Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/458

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Saesneg; a chwedi taranu am beth amser arweiniwyd ef i efengylu yn felus. Wedi pregethu yn Llysfaen daeth i Gaerdydd, ac achwyna ei fod yn wael, ac mewn poen dirfawr, a'i fod yn fynych yn colli ei lais wrth lefaru. Yn Baduchaf, yr oedd y gynulleidfa yn fawr, eithr y pregethwr yn gryg; modd bynag, nerthwyd ef o wendid. i lefaru am yr Iesu yn agoryd llygaid y deillion, ac yn gollwng y carcharorion yn rhydd. Y dwfr a rydd ein Harglwydd yn tarddu i fywyd tragywyddol oedd ei fater yn Llantrisant, lle y daethai torf i wrando, ac y cafodd yntau, mewn cryn lesgedd, gymhorth i bregethu. Wedi llefaru yn Mhontfaen, ciniawodd yn Nghastell Ffonmon, a phregethodd y noswaith hono yn Aberddawen gyda mwy o ryddid nac arfer. Yn nesaf, cofnoda ei fod yn pregethu yn Llangana, "plwyf Mr. Jones," meddai; a phan gofir mai yr Hybarch Jones, Llangan, oedd y Mr. Jones hwn, y mae y crybwylliad o ddyddordeb. Nid yw yn ymddangos fod Mr. Jones yn gwrando. Wedi ymweled a Phenybont, aeth i'r Pîl; achwyna ar y gwres, a'i lesgedd yntau, eithr, fel arfer, pan aeth i lefaru nerthwyd ef yn rhyfedd. Yn eglwys Llanilltyd, ger Castellnedd, clywodd bregeth ardderchog, ar berson Crist, gan offeiriad o'r enw Mr. Jones. Tybed mai Jones, Llangan, ydoedd? Pregethodd yntau yn nghyntedd y Fynachlog i ddeng mil o bobl, o leiaf. Cafodd gynulleidfa lawn mor liosog yn Abertawe, lle y llefarai oddiar lidiart y turnpike. Ni phregethodd drachefn nes cyrhaedd Llandilo Fawr; nerthwyd ef yn ddirfawr yma i son am Dduw yn tynu ymaith y galon gareg. Yn y capel newydd, ger Pontargothi, ei destun ydoedd: "Du wyf fi, ond hawddgar." Llym enbyd ydoedd yn y bregeth hon. Yr ydym yn ei gael yn nesaf yn Nghaerfyrddin, yn ymyl y castell; Duw yn darostwng ucheldrem dynion yw ei fater. Wedi ymweled a Llansawel, daeth i Gilycwm; yn nghanol y pentref y pregethai, oblegyd mawredd y gynulleidfa; ei destun ydoedd: "Os dyoddefwn gyda Christ, ni a deyrnaswn gydag ef." Syna fel y mae yn cael ei gynorthwyo yn y gwaith, ac at y derbyniad a roddir iddo, a'r cariad a ddangosir ato gan bobl Rowland. Cyfeiria hefyd at y tan oedd yn eu mysg. Wedi pregethu yn Nhrecastell i dorf fawr, cyrhaeddodd Drefecca, Gorph. 22ain. Meddai: "Daethum yma neithiwr o gwmpas naw; clywais fawl yr Arglwydd yn cael ei ganu, a dywedais wrth fy mhobl y pethau mawrion a welais, fod yr holl wlad yn addfed i'r cynhauaf; na chefais erioed o'r blaen y fath gynulleidfaoedd, na'r fath ryddid i lefaru, na'r fath wrandawiad. Dywedais, yn mhellach, fy mod wedi dychwelyd i godi eu hysprydoedd, i'w gosod ar dân, ac i dystiolaethu am yr Iachawdwr wrthynt.' Hawdd gweled fod ei daith wedi bod o ddirfawr fendith iddo.

Awst 16eg, 1769, daeth Iarlles Huntington i Drefecca i gadw cylchwyl gyntaf ei choleg, gan ddwyn gyda hi Iarlles Buchan, yr Arglwyddes Anne Erskine, Miss Orton, yn nghyd â'r Parch. Walter Shirley, brawd Iarll Ferrers. I'w chyfarfod daeth Fletcher, llywydd y coleg, Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, Howell Davies, Peter Williams, a John Wesley, yn nghyd â llu o ser llai. Mewn canlyniad i'w dyfodiad cadwyd wythnos o gyfarfodydd pregethu. Boreu dydd Sadwrn, Awst 19, pregethodd Rowland yn nghapel y coleg i gynulleidfa fawr, ar y geiriau: "Ai ychydig yw y rhai cadwedig?" Y prydnhawn gweinyddwyd sacrament swper yr Arglwydd; Fletcher yn anerch y cymunwyr, Williams yn rhoddi allan yr emyn, a'r gynulleidfa yn canu nes yr oedd y lle ar dori gan fawl. Erbyn y nos yr oedd y gynulleidfa yn rhy liosog i'r capel, a phregethodd Howell Harris allan oddiar y geiriau: "Canys daeth yr amser i'r farn ddechreu o du Dduw." Y Sul, yn y cyntedd oddiallan, darllenodd Fletcher y gwasanaeth, a phregethodd Shirley. Am un, gweinyddwyd y cymundeb drachefn, Rowland, Fletcher, a Williams, yn cymeryd rhan. Yn y prydnhawn, pregethodd Fletcher i dorf anferth oddiar y geiriau: "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist;" a Rowland, yn Gymraeg, ar ei ol, oddiar: "Gosodwyd i ddynion farw unwaith." Ymddengys mai dydd Llun y daeth John Wesley, Howell Davies, a Peter Williams i'r lle; a'r dydd hwnw, a'r dyddiau canlynol, cymerasant hwythau ran yn y gwaith. Fel hyn yr ysgrifena John Wesley am ddydd Iau, diwrnod olaf yr wyl: Gweinyddais swper yr Arglwydd i'r teulu. Am ddeg, pregethodd Fletcher bregeth nodedig o fywiog yn y cyntedd o flaen y capel, am fod y capel yn llawer rhy fach. Ar ei ol pregethodd William Williams, yn Gymraeg, hyd nes yr oedd rhwng un a dau. Am ddau ciniawsom. Ar yr un pryd yr oedd torf oddiallan yn cael eu porthi â basgedeidiau o fara a