Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/457

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac anogodd hwy i bwysleisio ar waed ac angau y Gwaredwr. Pregethodd gyda nerth oddiar y geiriau: "Ac ni ddwg neb hwynt allan o law fy Nhad i." Y mae ei eiriau nesaf yn haeddu eu cofnodi, am y cynwysant gryn wybodaeth am sefyllfa yr achos yn Nghymru. "Clywais gan Benjamin Thomas," meddai, "fod pedwarar-hugain o gynghorwyr yn Ngogledd Cymru yn cyfarfod yn fisol ac yn gwarterol i drefnu eu teithiau; fod saith-ugain o aelodau yn y Bala; a bod y gwaith yn llwyddo yn rhyfedd yn Sir Aberteifi. Yn Llangeitho, cyferfydd saith-ugain o blant (y diwygiad) bob wythnos, i weddïo, i ganu, ac i agor eu calonau i'w gilydd; a llawer o rai cnawdol sydd yn cael eu dwysbigo wrth eu gweled a'u clywed. Cyfarfyddant, hefyd, yn Llanddewi-brefi, a lleoedd eraill. Yn Llanddewi-aberarth, Yn Llanddewi-aberarth, lle yr oedd y bobl oll yn gnawdol, y maent wedi adeiladu capel iddynt eu hunain, ac yr oedd Benjamin Thomas yn pregethu ynddo bythefnos yn ol, a chwedi iddo ef orphen, buont yno yn canu ac yn gweddio hyd ddeuddeg o'r gloch y nos. Gwelaf yn amlwg fod yr Arglwydd yn eu mysg, ac yn eu hanrhydeddu. Llawenychwn yn ddirfawr o'r herwydd, a chefais nerth i lefain ar yr Arglwydd dros Rowland, ar iddo gael ei gadw rhag ymchwyddo gan ei lwyddiant, a'i boblogrwydd, ac ar i'r llwyddiant fod yn yr Yspryd." Dengys y difyniad fod diwygiadau nerthol yn ysgwyd Cymru yr adeg hon, a bod y gwaith yn myned rhagddo gyda nerth. Dengys, hefyd, fod yspryd Howell Harris mewn cydymdeimlad llwyr a'i frodyr, y Methodistiaid, a bod eu llwyddiant yn peri i'w galon ddychlamu o'i fewn.

Tua dechreu y flwyddyn 1769 yr ydym yn cael fod llesgedd wedi ei orddiwes, ac ychydig a deithiodd allan o Drefecca. Yn mis Mawrth, y flwyddyn hon, cyfarfyddodd a phrofedigaeth lem trwy farwolaeth ei anwyl wraig. Yr oedd yn ddynes. nodedig o dduwiol, a meddai yn ychwanegol lawer o nerth cymeriad; gallai sefyll hyd yn nod yn erbyn ei phriod, pan y tueddai i fyned i eithafion. Gwaelu yn raddol a wnaeth; deallai ei bod yn tynu at y diwedd, a dywedai wrth Harris am beidio wylo pan ddiangai yr yspryd o'r corph, gan y byddai hi gyda ei Gwaredwr. Eithr wedi y cyfan daeth y diwedd yn sydyn. Yn yr hwyr, pan yr oedd efe mewn cyfarfod crefyddol gyda'r teulu, ac un Mr. Cook yn eu hanerch, dyma floedd Miss Harris allan o ystafell ei mam yn adsain trwy y lle. Rhoddodd yntau i fynu ar unwaith, ac yr oedd yn brin mewn pryd i'w gweled yn anadlu yr anadl olaf. Cafodd ergyd a'i syfrdanodd am amser, oblegyd yr oedd ei serch ati yn angerddol. Meddai: "Cefais ergyd na chefais ei gyffelyb o'r blaen; daeth y llifeiriant dros fy enaid; yr oeddwn yn gyfangwbl o dan y dwfr; cyffyrddasant â gwraidd fy mywyd. Bum am amser dan draed, fel nas gallwn sylwi ar ddim, eithr yn unig galw ar yr Arglwydd; a'r meddwl cyntaf a gefais oedd, ai ergyd mewn cariad ydoedd ei waith yn ei chymeryd ymaith, a gwrthod gwrando ar fy ngweddi am gael ei chadw." Bu mewn pangfeydd enaid enbyd yr adeg hon; dywed mai o ymladdfa i ymladdfa yr yd oedd, a'i fod ef yn dyst o fodolaeth y diafol. Eithr yn y diwedd cafodd oruchafiaeth drwyadl ar y cnawd a'r diafol. Am Mawrth 13, ysgrifena: "Dyma ddydd i'w gofio byth genyf fi, pan y rhoddwyd corph fy anwylaf wraig, yr hon a roddasai yr Arglwydd i mi, i orwedd yn eglwys Talgarth.' Diwrnod ystormus a gwlyb oedd dydd claddedigaeth Mrs. Harris. Yn y tŷ, cyn cychwyn, pregethodd Mr. White, ac yna llefarodd Harris ei hun yn Gymraeg, gan adrodd hanes ei bywyd, a nerth ei chrefydd. Cariwyd y corph gan aelodau teulu Trefecca. Heblaw llawer eraill, yr oedd holl efrydwyr coleg yr Iarlles Huntington yn yr angladd, a chanasant wrth y tŷ, a braidd yr holl ffordd i Dalgarth, er cymaint y gwlaw. Yn yr eglwys, gwasanaethodd y Parch. John Morgan, y cuwrad, a dychwelodd Harris yn ei ol i'r tŷ gwag, er cynifer oedd ynddo, gan deimlo ei fod wedi gosod darn o hono ei hun yn y ddaear. Cofnoda ddarfod iddo roddi menyg duon i'r holl fyfyrwyr, a galarwisgoedd i'r holl wragedd a'r merched yn y teulu, y rhai a rifent un-ar-bymtheg-a-deugain.

Ar y dydd olafo Fawrth y mae yn myned i Lundain, a Brighton, yn benaf ar ymweliad â'r Iarlles Huntington, a'r dydd. cyn y Sulgwyn y dychwelodd i Drefecca. Ar yr wythfed o Orphenaf, cychwynodd am daith i Siroedd Morganwg a Mynwy. Y lle cyntaf a pha un yr ymwelodd oedd Llanbradach; cafodd gynulleidfa fawr, mil o leiaf, ac yr oedd nerth mawr yn cydfyned a'i eiriau pan y rhybuddiai y dorf i ddianc am eu bywyd. Erbyn myned i Gaerphili yr oedd y gynulleidfa yn fwy fyth. Pregethai yn Gymraeg ac yn