Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/451

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiddo iddynt i'w gwasanaethu. Y mae ein Hiachawdwr wedi dwyn pethau o gwmpas tu hwnt i ddysgwyliadau neb. Cefais eu bod oll yn un â mi yn y goleuni." Harris yn teimlo fod hwn yn ddiwrnod mawr; dweyd wrth y cynghorwyr ei fod yn eu mysg er ys blwyddyn a haner, ond mai yn awr yr oedd yn dechreu gwneyd gwaith. Yn pregethu ar Castle Green i gynulleidfa liosog, a chael dirfawr ryddid; dychwelyd trwy Cross Inn, a Llanymddyfri, a phregethu i gynulleidfaoedd mawrion yn y ddau le.

Hydref 19. Harris yn cychwyn am Lundain. Yn dychwelyd i Drefecca, Tachwedd 16. Ail tranoeth, y mae yn cychwyn am y Gymdeithasfa yn Nghastellnewydd-yn-Emlyn. Cyfarfod yma â Danâ iel Rowland, Enoch, Benjamin Thomas, William John, Popkins, a Howell Davies. Cael ar ddeall fod rhyw gymaint o ragfarn yn meddyliau y brodyr at y sefydliad yn Nhrefecca; teimlo, hefyd, o herwydd fod Daniel Rowland wedi cael ei gyhoeddi i bregethu ar yr adeg yr oedd Harris i arholi y cynghorwyr; clywed sî fod y cynghorwyr yn edrych arno fel yn tueddu i dra-awdurdodi arnynt. Daniel Rowland, gwedi pregethu, yn brysio at Harris, act yntau yn cwyno nad oedd arnynt eisiau ei ddawn ef (Harris), a bod yn rhaid iddynt ei gymeryd fel yr ydoedd. Yn mhen ychydig, Thomas Davies, Hwlffordd, a John Harry yn dyfod yno, mewn yspryd hyfryd, ac yn gwahodd Harris i Sir Benfro. Myned i fysg y cynghorwyr, tua chant o honynt yn nghyd, a dweyd wrthynt am eu rhagfarn at Drefecca. Hwythau yn cynyg fod y mater yn cael ei gyflwyno i ystyriaeth H. Edwards, a John Evans, y Bala. Yntau yn gwrthod. Clywed ei hun yn cael ei alw yr Yswain Harris," a phryd arall, "Cadben Harris;" teimlo yn anfoddlawn i'r enw cyntaf, ond boddloni i gael ei gyhoeddi fel cadben, os byddai hyny o fantais i'r efengyl. Siarad yn breifat â John Evans, a Humphrey Edwards, o'r Bala, ac addaw myned i'w cynorthwyo. Pregethu am un-ar-ddeg i gynulleidfa fawr, gyda llawer o ryddid a nerth. Rowland yn yn dweyd wrtho ar derfyn yr odfa ei fod meddu yr un llais, a'r un ergyd, ag a feddai ddeng-mlynedd-ar-hugain yn flaenorol; yntau yn ateb na ddymunai gael dim amgenach gan Rowland na'r hyn a glywodd ganddo y tro cyntaf, pan y cyfarfyddasant yn eglwys Defynog. Harris yn myned. am daith i Sir Benfro, gan ymweled ag Eglwyswrw, Dinas, Woodstock, Castellyblaidd, Tyddewi, Tygwyn, Narberth, Hwlffordd, Lacharn, a Chaerfyrddin. A chwedi pregethu yn Llangadog, a Threcastell, cyrhaeddodd Drefecca y dydd cyntaf o Rhagfyr.

Rhagfyr 11, 1764. Harris yn cychwyn. am daith i Sir Drefaldwyn. Pregethu yn mlaenaf yn Llanfair-muallt gyda dylanwad mawr. Pregethu yn y Rhaiadr yn y farchnadfa, i dorf liosog, ar Dduw wedi ymddangos yn y cnawd, a chael llawer o nerth. Croesi y mynydd i Lanidloes, disgyn wrth y Red Lion, ond methu cael drws agored i bregethu; o'r diwedd, y tafarnwr yn caniatau ei dŷ, ond tyrfa mor fawr yn ymgasglu, a swyddogion yr excise yn dyfod yn mhlith y dorf, fel yr aeth yn annhrefn hollol yn y lle. Neuadd y dref yn cael ei gwrthod iddo. Ceisio llefaru mewn tŷ allan bychan, ond methu, am fod y lle yn rhy gyfyng. Cychwyn tua'r Tyddyn; yr un dorf, gyda yr un arweinydd, yn ei ganlyn; neb yn gosod ei law arno, nac ar y cerbyd, eithr ymfoddloni ar floeddio: "Pwy a glywodd son i'n Hiachawdwr erioed eistedd mewn chaise? Pregethu yn y Tyddyn oddiar y geiriau: "A thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," a chael nerth dirfawr i egluro natur dyoddefiadau ein Harglwydd. Yn y Drefnewydd, "Gwir yw y gair" yw y testun. Ymweled â Pool, yr Amwythig, Wenlock, Madeley, Ludlow, Leominster, a Hay, gan ddychwelyd i Drefecca, Rhagfyr 22.

Ionawr 1, 1765. Cychwyn i Gymdeithasfa Llansawel. William Richard yn agor y Gymdeithasfa trwy weddi, a Harris yn traddodi anerchiad miniog i'r cynghorwyr, ac yn cyfeirio gyda chymeradwyaeth mawr at emynau Williams, Pantycelyn. Arholi deuddeg o gynghorwyr. Harris yn y Gymdeithasfa yn anog cael undeb a'r Wesleyaid a'r Morafiaid, ac yn dweyd fod John a Charles Wesley wedi cael cyfarfod i'r pwrpas â Mr. Nyberg, gweinidog y Morafiaid yn Hwlffordd. Daniel Rowland yn dangos rhyw gymaint o wrthwynebiad. Cael bendith wrth glywed Popkins yn pregethu ar: "Pa fodd y gwnaf y mawr ddrwg hwn?" Dychwelyd i Drefecca, Ionawr 5.

Ionawr 20. Cychwyn i ranau o Forganwg nad oedd wedi bod ynddynt er ys pedair-blynedd-ar-ddeg. Pregethu yn Glascoed i gynulleidfa fechan, ar ddwfn drueni dyn. Yinweled â Maesaleg, ger Casnewydd, ac â Chaerdydd. Llonaid