idloes, a chawsai ei gyfarwyddo i alw yn nhŷ crydd, o'r enw Evan Morgan, yr hwn a breswyliai yn heol y Gogledd. Yr oedd yspryd erlid yn gryf yn Llanidloes yr adeg hon; nid diberygl i Fethodist oedd ymweled a'r dref; bu yn gryn helbul ar Peter Williams cyn dod o hyd i dŷ y crydd, eithr wedi iddo lwyddo, cafodd garedigrwydd mawr yno. Nid yw yn ymddangos iddo bregethu yn y dref, namyn cynghori yr ychydig bobl druain, dlodion, a ymgynullent yn nhŷ Evan Morgan. Oddiyma, aeth i gyfeiriad y Drefnewydd; pregethai pa le bynag y caffai gyfleustra; ac weithiau, byddai ganddo gyfaill crefyddol yn ei hebrwng o'r naill le i'r llall. Bu yn galed arno yn y Drefnewydd; galwasai gyda gôf i bedoli ei geffyl, ond yn fuan clywai y bobl yn sibrwd mai Cradog ydoedd, a dyma hwy yn dechreu lluchio cerig ato. Dywed fod y cerig yn dyfod gyda y fath ruthr, fel y tarawent dân allan o'r palmant. Ffodd am ei fywyd i gyfeiriad Llanfair-Careinion. Yn y gymydogaeth hono daeth o hyd i foneddwr lletygar oedd wedi gyfarfod yn flaenorol yn Llandrindod; gan hwn, cafodd garedigrwydd mawr, a gwahoddodd ef i bregethu y dydd canlynol yn nhŷ un o'i amaethwyr. Sylwa mai dyma y tro cyntaf iddo ganfod ychydig o haul er dechreuad ei brofedigaethau. Y lle nesaf iddo ymweled ag ef oedd y Bala, lle y clywsai fod ychydig o garedigion yr efengyl yn arfer cyfarfod. Yn nhy Ysgotiad duwiol yr arosai, ac ymddengys, hefyd, mai yma y darfu iddo bregethu. Ni wnaed ei ddyfodiad yn gyhoedd, eithr gwahoddwyd ychydig gyfeillion a pherthynasau i wrando. Daeth mwy nag a wahoddasid, ac er mwyn symud ymaith ragfarn, gwisgai y pregethwr ei dorchwddf (neck band) offeiriadol wrth lefaru. Gwrandawai rhai yn ystyriol; yr oedd eraill yn ddifater, ac hyd yn nod yn anfoesgar. Er mwyn enill eu sylw, cymerodd yn destun, nid adnod o'r Beibl, ond adran o'r gyffes a arferir yn y Llyfr Gweddi Cyffredin: "Aethom o'th ffyrdd di fel defaid ar gyfrgoll." Rhai yn unig a roddent glust; am y lleill, yr oeddynt yn llawn of yspryd erlid, a thaflent gerig mawrion, rhai yn dri phwys yn y man lleiaf, at y man y tybient ei fod yn cysgu. Eithr yr Arglwydd a'i cadwodd rhag derbyn niwed.
Clywsai fod ychydig yn gwrando yr efengyl yn Lleyn, ac yno yr aeth, eithr ni ddywed i ba leoedd. Cafodd gynulleidfaoedd lliosog, nid am fod y mwyafrif yn rhoddi gwerth ar Air yr Arglwydd, ond am eu bod yn awyddus am weled cyfarfod crefyddol yn cael ei gynal yn yr awyr agored, gan un o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig. Eithr cafodd amryw eu hargyhoeddi, ac yn eu mysg un foneddiges ieuanc, yr hon a ddywedai mai efe a gydnabyddai yn dad ysprydol tra y byddai byw. Oddiyma wynebodd ar Sir Fôn. Clywsai bethau enbyd am wŷr Môn, a'u hatgasedd at bregethu teithiol, ac am y dull ofnadwy yr ymosodent ar y pregethwyr, yn nghyd â'r rhai a'u canlynent. Yn arbenig, adroddid iddo hanes un odfa yn ddiweddar, pan yr oedd y gynulleidfa wedi ymranu, un blaid am glywed beth oedd gan y cablwr (dyna fel y galwent y pregethwyr tlawd) i'w ddweyd, a'r lleill am ei yru o'r wlad. Terfynodd y ffrwgwd mewn ymladdfa waedlyd, a bu raid i'r pregethwr ddianc am ei hoedl. Er y chwedlau yma ni chymerodd Peter Williams ei ddychrynu; wynebodd ar yr ynys yn nerth Duw. Ar y dechreu, cadwai o'r trefydd a'r lleoedd poblog, gan deithio ar hyd y rhan fwyaf bryniog o'r ynys, lle yr oedd y trigolion yn deneu. Gwyddai y byddai cynulleidfa fawr yn sicr o'i rwystro i siarad. Llefarai pa le bynag y cai bump neu chwech o wrandawyr; eithr pan elai y si ar led fod un o'r Pengryniaid wedi dyfod i bregethu yno, nes peri i'r lliaws ddyfod yn nghyd, byddai yntau yn dianc. Yn araf fel hyn daeth yn alluog i enill clustiau llawer o bobl, ac yn raddol eu calonau, nes medru bod yn fwy cyhoedd. Cyfarfyddodd hefyd a mab i ryw foneddwr, yr hwn a gawsai ei argyhoeddi trwy offerynoliaeth Howell Harris; bu hwn yn arweinydd iddo am beth amser, gan ei gymeryd i fanau lle yr oedd rhai mewn cydymdeimlad â'r efengyl. Nid oedd i gael ymadael o Fôn, modd bynag, heb brofi rhyw gymaint o lid y gelyn. Mewn tref, na rydd ei henw, yr oedd yr erlidwyr wedi ymgasglu yn llu; gwawdient a chrochlefent, a cheisient ddychrynu ceffylau Peter Williams a'i gyfaill, trwy ysgwyd cwd llawn o gerig, wedi ei rwymo ar ben pastwn hir; eithr nid rhyw lawer o luchio cerig oedd yno. Pan y tybiai y pregethwyr y caent basio heb gael dim gwaeth na gwatwaredd daeth rhyw grydd allan o'i weithdy, yr hwn a gymerodd lonaid ei law o fudreddi yr heol, ac a'i taflodd i wyneb Peter Williams, nes yr oedd am ychydig yn hollol ddall o'r ddau lygad. Modd bynag, wedi ei rwbio