offeiriad, awdwr y Geirlyfr Saesneg a Chymraeg, yn bresenol. Y noswaith hono pregethodd Mr. Walters bregeth bwysig. Yn ychwanegol, cawn fod Simon Llwyd, o'r Bala, yn bresenol, yn nghyd ag un Mr. Hammer, yr hwn hefyd a gymerodd ran yn y gwaith cyhoeddus. Daethai yno hefyd lu o ddyeithriaid, a dywed Harris fod ugain o welyau yn llawn yn ei dŷ ef.
Eithr yr oedd ystorm ar dori uwchben athrofa yr Iarlles yn Nhrefecca. Ddechreu mis Awst, tua phythefnos cyn cylchwyl y coleg yn Nhrefecca, cyfarfu cynhadledd y Wesleyaid yn Llundain. Yno, datganodd John Wesley eu bod fel corph o bobl wedi tueddu yn ormodol at Galfiniaeth, a rhoddodd fynegiant i syniadau llawer mwy Arminaidd. Yn mysg pethau eraill, dywedodd y dylai y Wesleyaid gael eu dysgu i ymdrechu am, ac i ddysgwyl sancteiddhad, nid yn raddol, trwy fywyd o ymdrech, ond yn uniongyrchol. Pan ddaeth cofnodau y gynhadledd i law yr Iarlles, ymofidiodd ei henaid ynddi; nis gallai ymatal rhag tywallt dagrau yn lli, a theimlai fod agendor nas gellid ei chroesi wedi cael ei hagor rhyngddi a chanlynwyr John Wesley. Yr oedd wedi llawn fwriadu. ei gymeryd gyda hi i Drefecca y flwyddyn hon eto; ond yn awr, nis gallai feddwl am hyny. Gan fod Benson, yr athraw clasurol yn yr athrofa, yn Wesleyad zêlog, rhoddwyd rhybudd iddo ymadael, yr hyn a wnaeth yntau ddiwedd y flwyddyn. Gan ddarfod i'r Iarlles ddatgan ar gyhoedd na chelai yr un Armin fod mewn cysylltiad a'r coleg, taflodd Fletcher ei swydd fel llywydd i fynu. Rhaid ddarfod i'r helynt gynyrchu cryn ferw yn y coleg; ac, fel yr oedd yn naturiol, rhedai cydymdeimlad y myfyrwyr yn gryf gyda'r Iarlles, bara yr hon y fwytaent. Aeth rhai o honynt hwy i'r eithafion cyferbyniol, gan bregethu Uchel Galfiniaeth, os nad rhywbeth yn ffinio ar Antinomiaeth. Modd bynag, er fod Harris yn Galfin cryf, credai fod yr Iarlles yn gweithredu yn rhy fyrbwyll, a theimlai yn ddirfawr dros Benson. Yr oedd i John Wesley le cynhes yn ei fynwes; a chan fod ei gyfaill yn glynu yn sefydlog wrth yr athrawiaeth efengylaidd am gyfiawnhad trwy ffydd, nid oedd Harris am ei gondemnio am ei olygiadau eraill. Ac oblegyd hyn, bu rhyw gymaint o oerfelgarwch rhwng Harris a'r larlles am dymhor. Ymddengys mai y Parch. Mr. Shirley a gymerodd le Benson am ryw gymaint o amser.
Treuliai yr Iarlles lawer o'i hamser y pryd hwn yn Nhrefecca, ac mewn canlyniad ymwelai llawer o bregethwyr Cymreig a'r lle. Ddechreu Medi, daeth Daniel Rowland yno, a phregethodd yn y coleg oddiar y geiriau: "Oblegyd rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef." Dywed Harris iddo gael llawer o oleuni, a bod y gynulleidfa yn anferth. "Tra y pregethai Rowland," meddai, "fy yspryd a'i carai; teimlwn ei fod yn asgwrn o'm hasgwrn, ac yn gnawd. o'm cnawd." Yr un wythnos, daeth un Mr. Owen, o Meidrim, yno, a phregethodd yn rhagorol iawn, yn Gymraeg ac yn Saesneg, oddiar: "Rhosyn Saron, a lili y dyffrynoedd, ydwyf fi." Ar y dydd olaf, cawn Peter Williams, a Williams, Pantycelyn, yn Nhrefecca. Pregethodd y cyntaf yn nghapel y coleg, ar, "Myfi yw y ffordd;" ar ei ol, pregethodd Williams, ar, y tŷ ar y graig. Dranoeth, pregethai Peter Williams drachefn, ar, yr Arglwydd yn gwneyd cyfamod newydd â thŷ Israel; dangosai fod y cyfamod yn ddiamodol, fod y galon newydd yn rhan o hono, a safai yn gryf dros barhad mewn gras. Yr oedd y dylanwad yn fawr; y fath oedd ei allu a'i ddoniau, fel y teimlai Harris gywilydd. agor ei enau. Cofnodir yn y dydd-lyfr am Hydref 22: "Heddyw, o gwmpas pedwar, daeth Edmund Jones yma, yn y cerbyd a anfonaswn i'w gyrchu; am chwech, pregethodd i'r efrydwyr, ar, yr hwrdd a ddaliesid yn rhwym mewn dyrysni." Hoff gweled rhai, a fuasent unwaith yn methu deall eu gilydd, yn dyfod yn gyfeillion drachefn. Arosodd Edmund Jones yn Nhrefecca rai dyddiau, a phregethodd drachefn ar: "Nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig."
Ar y 10fed o Dachwedd, clywodd am farwolaeth Mr. Whitefield yn America, ac yr oedd ei alar ef, a'r Iarlles, ar ol y gwas enwog hwn i Grist, yn fawr. Er fod rhyw gymaint o bellder wedi myned rhwng Harris ac yntau, yr oedd y ddau yn gyfeillion calon yn y gwraidd, a theimlai Harris, pan y daeth y newydd am ei angau, ergyd cyffelyb i'r un a gafodd pan y collodd ei briod. Ar gais yr Iarlles, pregethodd ar ei farwolaeth y noswaith hono. "Dangosais," meddai, "fod colofn wedi cael ei symud; fy mod wedi bod yn gydnabyddus ag ef am ddeuddeg-mlyneddar-hugain; cyfeiriais at y lle mawr a lanwai, y gwagle dirfawr oedd ar ei ol yn y tair teyrnas, a'r fath nifer sydd yn galaru o herwydd ei golli, ac y byddai