Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/440

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd ei wŷr wedi ymddwyn yn y modd mwyaf canmoladwy. Ysgrifenai Syr Edward Williams, milwriad y gatrawd, ato fel y canlyn: "Cadben Harris—Nid oes genyf hamdden i wneyd tegwch ag ymddygiad eich gwŷr, ond gallaf eich sicrhau, ar fyr eiriau, fod eu buchedd yn adlewyrchu anrhydedd ar yr egwyddorion crefyddol y darfu i chwi gymeryd cymaint o drafferth i'w hyfforddi ynddynt."

Ar y 23ain o Ionawr, 1763, yr oedd Howell Harris yn dechreu ar ei haner canfed flwyddyn, yr hon a eilw yn flwyddyn ei Jiwbili. Erbyn hyn, yr oedd ei yspryd yn dyheu o'i fewn am undeb a'i hen gyfeillion; ac anfonasai Evan Moses, ei ben gwas, bedwar diwrnod cynt, gyda llythyr at Daniel Rowland, Llangeitho, yn gofyn am ail uno. diaufod Rowland ac yntau wedi trin y pwnc yn flaenorol, pan alwodd y blaenaf arno gyda llythyr y brodyr, a'i fod yn gwybod fod y Diwygiwr o Langeitho yn coleddu y cyffelyb deimlad ag yntau, onide ni fuasai yn anfon ei was gyda'r fath genadwri. Yr oedd yn amser braf ar Gymru yr adeg hon. Ar ol blynyddoedd o falldod ac o sychder dirfawr, torasai diwygiad allan yn Llangeitho yn y flwyddyn 1762, gyda dyfodiad hymnau Williams, Pantycelyn, yr hwn a ymledodd dros yr holl wlad, nes yr oedd y pentrefydd a'r cymoedd yn adsain gan foliant; a diau i'r gwres nawsaidd doddi ysprydoedd y Diwygwyr, a'u dwyn i deimlo yn gynhes at eu gilydd. Ar y 30ain o Ionawr, cafodd lythyr oddiwrth Evan Moses, yn ceisio ganddo gyfarfod â Daniel Rowland, yn Nhrecastell-yn-Llywel y dydd Mercher canlynol. Ymddengys fod Rowland yn myned y pryd hwnw i Gyfarfod Misol a gynhelid yn Llansawel. "Pan y darllenais," meddai Harris, "teimlwn yn llawen tu hwnt fod yr Arglwydd yn agor drws o ddefnyddioldeb i mi. Yr oeddwn wedi clywed am y bywyd oedd yn eu mysg, ac am eu llwyddiant; a'm hunig ofn ydoedd rhag i mi, trwy fy hunanoldeb a'm pechod, ddwyn melldith arnynt. Darostyngwyd fi; yr oeddwn mor rhydd oddiwrth eiddigedd fel y bendithiwn Dduw am eu cyfodi, ac y dymunwn ar iddynt beidio cyfranogi o angau gyda mi, ond i mi gael cyfranogi o'u bywyd hwy. Gwnaed fi yn llawen yn y gobaith o gael myned i'w mysg eto." Gwelir fod ei syniadau am Rowland a'i ganlynwyr wedi newid yn hollol, a bod yspryd newydd wedi ei feddianu. Cychwynodd i Drecastell i gyfarfod Rowland, ond yr oedd dirfawr bryder yn llanw ei fynwes, rhag iddo fod yn anffyddlawn i'w Dduw y naill ffordd neu y llall. Am y dull y cyfarfyddodd Rowland ac yntau, ni ddywed air; ond sicr yw yno wasgu dwylaw cynhes, os nad oedd yno gofleidio a thywallt dagrau. Gwasgodd Rowland arno am fyned gydag ef i'r Cyfarfod Misol i Lansawel, dywedai mai dyna ddymuniad y bobl gyffredin, yn gystal a'r eiddo yntau. Yr oedd Harris, yn y rhagolwg y gwnelid y fath gais ato, wedi penderfynu gwrthod; ond aeth cymhellion ei gyfaill yn drech nag ef, ac ar ol gwneyd y peth yn fater gweddi, cafodd fod yr Arglwydd yn foddlawn. Boreu dranoeth,. cychwynodd y ddau yn nghyd, a chyrhaeddasant Lansawel o gwmpas chwech. Yno cyfarfyddasant à Williams, Pantycelyn, Peter Williams, a llu o gynghorwyr. "Yr oeddwn wedi clywed," meddai, “am yr yspryd canu oedd wedi disgyn yn ngwahanol ranau Sir Aberteifi, a Sir Gaerfyrddin, ac am y canoedd oedd yn ymgynu i wrando. Agorodd yr Árglwydd fy ngenau i lefaru, na ddylem dderbyn na gwrthod yr arwyddion allanol hyn, ond y dylem eu barnu wrth eu dylanwad ar y galon, a'r bywyd, ac yn arbenig wrth chwilio a oeddent yn cynyrchu tlodi yspryd." Cyfeiriodd yn ei anerchiad, hefyd, at lyfr Williams, Pantycelyn, sef, Pantheologia, neu hanes holl grefyddau y byd, a chanmolodd ef fel llyfr tra buddiol. Y noswaith hono, lletyai Williams ac yntau yn yr un tŷ, a buont i lawr hyd ddeuddeg o'r gloch. "Addefai Williams," medd Harris, "ei ofid o herwydd iddo fy ngwrthwynebu gynt, ac eglurodd y modd yr arweiniwyd ef yn ganlynol i bregethu ac i argraffu yr athrawiaeth a wrthwynebasai. Dywedai, yn mhellach, mai myfi oedd ei dad." Diau fod y gymdeithas yn felus odiaeth. Y nos hono, wedi myned i'w wely, cymerwyd Harris yn glaf gan boen enbyd yn ei goluddion; nid annhebyg mai cyffro ei deimladau, a'i orlawenydd o herwydd cael ei hun unwaith drachefn yn mysg ei frodyr, oedd achos y selni. Yr oedd yn dra eiddil dranoeth, ond aeth i fysg y cynghorwyr, a siaradodd wrthynt yn faith ac yn ddifrifol. Yn mysg pethau eraill, dywedodd wrthynt am iddynt wylio yr yspryd canu oedd yn ffynu, rhag iddo ddiflanu, neu ynte roddi achlysur i'r cnawd. Cynghorai hwy, yn mhellach,