aeth. Cafodd odfa rymus hefyd yn Llangadog; eithr bu bron a digio wrth ŵr y tafarndy, lle y lletyai, am na chaffai dalu am ei le, a lle ei geffyl. Yr oedd gan y Methodistiaid gapel newydd yn Nhrecastell. Yno cyfarfyddodd Harris a thuag ugain o aelodau y seiat, a rhoddodd lawer o gynghorion buddiol iddynt. Dau ddiwrnod y bu gartref cyn cychwyn am Orllewin Lloegr. Yn mis Tachwedd, bu am daith faith yn Sir Forganwg. A diwedd y flwyddyn cawn ef yn Llundain. Yr ydym yn cyfeirio at y teithiau cyson hyn, er dangos anghywirdeb y dyb gyffredin ddarfod i Howell Harris gau ei hun i fynu yn Nhrefecca flynyddoedd olaf ei fywyd, gyda'r eithriad o ambell i ymweliad achlysurol a wnelai i fanau lle y caffai wahoddiad. Yn wrthwyneb i hyny, cawn fod ei deithiau yn fynych a meithion, a'i ymroddiad i gyhoeddi yr efengyl yn ddiderfyn.
Treuliodd Howell Harris y ddau fis cyntaf o'r flwyddyn 1767 yn Brighton, gan bregethu yn mysg y Morafiaid, a'r Wesleyaid, ac ymweled â Llundain yn awr ac yn y man. Y mae y dydd-lyfr oddiyno hyd ddiwedd y flwyddyn ar goll. Ond yr ydym yn cael ei fod yn bresenol yn nghynadledd y Wesleyaid, a gynhaliwyd yn Llundain, mis Awst. Y peth cyntaf a gawn am dano yn 1768 yw, ei fod yn myned i Gymdeithasfa y Methodistiaid, a gynhelid yn Nghayo, Chwefror 17. Ar y ffordd yno, teimlai fod yn rhaid wrth ryw gymaint o ffydd i fyned fel ymwelydd i gyfarfod lle yr arferai fod yn rheolwr. Cyfarfyddodd â Rowland, a gofynai iddo a oedd pawb yn foddlon i'w bresenoldeb. Wedi cael atebiad cadarnhaol, aeth i'r cyfarfod neillduol, ac ar gais Williams, Pantycelyn, traddododd anerchiad i'r cynghorwyr. Cafodd ryddid mawr gyda hyn. Gwahoddai y Gymdeithasfa ef yn unfrydol i ddyfod i'w mysg; atebai yntau ei fod yn foddlawn ymweled â hwy pa bryd bynag y byddai arnynt ei angen. Mynegodd am y coleg a y coleg a fwriadai Iarlles Huntington sefydlu yn Nhrefecca, ond cafodd fod cryn ragfarn yn ei erbyn. Yna, ymollyngodd i lefaru am ffydd, hunanymholiad, a darllen y Beibl. Wedi iddo orphen, cyfododd Williams ar ei draed i gefnogi ei sylwadau. Yn yr odfal gyhoeddus, pregethai Daniel Rowland ar y geiriau: "Glanha fi ag isop, a mi a lanheir; golch fi, a byddaf wynach na'r eira." Meddai Harris: "Wrth ei glywed yn pregethu mor effeithiol am waed Crist, a'r angenrheidrwydd am daenelliad o hono ar y gydwybod, ac yn gwrthwynebu golygiadau Sandeman, gan wahodd pawb yn daer at yr Iesu, a hyny mewn modd na chlywais ef yn gwneyd erioed o'r blaen, teimlwn gariad mawr ato ac at y bobl. Wedi gofyn genyf, llefarais inau, am edrych ar ein Hiachawdwr a'i ddyoddefiadau. Fel yr oedd Rowland wedi dangos am waed Crist, ei fod yn sancteiddio ac yn gogoneddu, cadarnheais inau ei ymadroddion. Cefais ryddid dirfawr i bregethu yr Iesu." Y mae yn amlwg iddo gael odfa dda, ac ymadawodd a'i hen frodyr a'i galon yn gynhes tuag atynt, ac felly yr oeddynt hwy ato yntau. Y noson hono pregethai yn Llanymddyfri; yr oedd Williams wedi dychwelyd gydag ef. Aflonyddwyd ar y cyfarfod gan glerigwr meddw, a bu Harris yn dra llym wrtho.
Er fod yr Iarlles Huntington wedi hir goleddu y syniad am gael coleg yn Nhrefecca, ni chyflawnwyd y bwriad hyd Awst 24, 1768, dydd pen blwydd yr Iarlles. Agorwyd y colegdy, yr hwn oedd ar dir Harris yn Nhrefecca Isaf, gyda phregeth gan Whitefield, oddiar Ex. xx. 24: Yn mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf." Y Sul canlynol, pregethodd yr un gŵr drachefn, yn yr awyr agored o flaen y colegdy, i gynulleidfa o amryw filoedd. Ymddengys mai yr hyn at barodd i'r Iarlles roddi ei bwriad mewn grym yn awr, oedd gwaith Prifysgol Rhydychain yn esgymuno allan o honi chwech o ddynion ieuainc, oblegyd eu tuedd at Fethodistiaeth. Bu hyn yn achlysur cyffro dirfawr, a rhoddodd friw i deimladau y rhai a garent grefydd efengylaidd. Y chwech hyn, gellid meddwl, a ffurfient flaenffrwyth efrydwyr Trefecca, ac ychwanegwyd atynt o bob rhan o Gymru a Lloegr, nes y chwyddodd y rhif i fod tua deg-ar-hugain. Wedi bod yn ddyfal wrth eu gwersi ar yr wythnos, cychwynai yr efrydwyr i wahanol gyfeiriadau ar y Sadwrn i bregethu yr efengyl; ac i'r rhai a elent i deithiau pell yr oedd yr Iarlles wedi parotoi ceffylau. Pregethent yn mysg pob enwad yn ddiwahaniaeth, ond yn benaf yn mhlith y Methodistiaid. Y mae yn deilwng o sylw mai coleg i bregethwyr ydoedd; ni chaffai neb fyned iddo oddigerth iddo roddi prawf boddhaol ei fod wedi cael ei argyhoeddi i fywyd, a datgan ei benderfyniad i lwyr ymgyflwyno