Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/454

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Gymdeithasfa, pregethai John Harry ar eiriau Crist wrth y wraig o Samaria; ar ei ol yr oedd Mr. Gray, olynydd Mr. Pugh yn Llwynpiod, ac Ábermeurig. Ei fater ef oedd, Crist yn esgyn i'r uchelder, yn caethiwo caethiwed, ac yn derbyn rhoddion i ddynion. Am dri, pregethai Daniel Rowland; ei destun ydoedd: "Fy anwylyd sydd eiddof fi; " a chafodd odfa i'w chofio byth. Meddai Harris: "Gwelwn y fath ogoniant digymhar arno rhagor i mi; galluogwyd fi i'w anrhydeddu, ac i lefain ar i'r Arglwydd estyn ei einioes, a'i ddefnyddioldeb. O, fel y dangosodd ddirgelwch yr undeb rhwng Crist a'i eglwys! Dangosodd fod y nefoedd yn. dechreu yma mewn cariad; nad yw angau yn gwneyd unrhyw gyfnewidiad ar y credadyn, oddigerth cynyddu ei rasau. Gwaeddai: Y mae gan bob math o greaduriaid eu cân; ac y mae gan yr eglwys ei chân; a dyma hi: Fy anwylyd sydd eiddof fi! Cenwch hi, gredinwyr! Yr wyf yn dweyd wrthych, cenwch yn mlaen!' Yr oedd yn ogoneddus, mewn gwirionedd." Dyma adroddiad Howell Harris am bregeth ei gyfaill, ac y mae yn amlwg fod yr effaith arno yn orchfygol. Nid oes un hanes genym iddo ef bregethu yn ystod y Gymdeithasfa, eithr bu yn anerch y cynghorwyr gyda difrifwch mawr. Trefnodd, hefyd, daith o dair wythnos of amser trwy ranau o Benfro, a Chaerfyrddin. Yn unol a'r trefniant hwn cawn ef yn ymweled â Narberth, Penfro, Redford, Hwlffordd, Tenant, Llandegege, Abergwaun, Woodstock, Machendre, Capel Newydd, Felindre, Gwaunifor, Glanrhyd, Caerfyrddin, lle y gwrandawai amryw filoedd ar Castle Green, Llanddarog, Llandilo Fawr, a Llangadog; a chyrhaeddodd Drefecca ar y 12fed o Fawrth. Cofnoda mai pregethu yn unig a wnelai ar y daith hon, a chynghori y seiadau a'r pregethwyr ar faterion ysprydol; nad ymyrai bellach ag unrhyw drefniadau, am y teimlai nad oedd ganddo hawl i wneyd hyny.

Ar y trydydd o Ebrill, 1766, yr ydym yn ei gael mewn lle o'r enw Petty France, nid yn nepell o Fryste, mewn cyfarfod perthynol i'r Morafiaid. Wedi cael ei gymhell, llefarodd yn gryf yn erbyn Sandemaniaeth; mynegodd hefyd wrth y pregethwyr Morafaidd fod perygl yn eu mysg i'r Beibl beidio a chael ei wneyd yn rheol i brofi pob peth wrtho. Darllenodd yma hefyd bregeth John Wesley ar gyfiawnder cyfrifedig; hoffai hi yn ddirfawr, ac wrth ei darllen cryfhäi ei obaith gyda golwg ar undeb. Y Sul yr oedd yn Bath. Aeth i'r Eglwys yn y boreu, a chyfranog odd o'r sacrament. Yn y prydnhawn pregethodd yn nghapel y Wesleyaid, ac yn yr hwyr aeth i gapel yr Iarlles Huntington, lle y pregethai Howell Davies. Testun Mr. Davies oedd: "Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfryd lais," a chafodd odfa nerthol. Bu Harris yn ei gymdeithas hyd ddeg o'r gloch. Yn mhen rhyw dair wythnos wedi dychwelyd adref, Harris yn cychwyn am daith i Sir Forganwg a rhanau O Sir Gaerfyrddin. Pregetha gyntaf yn Llanbradach, ffermdy tua phum' milldir o Gaerphili. Tranoeth cawn ef yn Watford, ac yn pregethu yn y capel Ymneillduol; eithr y mae yn pasio y Groeswen heb alw. Cafodd odfa rymus yn Nghaerdydd, wrth lefaru am Dduw yn ymddangos yn y cnawd. Pregethai yn dra argyhoeddiadol hefyd yn St. Nicholas. Ymddengys na chymerodd destun, eithr ei faterion oeddynt, credu, caru, ac edifarhau. Yn Llantrisant taranai yn erbyn hunangyfiawnder. Ei destun yn Mhontfaen ydoedd: "O Israel, ti a'th ddinystriaist dy hun." Yn nesaf cawn ef yn Mhenybont-ar-Ogwr, a phregethodd yn y capel Methodistaidd, a chafodd ryddid dirfawr i ymdrin a'r athrawiaeth am berson ein Harglwydd. Yn Margam, wrth ddrws tafarndy y pregethai; rhifai ei gynulleidfa amryw ganoedd. Ei destun oedd: "Gwir yw y gair;" a thaer gymhellai bechaduriaid hunan-gondemniedig i ddyfod at y Ceidwad. Yn yr Hen Fynachlog, ger Castellnedd, rhifai ei wrandawyr amryw filoedd. Cafodd gynulleidfa dda hefyd yn Abertawe. Wedi tramwy trwy Gower, ac ymweled a Llanelli, Llanedi, Llanon, Golden Grove, a Llangadog, dychwelodd i Drefecca erbyn y 18fed o Fai.

Treuliodd ran fawr o fisoedd Gorphenaf ac Awst, 1766, yn Ngogledd Lloegr, yn mysg y Wesleyaid. Gwnelai ei gartref yn benaf yn Huddersfield, ac elai i'r wlad o gwmpas i bregethu. Bu yn bresenol yn. nghynadledd y Wesleyaid, yn Leeds, ganol Awst. Yn mis Medi cawn ef yn ymweled ag amryw leoedd yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd gynulleidfa anferth yn Llanymddyfri, yn rhifo amryw filoedd. Porthi praidd Duw oedd ei fater; llefarai yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan fod amryw fawrion yn bresenol, ac yr oedd cryn ddylanwad yn cydfyned a'r weinidog