Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/474

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall iddynt amheu y cuwrad. Pan fyddai un o'r plwyfolion farw, anghefnogai yn gyfangwbl y defodau Pabaidd oedd mewn arferiad yn yr ardal ar y cyfryw achlysur, eithr anogai y bobl i ddifrifwch, darllen y Beibl, gweddio, a chanu salmau.

Eithr dygwyddodd amgylchiad yn fuan a benderfynodd y mater tuhwnt i ddadl. Un boreu Sabbath aethai y cuwrad i'r eglwys fel arfer. Yr oedd ei bregeth ganddo wedi ei hysgrifenu yn ofalus ar bapyr. Gwedi myned trwy y gweddïau dechreuodd ddarllen yr hyn a ysgrifenasai gyda dwysder; eithr wrth godi ei ben, at thaflu golwg frysiog ar y gynulleidfa, gwelai ryw bobl ieuainc anystyriol, yn lle talu sylw i'w ymadroddion, yn cellwair, ac yn taflu blodeuglwm, mewn chwareu, y naill at y llall. Cyffrodd enaid gweinidog Crist o'i fewn. Arosodd am enyd, i edrych a wnelai ei ddystawrwydd eu cywilyddio. Pan welodd nad oedd hyn yn peri iddynt gywilydd, dechreuodd lefaru wrthynt am sancteiddrwydd tŷ Dduw, a'r parch dyladwy i ordinhadau y tŷ; dywedai fod eu hymddygiad yn gyfryw na oddefid mewn chwareudy, chwaethach yn nghysegr yr Arglwydd, a'u bod yn euog o daflu yr anfri mwyaf ar fawrhydi y Jehofah. Gwedi llefaru fel hyn nes esmwythhau ei gydwybod, ceisiodd ail ddechreu darllen, ond methai a chael o hyd i'r man y gadawsai, ac oddiyno i'r diwedd bu raid iddo ymdaflu ar ei adnoddau, a llefaru fel y rhoddai yr Arglwydd iddo ymadrodd. Teimlai ef ei hun ar y pryd fod hyn yn gryn drosedd, a gofynai yn gyhoeddus am faddeuant y gynulleidfa. Eithr yr oedd maddeu pechod mor ysgeler yn beth hollol anmhosibl i'r bobl foneddigaidd oedd yn bresenol. Dibwys ganddynt oedd fod yr ieuenctyd yn chwareu ac yn cellwair yn ystod yr addoliad cyhoeddus; bychan yn eu golwg oedd fod y werin yn marw o eisiau gwybodaeth; ond am lefaru yn y pwlpud, dan ddylanwad eiddigedd sanctaidd dros ogoniant Duw, heb fod y sylwadau wedi cael eu hysgrifenu yn flaenorol, yr oedd hyn yn bechod mor waradwyddus fel yr ystyrient ef y tu allan i derfynau maddeuant. Wrth fyned allan clywai Peter Williams y gwŷr mawr yn sibrwd wrth eu gilydd: "Yr oeddym yn ei ddrwgdybio yn flaenorol," meddent, "mai Methodist ydoedd; eithr dyma y peth yn amlwg o'r diwedd, y mae wedi tynu ymaith y llen-gudd." Dygwyddai gwraig y periglor fod yn bresenol, yr hon a anfonodd adroddiad o'r hyn a ddygwyddasai i'w gŵr. Gyda throad y post dyma lythyr i'r cuwrad yn cymeryd ei swydd oddiarno. Sail yr ymddygiad hwn, yn ol geiriau y llythyr, oedd a ganlyn: "Y mae y Parch. Peter Williams, cuwrad eglwys Gymmun, yn cael ei gyhuddo o bregethu y pechod gwreiddiol, cyfiawnhad trwy ffydd, a'r angenrheidrwydd anorfod am ail-enedigaeth." Pechodau difrifol, onide, mewn gweinidog? Atebodd Peter Williams, mai yr athrawiaethau, am bregethu pa rai yr oedd yn cael ei gondemnio, yn ol ei farn ef, oedd sylfaen erthyglau Eglwys Loegr; a dymunodd ar y periglor i ddatgan ei olygiadau gyda golwg arnynt, ac addawai, os medrai wneyd hyny gyda chydwybod rydd, i ddilyn y cyfarwyddiadau a gaffai. I'r llythyr hwn nid atebodd y periglor air; eithr yn mis Awst daeth i lawr, gan wasanaethu ei hun hyd nes gorphen blwyddyn y cuwrad. Aeth y gŵr ieuanc ato, gan ddymuno cael pregethu yn ei glyw, fel y gallai farnu parthed ei gymhwysder i'r offeiriadaeth. Yr unig ateb a roddai y periglor iddo oedd, ei fod yn credu mai Methodist ydoedd, ac na fyddai a fynai ag ef mwy. Dadleuai y cuwrad fod ganddo drwydded i bregethu oddiwrth Esgob Tyddewi. Atebai yr offeiriad y gwnai ei roddi yn Nghwrt yr Esgob, ac y cymerid ei drwydded oddiarno yn fuan. Erbyn hyn canfyddai Peter Williams ei bod yn tywyllu arno o bob tu, a brysiodd at yr Esgob, i ragflaenu y cyhuddiad a welai oedd yn dyfod. Eithr derbyniad hynod o oeraidd a gafodd. Yr oedd rhywrai wedi bod yn ddiwyd yn cludo chwedlau am dano i'r Esgob. "Yr wyf wedi clywed eich hanes," meddai, " yr ydych wedi bod yn pregethu yn Llanlluan a Chapel Ifan." Capelau Eglwysig oedd y rhai hyn, a gawsent eu gadael i fyned yn adfeilion; eithr yr oedd y Methodistiaid wedi cymeryd meddiant o honynt, gan eu hadgyweirio i raddau, a'u defnyddio i bregethu yr efengyl ynddynt. Awgryma cyhuddiad yr Esgob fod cryn gyfathrach wedi bod rhwng Peter Williams a'r Methodistiaid yn barod, er nad ydoedd wedi ymuno â hwy yn ffurfiol. Dadleuai yntau, yn ngwyneb y cyhuddiad, mai lleoedd cysegredig perthynol i Eglwys Loegr oeddynt. Yr unig atebiad a gaffai gan ei arglwyddiaeth ydoedd, os gwnai beidio pregethu am dair blynedd, ac ymddwyn yn weddus, sef, yn ddiau, peidio ymgymysgu â'r Methodistiaid, y rhoddai efe iddo ar ben y tymhor hwn gyflawn urddau. "Sut y gallaf fyw cyhyd heb na