Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/456

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i wasanaeth yr Iesu. Llywydd cyntaf y sefydliad oedd y Parch. John Fletcher, ficer Madeley, yn Sir Amwythig, gŵr a haedda fwy o sylw nag a allwn roddi iddo. Brodor o Switzerland ydoedd, ac ymddengys ei fod yn disgyn o un o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd. Braidd na ellir dweyd ei fod yn dduwiol o'r groth, a'i brif ddymuniad pan yn llanc oedd cael gwasanaethu Crist yn yr efengyl. Yn y flwyddyn 1752, pan yn bedair-blwydd-ar-hugain oed, daeth i Loegr er dysgu yr iaith Saesneg. Yma daeth i gyffyrddiad â John Wesley, ac ymrestrodd yn aelod o'r seiat Fethodistaidd yn Llundain. Yn y flwyddyn 1757, cafodd ei ordeinio yn ddiacon gan Esgob Henffordd; ac yn bur fuan cafodd, ar lythyrau cymeradwyol Esgob Bangor, ei ordeinio yn offeiriad gan Esgob Llundain. Ddiwrnod ei ordeiniad, cynorthwyodd John Wesley i weinyddu sacrament swper yr Arglwydd yn ei gapel yn Llundain. Yn y flwyddyn 1760, penodwyd ef i ficeriaeth Madeley. Ymddengys ei fod yn ysgolor gwych, ac yn dduwinydd da, a'r fath oedd ymddiried John Wesley ynddo, fel y bwriadai iddo fod yn olynydd iddo fel pen y cyfundeb Wesleyaidd. Hyn, modd bynag, a rwystrodd angau. Nid ymddengys y gwnelai Fletcher ragor, fel llywydd yr athrofa yn Nhrefecca, nag ymweled a'r sefydliad yn awr ac yn y man, fel y caffai hamdden.

Pwy oedd athraw cyntaf yr athrofa sydd fater a rhyw gymaint o dywyllwch o'i gwmpas. Gwnaethai un John Jones, pregethwr teithiol yn mysg y Wesleyaid, a gwr o haniad Cymreig, yn ddiau, gais am y swydd. Yr oedd John Jones yn ysgolhaig clasurol gwych, ac yn awdwr gramadeg Lladin o fri; dywedasai Charles Wesley am dano, mai efe oedd y cymhwysaf o bawb a adwaenai i addysgu dynion ieuainc. Ond oblegyd rhyw ffolinebau oedd yn nglyn ag ef, ac yn arbenig oblegyd iddo gymeryd ei urddo gan esgob perthynol i Eglwys Groeg, nid yw yn ymddangos iddo gael yr appwyntiad. Yn hanes bywyd yr Iarlles Huntington, dywedir mai un Joseph Easterbrook, mab i grïwr yn Mryste, ac un a gawsai ei ddwyn i fynu yn ysgol y Wesleyaid yn Kingswood, oedd athraw y coleg. Y mae Tyerman, modd bynag, yn tybio yn wahanol. Dywed mai yn ysgolfeistr plwyf Madeley y penodwyd Easterbrook; ac felly, er ei fod dan Fletcher, nad oedd un cysylltiad rhyngddo a Threfecca. Ar awdurdod pregeth angladdol o eiddo y Parch W. Agutter, maentymia mai unig athraw Trefecca am y flwyddyn gyntaf, oedd plentyn deuddeg mlwydd oed, o'r enw John Henderson. Fel hyn y dywed Mr. Agutter am Henderson: "Pan nad oedd ond bachgen, cawsai ei gyflogi i weini addysg yn yr ieithoedd clasurol. Pan nad oedd ond deuddeg oed, addysgai mewn Groeg a Lladin yn athrofa Trefecca. Llywydd y coleg ar y pryd oedd Mr. Fletcher, ficer Madeley." mae yn ddiau fod y llanc John Henderson yn mron yn wyrth am ei wybodaeth; a phrawf y difyniad uchod ei fod yn athraw yn Nhrefecca mewn oedran rhyfedd o ieuanc; ond ni phrawf mai efe oedd yr unig athraw. Yr ydym yn credu yn gryf fod Tyerman wedi syrthio i gamgymeriad. Heblaw y gwrthyni o osod plentyn yn unig athraw ar sefydliad a gynwysai ddynion mewn oed, yr ydym yn cael amryw gyfeiriadau yn nydd-lyfr Howell Harris at Easterbrook yn Nhrefecca, er na ddywedir yn bendant ei fod yno yn y cymeriad o athraw. Pwy bynag oedd yr athraw, sicr yw fod cryn lawer o'r gofal yn disgyn ar ysgwyddau Harris. Modd bynag, dechreu y flwyddyn 1770, appwyntiwyd Joseph Benson, hen daid Archesgob presenol Caergaint, yn brif-athraw. Yn Nhrefecca Isaf y bu yr athrofa hyd y flwyddyn 1792. Y flwyddyn hono, gan fod Howell Harris wedi marw er ys amser, a bod prydles Trefecca Isaf wedi rhedeg allan, symudwyd yr athrofa i Cheshunt. Trwy ystod ei fywyd, y mae yn sicr fod cysylltiad agos rhwng Harris a'r athrofa; tan ei ddysgyblaeth ef yr ystyrid y myfyrwyr; byddai yn aml yn traddodi anerchiadau iddynt, ac yn pregethu yn nghapel y coleg. Rhaid fod ei ddylanwad arnynt yn fawr.

Ar yr ail-ar-hugain o Dachwedd, 1768, yr ydym yn ei gael yn cychwyn ar daith faith i Siroedd Caerfyrddin a Phenfro. Ymwelodd â Threcastell-yn-Llywel, Llanymddyfri, Llangadog, Llandilo Fawr, Caerfyrddin, Narberth, Hwlffordd, Woodstock, Eglwyswrw, a Chapel Newydd. Pregethodd drachefn wrth ddychwelyd yn Nghaerfyrddin, a Llanymddyfri, ac yr oedd yn ei ol yn Nhrefecca, Rhagfyr 4. Yr wythnos olaf o'r flwyddyn cawn ef mewn Cyfarfod Misol yn mysg y Methodistiaid yn Llanfrynach, Sir Frycheiniog. Cafodd dderbyniad o'r serchocaf. Llefarodd yntau yn helaeth am ddechreuad y gwaith, addawai ddyfod i'r Cyfarfodydd Misol pa bryd bynag y gelwid am dano,