Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/462

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dros fil o eneidiau yn y dydd hwnw yn ei gydnabod fel eu tad. Dygais ar gof ei zêl, ei ddiwydrwydd, ei ffyddlondeb, a'i wroldeb yn cario y gwirionedd am rad ras yn mhell ac yn agos. Yr oeddwn yn daer am i'w fantell syrthio ar y rhai sydd yn ol, a dangosais fawredd gras Duw yn ei gynal yn nghanol y fath glod a phoblogrwydd." Y mae yn ddiau fod y pregethwr tan deimladau dwysion, ac anhawdd meddwl nad oedd y dagrau yn llifo dros ruddiau ei wrandawyr.

Y mae y dydd-lyfr am ran o'r flwyddyn 1771 ar goll; ond y mae yn mron yn sicr nad aeth Howell Harris o cartref i bregethu yn ei hystod, nac yn wir hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd llesgedd wedi ei orddiwes, a'i gyfansoddiad, er cadarned ydoedd, yn prysur dori i fynu. Y syndod ydyw, pan feddylir am fawredd ei lafur, iddo barhau cyhyd. Dywed iddo orphen yr adeilad yn Nhrefecca yr haf hwn; a thybiai fod hyny yn arwyddo ei fod ar orphen ei waith. Ar yr un pryd, pregethai yn ddyddiol, os nad yn amlach na hyny, i'r teulu yn Nhrefecca; ac yn fynychaf, anerchai yr efrydwyr yn y coleg. Gofalai, hefyd, am achosion tymhorol y tŷ yn Nhrefecca, er fod ganddo gynorthwywyr ffyddlon yn Evan Moses ac Evan Roberts. Yn mis Awst, cynhelid cyfarfod blynyddol yr athrofa fel arfer; ond nid oedd Daniel Rowland, na Williams, Pantycelyn, yn mysg yr ymwelwyr. Y rhai y cawn eu henwau ydynt, John Harry, a Benjamin Thomas, a phregethodd y cyntaf ar y geiriau: "Crea galon lan ynof, O Dduw.' Terfyna y dydd-lyfr yn Chwefror, 1772, ac am ei hanes o hyny allan, rhaid i ni ddibynu ar dystiolaeth aelodau y teulu a gasglodd o gwmpas.

Efallai mai dyma y lle mwyaf priodol i holi parthed maint y niwed a gafodd crefydd Cymru, ac yn arbenig Methodistiaeth Cymru, trwy yr ymraniad gofidus a gymerodd le rhwng Harris a'i frodyr. Sicr yw fod y niwed yn fawr iawn. Nid colli gwasanaeth y Diwygiwr ei hun, at throi yr yni a arferai redeg tros holl Gymru i gylch cyfyng sefydliad teuluaidd yn Nhrefecca, oedd y peth mwyaf. Yr ydym yn addef fod y golled hon yn fawr; ond dylid cofio fod Howell Harris yn barod, trwy ei lafur blaenorol, wedi gwanychu ei gyfansoddiad yn ddirfawr, ac nas gallasai barhau yn hir i deithio gyda yr un ymroddiad ag y gwnaethai. Y niwed pwysig a effeithiodd yr ymraniad oedd y dylanwad difaol a gafodd ar y seiadau, llawer o ba rai oeddynt newydd eu sefydlu, ac yn gyfansoddedig o grefyddwyr cymharol ieuainc. Pan feddylir fod pregethwyr Harris yn cyniwair trwy holl Gymru, gan gyhoeddi yn groch fod yr offeiriaid. wedi colli Duw; ac yna, fod y pregethwyr a ganlynent Rowland yn dilyn ar eu hol, gan alw Harris yn Sabeliad, yn Batripasiad, a llawer o enwau eraill, rhaid fod y seiadau yn cael eu syfrdanu, a bod y rhai a'u mynychent yn y benbleth fwyaf. Chwalwyd llawer o honynt mewn canlyniad, ac ni ail-sefydlwyd rhai byth. Yn arbenig, pan yr ymneillduodd Harris i Drefecca, ceisiodd rhai o'i ddilynwyr osod i fynu fân bleidiau, gyda hwy eu hunain. yn ben arnynt. Yn mysg y rhai hyn, gallwn gyfeirio yn neillduol at Thomas Meredith, a Thomas Seen, y cyntaf o gymydogaeth Llanfair-muallt, a'r ail o Sir Drefaldwyn, y rhai oeddynt i dau yn bresenol yn Nghymdeithasfaoedd cyntaf Harris, ond yn raddol a aethant i bregethu rhyw gymysgedd o Antinomiaeth a Sandemaniaeth, nas gwyddai neb beth ydoedd. Bu i'r naill a'r llall nifer o ganlynwyr am ychydig, eithr buan y darfuant.

Ni theimlodd Gwynedd lawn cymaint oddiwrth yr ystorm, am eu bod yn mhellach oddiwrth ganolbwynt yr ymdrech, er, hefyd, i'r corwynt difaol gyrhaedd yno. Yn y Dê, Sir Aberteifi a deimlodd leiaf; yma yr oedd dylanwad Rowland yn orchfygol; a seiat yr Hen Fynachlog, ger Pontrhydfendigaid, yw yr unig un y darllenwn am dani ei bod yn gwahodd plaid Harris. Nid cymaint, ychwaith, a fu y niwed yn Sir Gaerfyrddin, am fod Williams, Pantycelyn, yn y pen uchaf, a Rowland, trwy ei bregethu misol yn ngapel Abergorlech, yn y rhan isaf, yn medducryn ddylanwad ar y seiadau. Bu y rhwyg yn fwy yn Sir Benfro. Yr oedd Howell Davies yn cael edrych i fynu ato fel tad gan ganoedd; ond yr oedd John Sparks, a John Harris, St. Kennox, yn fawr eu dylanwad, ac yn pleidio Howell Harris yn gryf, a phan y darfu i'r Diwygiwr ymneillduo i Drefecca, aethant hwy drosodd at y Morafiaid. Rhaid iddynt hwy ddylanwadu ar gryn nifer. Diau i seiadau Sir Forganwg gael eu hysgwyd yn enbyd, ac i rai o honynt ddiflanu. Ar ol hyn, nid ydym yn darllen am seiadau Gelligaer, Llysfaen, y Cymmer, Dolygaer, ac eraill. Am Sir Fynwy, chwalwyd y nifer amlaf o'r seiadau a