i beidio ymgymysgu gormod a'u gwrandawyr, ond ar iddynt, wedi pregethu, ymneiliduo. Yna, gwnaed iddo bregethu yn y capel, yr addoldy y buasai ef yn benaf yn offerynol i'w godi, ac y casglasai trwy Gymru tuag ato. Ei destun oedd, Zechariah xii. 10: "A thywalltaf ar dŷ "A thywalltaf ar dŷ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerusalem, yspryd gras a gweddïau." Nis gallwn gofnodi y bregeth, ond cafodd odfa wrth ei fodd. Y noswaith hono, dychwelodd i Lanymddyfri, ac y mae ei brofiad boreu dranoeth yn haeddu ei groniclo: "Dychwelais yma neithiwr, wedi cael y gwahoddiadau taeraf i fyned i Gastellnedd, Cilycwm, Sir Aberteifi, a Sir Gaerfyrddin, gan Rowland, William Williams, Thomas Davies, John Williams, ac eraill. Yr wyf yn cael fod y cynghorwyr wedi cael eu gosod ar fy nghalon fel fy mhlant. Yn sier, dyma flwyddyn y Jiwbili! Y mae yr amser wedi dyfod; cysgodau rhagfarn ydynt yn cilio; yr hen gariad a'r symlrwydd ydynt yn dychwelyd, ac ymddengys fod y pethau a rwystrent gynt wedi cael eu symud. Y mae yr yspryd canu yma sydd wedi disgyn yn ymddangos yn hollol rydd oddiwrth yr ysgafnder, a'r hunan, a welid yn nglyn a'r diweddaf. Ac wrth weled cynifer o leoedd newydd wedi cael eu cychwyn ganddynt hwy, a dim un genyf fi, teimlwn ei fod yn anrhydedd cael myned i'w mysg, a chysur i mi yw gweled fod fy lle, a'm gwaith, a'm pobl gynt, yn cael eu cynyg i mi eto, gwedi ymraniad o dair-blynedd-ar-ddeg."
Ni phasiwyd unrhyw benderfyniad ffurfiol yn Llansawel gyda golwg ar ailuniad Howell Harris a'r Methodistiaid, ond cawsai ei wahodd yn y modd mwyaf caredig i ddyfod i'w mysg fel cynt, a theflid pob drws yn agored iddo. Ar y 18fed o Fawrth, 1763, cychwynodd am daith fer i ranau o Sir Gaerfyrddin, a Sir Aberteifi. Y lle cyntaf y pregethodd ynddo oedd Cilycwm, cartref crefyddol Williams, Pantycelyn. Ar y maes y cedwid yr odfa, oblegyd lliosogrwydd y dorf; y testun oedd: "Chwiliwch yr Ysgrythyrau;" pregethodd am ddwy awr a haner, gyda nerth a dylanwad arbenig; ac yr oedd yn ofnadwy o lym yn erbyn y rhai a ddirmygent neu a esgeulusent Air Duw. Wedi yr odfa, aeth drachefn i'r capel i gadw seiat; yr oedd rhai canoedd yno, ac anogodd hwynt oll i weddi. Ciniawodd gyda chuwrad yr eglwys, Williams, Pantycelyn, ac amryw o'i hen gyfeillion, nad oedd wedi eu gweled er adeg yr ymraniad, ac yna aeth i'w hen lety, Llwynyberllan, i gysgu. Ar y ffordd yno, cafodd lawer o wybodaeth gan ei arweinydd am y diwygiad oedd yn ymledu dros y wlad. Meddai: "Llefwn am i beth o'r tân hwn gydio yn fy yspryd inau; oblegyd deallwn fod llawer wedi cael eu deffro yn y rhanau hyn, trwy yr yspryd canu a bendithio yr Arglwydd sydd wedi tori allan, yr hwn a barha weithiau trwy gydol y nos.' "Dengys ei sylwadau, nad oes genym yn awr un syniad priodol am y dylanwad a fu gan emynau Williams, er ail enyn tân Duw yn Nghymru, pan yr oedd agos wedi cael ei ddiffodd trwy ymrafaelion ac ymraniadau. Yn nesaf, cawn ef yn nghapel Llansawel yn pregethu ar ol un Mr. Gray. Diau mai y Parch. Thomas Gray, olynydd yr hen Mr. Pugh yn Llwynpiod, Abermeurig, a Ffosyffin, ydoedd hwn, yr hwn, gwedi hyn, a lwyr ymunodd a'r Methodistiaid. Ac ymddengys iddo wneyd hyny yn bur fuan. Hysbysa cyfaill ni ei fod wedi chwilio yn fanwl gofnodau hen gymanfaoedd yr Annibynwyr, fel eu ceir yn yr Evangelical Magazine, a chyhoeddiadau eraill, ac nad oes ynddynt gymaint a chyfeiriad at Gray; tra y ceir ef yn pregethu yn barhaus yn Nghymdeithasfaoedd y Methodistiaid yn y Dê a'r Gogledd. Daethai cynulleidfa anferth yn nghyd yr oedd capel Llansawel y pryd hwn wedi dyfod yn fath o ganolbwynt i'r Methodistiaid yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd odfa nerthol, ac yr oedd yn llym wrth y rhai oedd mewn rhyddid heb fod yn gyntaf mewn caethiwed. Wedi iddo orphen, nid ai y bobl i ffwrdd; eithr tyrent i'r capel, a bu raid iddo lefaru yno drachefn. Yr angenrheidrwydd am hunanymholiad oedd ei fater. Oddiyno aeth i Gaerfyrddin, ac am ddau o'r gloch pregethodd ar Castle Green i'r gynulleidfa fwyaf a gafodd erioed yn ei fywyd; cyfrifa ei bod yn ddeng mil. Llefarai yn Gymraeg ac yn Saesneg oddiar: "Ni a welsom ei ogoniant ef; a dangosai mai y ffordd i gynyrchu moesoldeb uchel oedd trwy bregethu Iesu Grist. Nid ymfoddlonodd ychwaith ar athrawiaethu; taranodd yn ofnadwy yn erbyn rhegu, meddwdod, a phuteindra, a phechodau cyffelyb; a llefodd gyda nerth: "Gyda y rhai sydd yn ei adwaen ac yn ei garu ef bydded fy nghartref yn dragywydd!" Aeth y noson hono i Bant Howell; yr un oedd ei destun yma eto, eithr gwahaniaethai y bregeth it