wthiodd ei law i'w logell, gan gymeryd yr holl arian oedd ganddo ar y pryd, sef punt a dwy geiniog. Ac felly y terfynodd yr helynt.
Ei brif elynion oeddynt offeiriaid Eglwys Loegr. Deuai rhai o honynt yn aml i'w gyfarfodydd i derfysgu; a phan na fyddent yn bresenol, yr oeddynt wedi gofalu cyflogi dihyrod i gyflawni y gwaith. Pregethai unwaith yn y Garnedd Fawr, yn Môn, a daeth clerigwr yn mlaen, a fuasai yn gydysgolor ag ef yn athrofa Caerfyrddin. "Ffei, Peter," meddai yr offeiriad; "pa fodd y meiddi bregethu mewn lle anghysegredig?" Ebai yntau yn ol: "Maddeuwch fy anwybodaeth; yr oeddwn i yn. tybio fod y byd oll, er pan y sangodd Mab Duw arno, yn gysegredig i efengyl Crist." Dro arall, pan ar un o'i deithiau yn Sir Fôn, safai i bregethu yn ymyl tafarndy yn Rhosllugwy. Eithr ymgasglasai torf o greaduriaid diriaid, y rhai a benderfynasent ei rwystro i lefaru. Ni chaniateid i'r pregethwr fyned i'r tŷ, ac ni chaffai ei anifail le. Ar hyn, yn hollol foneddigaidd, ond yn ddiegwan o ffydd, rhoddodd yr emyn ganlynol allan i'w chanu:
"Yr Arglwydd bia'r ddaear lawr, A'i llawnder mawr sydd eiddo; Yr Arglwydd bia yr holl fyd, A'r bobl i gyd sydd ynddo."
Cymaint oedd y dylanwad cydfynedol at rhoddiad allan yr emyn, fel y darfu i'r terfysgwyr daflu y pastynau, yn nghyd a'r cyrn, a holl daclau yr aflonyddwch o'u dwylaw; cafodd y pregethwr dawelwch hollol i draethu cenadwri ei Dduw; ac yn yr odfa hono achubwyd amryw a fuont gwedi hyny yn golofnau cedyrn dan achos y Gwaredwr yn Sir Fôn.
Nid yn y Gogledd yn unig y bu Peter Williams dan erledigaeth, cafodd ei gamdrin aml i dro yn y Dê, ac hyd yn nod yn ei sir ei hun. [1]Pregethai un prydnhawn Sabbath mewn lle a elwir Cwmbach, yn gyfagos i eglwys y plwyf. Safai y pregethwr ar gareg farch yn yr awyr agored, a daethai torf yn nghyd i wrando. Gyda ei fod wedi dechreu pregethu, dyma heliwr Mr. Pryse, Plasnewydd, yr hwn foneddwr oedd yn ynad heddwch, yn dyfod i'r lle. Gwelid fod yn mwriad yr heliwr i greu terfysg, a'i fod, trwy yfed cyflawnder o wirodydd, wedi parotoi ei hun i'r gwaith. Nesaodd at y gynulleidfa, gan fytheirio llwon a rhegfeydd, a chrochlefain yn erbyn cynal cyfarfod o'r fath. Ymataliodd Mr. Williams dros enyd, a gofynai ai nid oedd. yno neb a allai berswadio yr aflonyddwr i fyned allan. Aeth dau ŵr ato, un o ba rai ydoedd Henry Pugh, y rhai a'i hataliasant i ruthro ar Mr. Williams, eithr a'i harweiniasant ef ymaith. Wrth ei fod yn myned, galwodd Peter Williams sylw y gynulleidfa ato, ac mewn modd ofnadwy o ddifrifol, dywedodd: "Os wyf fi yn genad dros Dduw wrth lefaru yma heddyw, chwi a gewch weled mai nid fel dyn arall y bydd y dyn yna farw." Gwir oedd ei eiriau. Yn mhen naw diwrnod gwedi, syrthiodd i bwll glo dwfn, fel y bu farw gwedi ei ddryllio yn arswydus. "Diau fod Duw a farna ar y ddaear."
[2]Yn Nghydweli, tref fechan heb fod yn nepell o'i gartref, cafodd driniaeth mor arw a dim a dderbyniodd yn ystod ei oes. Ymddengys fod y lle yn enbyd o annuwiol. Ceir traddodiad ddarfod i Howell Harris gael ei gamdrin yn dost yno pan yn gwneyd ymgais am bregethu yr efengyl. Aeth Peter Williams yno un prydnhawn Sabbath, gan sefyll ar gareg farch yn ymyl tŷ gwr o'r enw John Rees. Ar hyny, dyma haid o oferwyr yn dyfod i aflonyddu arno, y rhai a flaenorid gan ddyn mawr, garw yr olwg arno, a elwid Deio Goch, a rhywun arall. Yr oedd Mr. Williams wedi darllen penod o'r Beibl, ac ar fyned i weddi, pan y neidiodd Deio Goch ato, gan gipio y Beibl o'i law, a'i dynu i lawr oddiar y gareg ar ba un y safai. Yr oedd y dihyrwyr, meddir, wedi cael eu gosod ar waith gan offeiriad y plwyf; ac yr oeddynt wedi ymgymhwyso at y gorchwyl oedd ganddynt mewn llaw trwy ymlenwi â diod gref. Yr oedd y pregethwr, bellach, yn ei gafael. Curasant ef yn ddidrugaredd a'u ffyn; yn ganlynol, gosodasant ef ar ei geffyl, a gyrasant hwnw ar hyd y morfa, gan ei symbylu i neidio dros ffosydd mawrion; a rhyfedd ydoedd na fuasai yr anifail wedi tori ei goesau, a'r hwn a'i marchogai wedi tori ei wddf. Yn nesaf, cymerasant y pregethwr i'r tafarn, gan benderfynu ei feddwi, a thrwy hyny ei wneuthur yn destun gwawd. Gofynent iddo: "A wnewch chwi yfed?" "Gwnaf, fel ych," oedd yr ateb. Estynwyd y ddiod iddo; yntau, yn ddirgel, a'i tywalltai, nid i'w enau, ond i'w fotasau, nes yr oedd y rhai hyny yn llawnion. Wrth ei weled mor hwyr yn dychwelyd, anfonodd ei