas yn llawn cyffro o ben bwy gilydd iddi gan ofn y byddai i'r Ffrancod geisio croesi trosodd i ddarostwng Prydain. Yr oedd Howell Harris yn deyrngar hyd ddyfnder ei yspryd; credai fod crefydd, yn ogystal a gwleidlywiaeth, yn galw arno i bleidio y Brenhin Sior; ac nid oedd mewn un modd yn amddifad o yspryd rhyfelgar. Dan ddylanwad y cyffro, darfu i Gymdeithas Amaethyddol Brycheiniog gyflwyno anerchiad i'r brenhin, yn cynyg ymffurfio yn gatrawd o feirch-filwyr ysgeifn, a myned ar eu traul eu hunain i unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol y gelwid am eu gwasanaeth. Pan glywodd Harris am y peth, anfonodd at y gymdeithas, y gwnai efe, os derbynid eu cais, godi deg o feirch-filwyr mewn llawn arfogaeth, ar ei draul ei hun, i fod yn ychwanegiad at y gatrawd. O herwydd rhyw resymau, ni dderbyniwyd cynygiad gwladgarwyr Brycheiniog, ond darfu i'r gymdeithas gydnabod ei rhwymedigaeth i Harris trwy ei ethol yn aelod anrhydeddus o honi. Yn fuan gwedi hyn rhoes fater y rhyfel gerbron y teulu yn Nhrefecca, ac mewn canlyniad, ymrestrodd pump o wyr ieuainc crefyddol i'r fyddin. Buont mewn amryw frwydrau poethion; cymerasant. ran yn enilliad Quebec oddiar y Ffrancod, pan laddwyd y Cadfridog Wolf. Tra y syrthiai eu cydfilwyr yn feirwon o'u cwmpas, yr oedd rhyw amddiffyn dros filwyr Harris, ac ni laddwyd cymaint ag un o'r pump. Bu pedwar o honynt feirw o farwolaeth naturiol mewn gwledydd tramor, a dychwelodd y pumed yn ei ol i Drefecca, ar ol cael ei gymeryd yn garcharor gan y Ffrancod, lle yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth.
Tua gwanwyn y flwyddyn 1760, yr ydym yn cael Howell Harris, tan ddylanwad cymhellion ei frawd, Joseph, ac aelodau Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog, yn ymuno a'r milisia, ac yn dwyn gydag ef o deulu Trefecca bedwar-ar-hugain o wŷr. Yn bur fuan, rhoddwyd iddo gomisiwn fel cadben. Ar un olwg, peth syn oedd canfod efengylwr, fel Harris, yn troi yn filwr; ond ystyriai efe fod Protestaniaeth yn y chwareu; credai, os yr enillai y Ffrancod y dydd, y deuai Pabyddiaeth yn oruchaf, ac y cai y Beiblau eu halltudio o'r wlad mewn canlyniad. Teimlai ei fod yn gwasanaethu ei Dduw lawn mor wirioneddol wrth afaelu yn y cledd, ag y gwnelai gynt wrth deithio o gwmpas i bregethu yr efengyl. Cyn myned, gosododd y sefydliad yn Nhrefecca yn nwylaw ymddiriedolwyr hyd oni ddychwelai, a phenododd Evan Moses i fod yn llywodraethwr yn ystod ei absenoldeb. Brodor o Aberdar oedd Evan Moses, a dyn annysgedig, ond tra difrifol, ac yr oedd ei barchedigaeth i Howell Harris yn ddiderfyn. Y lle cyntaf yr anfonwyd y milisia iddo oedd Yarmouth, ac ar ei ffordd yno, pregethai Harris yn mhob man. Wedi cyrhaedd y dref, holodd ai nid oedd Methodistiaid yno? Hysbyswyd ef ddarfod i amryw wneyd ymgais i bregethu yno, ond iddynt gael eu rhwyso gan gynddaredd y werinos, ac mai yn brin y dihangasant a'u bywyd ganddynt. Yn ddiegwan o ffydd, anfonodd griwr y dref allan i roddi rhybudd y byddai pregethwr Methodistaidd yn llefaru yn y farchnadfa ar awr benodol. Yno yr ymgasglodd tyrfa anferth, gyda cherig, a darnau o briddfeini, a llaid, i'w hyrddio at y pregethwr, pan ddeuai, a thyngent y gosodent derfyn ar ei hoedl. Yr oedd Harris ar y pryd yn peri i'w ddynion fyned trwy ryw ymarferiadau milwraidd, ar lecyn oedd yn ymyl. Pan ddaeth awr y cyhoeddiad i fynu, aeth at y dyrfa, a gofynodd beth oedd y mater. Atebasant eu bod yn dysgwyl pregethwr Methodistaidd, a bod yn dda iddo na ddaeth. Dywedodd yntau yn ol fod yn drueni iddynt gael eu siomi, ac y gwnai ef ganu emyn gyda hwy, a myned i weddi, ac hefyd roddi gair o gyfarchiad. Aeth i ben bwrdd oedd wedi ei osod yn ymyl; ymgasglodd ei wŷr o'i gwmpas; canwyd nes adseinio y farchnadfa, a gweddïodd yntau yn ganlynol gyda nerth dirfawr. Yr oedd newydd-deb yr olygfa, y gwŷr arfog oedd o gwmpas i amddiffyn eu cadben, y rhai a ddywedent Amen yn uchel, yn nghyd â rhyw ddylanwad dwyfol oedd yn y lle, wedi trechu y dorf, fel cafodd Harris bob llonyddwch i bregethu. A chafodd odfa nerthol iawn; disgynodd y fath ddylanwadau ar y werin fel yr argyhoeddwyd amryw ar y pryd. Bob prydnhawn, braidd yn ddieithriad, pregethai yn y farchnadfa i dorf anferth, yn ei wisgoedd milwraidd. Yn raddol, daeth pregethwyr eraill yno, ffurfiwyd seiat gref a lliosog, a daeth Yarmouth mor enwog am ei chrefyddolder ag oedd yn flaenorol am ei hannuwioldeb.
Y gauaf canlynol, cafodd y milisia eu gorchymyn i Aberhonddu, ac aeth Cadben Harris i bregethu i amryw leoedd, fel yr arferai gynt. Ymddengys, hefyd, fod teimladau llawer caredicach yn ffynu yn awr rhyngddo ef a Rowland a'i blaid; yr oedd y ddwy ochr wedi dyfod i deimlo ddarfod iddynt gamddeall eu gilydd, mai ymryson yn nghylch geiriau oedd y cweryl a fuasai rhyngddynt, i raddau mawr; a bod y naill a'r llall wedi cyfeiliorni oddiwrth frawdgarwch yr efengyl. Teimlai y Methodistiaid eisiau gwroldeb a medr trefniadol y Diwygiwr o Drefecca yn eu cyfarfodydd. Yn y flwyddyn 1759, yr oeddynt wedi myned mor bell ag anfon cenadwri ato i geisio ganddo ddychwelyd; a chariwyd y genadwri i Drefecca mewn llythyr gan Daniel Rowland yn bersonol. Ni welai efe ei ffordd yn rhydd ar y pryd i gydsynio, ond diau i'r cais effeithio yn ddirfawr ar ei yspryd. Tybir mai yr adeg hon, pan yr oedd y milisia yn Aberhonddu, y digwyddodd yr helynt yn nglyn à Chymdeithasfa Llanymddyfri. Y traddodiad yw iddo unwaith, wrth fyned tua thref Llanymddyfri, gyfarfod a Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a nifer o gynghorwyr, yn dianc oddiyno am eu bywyd, wedi methu cynal Cymdeithasfa oblegyd terfysg ac erledigaeth y werinos. Ceisiodd yntau ganddynt ddychwelyd gydag ef. Wedi cyrhaedd y dref, esgynodd i ben y gareg farch, a wasanaethai fel pwlpud, a chan edrych fel llew ar y terfysgwyr, gwaeddodd: "Gosteg, yn enw Brenhin y nefoedd!" Ni effeithiodd ei floedd ddim ar y dorf, rhegent a bygythient fel cynt. Ar hyny, diosgodd ei wisg uchaf, nes yr ymddangosai ei ddillad milwraidd, a bloeddiodd: "Gosteg, yn enw y Brenhin Sior!" Dychrynwyd y dorf gan y gwisgoedd swyddogol; aethant yn fud ac yn welw; teyrnasodd dystawrwydd hollol trwy y lle, a chymerodd yntau fantais ar y cyfleustra i ddanod iddynt fod arnynt. fwy o ofn brenhin Lloegr nag oedd arnynt o ofn Duw. Wedi hyn, cafodd y Methodistiaid berffaith lonyddwch i gynal eu Cymdeithasfa.
Yn mis Rhagfyr, 1762, ymwasgarodd y milisia yn Aberhonddu, a rhoddodd Harris ei gomisiwn fel cadben i fynu. Yr oedd wedi enill iddo ei hun ganmoliaeth nid bychan trwy ei wladgarwch a'i ddewrder; teimlid parch diffuant ato gan fonedd Brycheiniog, a chawn yn awr yr efengylydd distadl, a fygythid gynt â dirwy ac â charchar, a'r hwn yr oedd uchel reithwyr y sir wedi dwyn achwyn yn ei erbyn gerbron un farnwyr ei Fawrhydi, yn uchel yn ffafr y rhai a'i herlidient.