gwaith na chyflog?" gofynai y cuwrad. "Gwnewch fel y medroch," meddai yr Esgob yn ol. Felly y terfynodd yr ymddiddan, a chafodd Peter Williams ei ollwng o'r palas esgobol heb gael cynyg ar fwyd na diod.
Dyma Peter Williams, druan, heb le, na golwg am dano, oblegyd pregethu yr hyn a ystyriai efe yn wirionedd Duw. Eithr yr oedd ganddo gyfaill calon yn yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror. Pan glywodd efe am y tro, anfonodd am dano, a hysbysodd ef fod eisiau cuwrad yn nhref Abertawe. Brysiodd yntau yno, a'r guwradiaeth a gafodd. Eithr am fis yn unig y cafodd wasanaethu. Yr achos a barodd iddo gael ei yru i ffwrdd oedd a ganlyn: Daeth y Sabboth i'r maer, yn nghyd â chorphoraeth Abertawe, ac hefyd yr aelod seneddol dros y fwrdeisdref, i fyned i'r eglwys. Gwedi i Peter Williams ddarllen yr holl wasanaeth, cyfododd y boneddigion i fyned allan; nid yw yn ymddangos yr arferent gael pregeth ar y cyfryw achlysur. Eithr rhoddodd ef salm allan i'w chanu; eisteddodd y boneddigion yn eu holau, a thraddododd yntau bregeth effeithiol iddynt oddiar 2 Cron. xix. 67: "Canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd," &c. Taranodd yn erbyn derbyn gwobrau wrth farnu; a dywedodd wrthynt, oni ymddygent yn gydwybodol yn ol cyfraith Duw, y byddai holl bechodau y bobl yn gorwedd wrth eu drysau. Anfoddlonodd rhai o'r boneddwyr yn enbyd, a'r maer yn eu mysg. Ystyrient fod y cuwrad wedi gwneyd yn rhy hyf arnynt, a thalasant y pwyth iddo, trwy beidio ei wahodd i'r wledd arferol. Yn mhen y mis aeth Peter Williams i'r eglwys, a gwelai ŵr yn y pwlpud yn barod, ac wedi ymddiddan ag ef, deallodd ei fod wedi cael ei anfon i gymeryd ei le. Yr esgus a roddwyd i'r cuwrad ydoedd, fod y plwyfolion wedi anfoddloni wrtho. Er byred yr amser y bu yn Abertawe, ymddengys i'w lafur gael ei fendithio yn ddirfawr. Dywedai amryw o'r rhai a garent yr Arglwydd Iesu iddo fod yn offeryn i'w cadarnhau yn ngwirionedd Crist.
Wedi dychwelyd i Gaerfyrddin clywodd fod eisiau cuwrad yn Llangranog a Llandysilio, yn Sir Aberteifi, a chwedi appelio, cafodd y lle. Gwnaethai gytundeb pendant am chwarter blwyddyn, eithr am ddau fis yn unig y cafodd aros yno oedd yn dra derbyniol gan y plwyfolion, eithr rhoddodd ei Fethodistiaeth dramgwydd i'w noddwr, ac i ffwrdd y gorfu iddo fyned. Gyda hyn y mae ei gysylltiad â'r Eglwys Sefydledig yn darfod. Yr oedd yn dra ymlyngar wrthi; o fewn ei chymundeb, ac yn gwasanaethu wrth ei hallor, y treuliasai ei fywyd, pe y cawsai ganiatad; ond yr oedd duwioldeb, ac awydd am gyhoeddi yr efengyl yn ei phurdeb i bechaduriaid, yn bethau na oddefid o fewn terfynau yr Eglwys yr adeg hono, ac allan y bu rhaid i Peter Williams droi. Aeth allan fel Abram gynt, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Eithr clywodd am ryw gynghorwr enwog yn Sir Benfro, yr hwn, yn ol pob tebyg, nid oedd yn neb amgen na'r gwas enwog hwnw i Grist, y Parch. Howell Davies, a chafodd ar ddeall ei fod yn pregethu yr efengyl gyda nerth ac arddeliad mawr. Penderfynodd fyned i'w wrando. Mewn lle o'r enw Castell-y-Gwair, yn y flwyddyn 1746, y cymerodd hyn le, pan yr oedd Peter Williams tua phedair—mlwydd-ar-hugain oed. Cafodd y fath flas ar bregeth Howell Davies, fel y torodd allan i weddio yn gyhoeddus ar y diwedd; a gwnaeth hyny gyda'r fath wres ac eneiniad nefol, nes gwefreiddio pawb, ac aeth yn orfoledd cyffredinol trwy yr holl gynulleidfa. Penderfynodd fwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid yn ddiymdroi. Cymerodd y pregethwr ef i Gymdeithasfa Fisol, a gynhelid rywle yn nghyffiniau Sir Benfro; cyflwynodd ef i sylw y frawdoliaeth, ac ysgrifenwyd ei enw yn mysg y brodyr.
O hyn allan, pregethwr teithiol yw Peter Peter Williams, ac ymddengys iddo ddechreu ar ei orchwyl ar unwaith. Yn bur fuan, aeth i gapel Abergorlech, er mwyn clywed Daniel Rowland; eithr gwnaeth Rowland iddo ef bregethu. Cafodd odfa nerthol; bu ei bregeth yn effeithiol, dan fendith Duw, er achubiaeth i amryw. Cymerodd Rowland ef i Langeitho, lle y pregethodd gyda chryn ddylanwad. Cyfaddefa na wyddai nemawr y pryd hwn am olygiadau gwahaniaethol yr amrywiol bleidiau; diau y clywsai am Arminiaid, Baxteriaid, a Morafiaid; eithr ni wyddai fwy am danynt na'u henwau; yr oedd eu golygiadau ar wahanol athrawiaethau crefydd yn hollol ddyeithr iddo. Eithr pregethai efe Iesu Grist wedi ei groeshoelio, fel Ceidwad holl-ddigonol i bechaduriaid, ac yr oedd yr Arglwydd yn arddel ei genadwri syml. O Langeitho, aeth am daith i Ogledd Cymru. Y lle cyntaf yr ymwelodd ag ef oedd Llan-