Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/450

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r gwaith fyned rhagddo yn yr yspryd y cawsai ei ddechreu, ei fod yn gobeithio y peidiai y gwrthwynebiad (ar ran yr esgob) yn fuan, ac y ceid esgobion efengylaidd. Achwynai fod y bobl yn gadael cymundeb yr Eglwys, ac yn cael cymundeb yn eu tai; a thrwy hyn, fod pellder yn cael ei greu. Gwedi hyn, Popkins yn darllen papyr, ac yn condemnio llun Crist oedd i'w ganfod yn rhai o'r eglwysydd; Harris yn teimlo yn enbyd, ac yn bygwth ymaflyd yn ei het, a myned allan; eithr Rowland a Williams yn llwyddo i'w dawelu. Condemniodd Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, Popkins yn enbyd. Dywedai y diweddaf am dano ei fod mor gyfnewidiol a'r gwynt; amser yn ol, mai Eliseus Cole oedd ei hoff awdwr; gwedi hyny, Erskine, ac ar ol hyny, Hervey; ond yn awr, mai Robert Sandeman oedd ei bob peth. Y Gymdeithasfa yn hapus drwyddi o hyny allan. Ar y maes, y mae Rowland yn pregethu ar Mair yn golchi traed ein Harglwydd, a Harris ar ei ol gyda dirfawr awdurdod. Harris yn dychwelyd yn hapus ei yspryd trwy Hwlffordd, St. Clears, Cross Inn, Llansawel, Llanfihangelfach, a Llangadog. Ni chafodd erioed liosocach cynulleidfaoedd, na mwy o awdurdod wrth draddodi.

Gorphenaf 20. Harris yn myned i Aberhonddu i gyrchu yr Iarlles Huntington i Drefecca. Yno, clywed Daniel Rowland yn pregethu ar yr heol, am bob rhodd ddaionus a pherffaith yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd; a Pheter Williams, ar ei ol, yn Saesneg; yr Arglwydd yn amlwg gyda y ddau. Yr Iarlles yn aros amryw ddyddiau yn Nhrefecca, yn mawr hoffi y lle a'r ddysgyblaeth, ac yn hysbysu Harris fod arni awydd sefydlu coleg i'r pregethwyr yno, fel yr elent allan yn yspryd Trefecca i gyhoeddi Crist; y gallent bregethu yn mysg y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr, a byw yn nhŷ Harris, a bod dan ei ofal. Wrth hebrwng yr Iarlles i Fryste, yn cael ei holi ganddi am Trefecca Isaf, fel y gellid adeiladu y coleg, yr hwn a alwai yn ysgol y prophwydi, yno, gyda Mr. Jordan, oedd ar y pryd yn cadw ysgol ramadegol yn y Fenni, yn brif athraw. Y syniad am gael ysgol y prophwydi i Drefecca yn mawr gymeradwyo ei hun i feddwl Harris.

Aros yn Bath, a Bryste, yn nghyd a'r amgylchoedd, hyd Awst 14. Ar yr 21ain, cychwyn i Gymdeithasfa Llangeitho. Yno, cael rhyw gymaint o deimlad gan y cynghorwyr, ac oblegyd y gwelai duedd i ymadael ag Eglwys Loegr. Williams, Pantycelyn, yn pregethu ar Grist fel cyflawniad o'r holl gysgodau; ar ei ol, Peter Williams yn pregethu; awelon cryfion yn chwythu ar y dorf, llawer yn canu ac yn gorfoleddu, yn arbenig pan y cyfeiriai at yr aberth ar y groes. Wedi ciniaw, Harris yn cyfarch y seiadau preifat, gan ddangos y fath fraint iddynt oedd eu bod allan o uffern, ac yn ngwlad efengyl, a darfod i Dduw mewn un gradd gyffwrdd a'u calonau. Pwysleisiai hefyd ar yr angenrheidrwydd iddynt ddyfod dan ddysgyblaeth. Cael llawer o ryddid wrth eu cyfarch. Popkins yn poenu rhyw gymaint ar Harris eto, trwy ddweyd nas gallai gydweddio â neb a wnelai bictiwr o Grist; eithr Harris yn gallu gweddïo drosto. Penderfynu cyfarfod yn Nghaerfyrddin yn mis Medi i arholi y cynghorwyr, a chynal y Gymdeithasfa nesaf yn Nghastellnewydd-yn-Emlyn. Harris yn dychwelyd trwy Abermeurig, Llanbedr, Llanymddyfri, ac Aberhonddu.

Medi 12, 1764. Harris yn cyfarfod â Williams, Pantycelyn, Daniel Rowland, Howell Davies, a John Sparks, yn nhref Caerfyrddin, i'r pwrpas o arholi y cynghorwyr, a gweled i ba le yr oedd pob un yn gymhwys. Dweyd wrthynt am fwriad yr Iarlles Huntington i gael coleg yn Nhrefecca; ac anog John Sparks i ymryddhau oddiwrth ei fasnach, fel y gallai lwyr ymroddi i'r efengyl. Harris mewn cyfyng gynghor dirfawr parthed a oedd Duw yn ei alw i fyned i blith y bobl, a bod yn dad i'r cynghorwyr; gweled ei anghymwysder oblegyd ei bechodau mewnol ac allanol; o'r diwedd, yr Iachawdwr yn rhoddi boddlonrwydd iddo. Gweled ei fod yn gwahaniaethu i raddau oddiwrth ei frodyr mewn ymlyniad wrth yr Eglwys, a chyda golwg ar gymuno ynddi; nid oedd ef am ffurfio nac eglwys na sect, eithr diwygio Eglwys Loegr. Gwelai hwy, hefyd, yn fwy poblogaidd nag ef, ac yn fwy llwyddianus; a medrai eu hanrhydeddu fel y cyfryw. Arholi y cynghorwyr am ddiwrnod cyfan; Harris yn tori allan i lefain: "O fy mhlant, fel yr wyf yn eich teimlo wedi eich gosod ar fy nghalon! Mor gyfoethog ydwyf, ac mor ddedwydd wrth eich cael yn eiddo i mi eto!" Ychwanega: "Pwy bynag oedd yn y bai yn yr ymraniad, y mae hyny drosodd. O, y fath ymysgaroedd o dosturi a deimlaf atynt. Teimlwn fy mod yn