Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/479

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chyn pen nemawr amser, braidd y rhagorai neb arno yn mysg y Methodistiaid o ran dirnadaeth o egwyddorion crefydd.

Ymunodd Peter Williams a'r Methodistiaid ar adeg bwysig, sef pan yr oedd y ddadl rhwng Howell Harris a'r arweinwyr eraill ar dori allan. Cawn ef yn bresenol mewn amrai Gymdeithasfaoedd y bu dadleu brwd ynddynt, a theimladau cyffrous yn cael en henyn; yr ydoedd yn Nghymdeithasfa Llanidloes, ac yn pregethu, sef yr olaf i Harris a Rowland fod yn nghyd ynddi cyn yr ymraniad. Nid yw yn ymddangos iddo ef gymeryd rhan yn y ddadl o gwbl. Efallai yr ystyriai ei hun yn ormod o newyddian yn y ffydd i ddweyd dim, y naill ochr neu y llall. Gallesid dysgwyl, oddiwrth y golygiadau a gyhoeddwyd ganddo ar ol hyn, mai cymeryd plaid Harris a wnelai. Gellid meddwl fod cryn debygolrwydd yn syniadau y ddau gyda golwg ar y Drindod. Eithr wrth Daniel Rowland y glynodd. Ai efe oedd y pedwerydd offeiriad, oedd yn bresenol gyda Rowland, Williams, a Howell Davies, yn Nghymdeithasfa Llantrisant yn y flwyddyn 1750, pan y penderfynwyd tori pob cysylltiad â Harris, nis gwyddom. Ar y naill law, nid ydym yn adnabod unrhyw offeiriad arall oedd yn fyw ar y pryd, a fuasai yn debyg o gael ei alw i'r cyfryw gyfarfod. Ar y llaw arall, prin y mae y dybiaeth yn gyson â phresenoldeb Peter Williams yn Nghymdeithasfa gyntaf plaid Harris yn St. Nicholas. pha beth oedd ei neges yn St. Nicholas, sydd ddirgelwch. Amlwg yw nad aeth yno gyda'r bwriad i ymuno; gwrthododd hyny yn bendant. Braidd na ellid tybio mai ei amcan oedd ceisio rhwystro rhwyg, cyn i bethau fyned yn rhy bell; oblegyd pan y gwnaeth Harris araeth, yn gosod allan ddrygedd ymddygiad Rowland a'i ganlynwyr, a'r anmhosiblrwydd i uno â hwynt heb iddynt edifarhau mewn sachlian a ludw, aeth Peter Williams allan, ac ni fu unrhyw gyfathrach rhyngddo, mor bell ag y gwyddom, â "phobl Harris tra y buont yn blaid ar wahan. Pan y gwnaed heddwch rhwng Harris a'r Methodistiaid, yn mhen tair-blynedd-ar-ddeg gwedi, yr oedd Peter Williams yn un o brif ddynion y Gymdeithasfa. Braidd nad ystyrid ef y nesaf at Rowland. Ac yr ydym yn cael ei fod, yn ogystal a'r arweinwyr eraill, yn derbyn y Diwygiwr o Drefecca yn ol gyda breichiau agored. Eithr nid ydym yn cael fod cyfeillgarwch arbenig yn ffynu rhyngddo ef â Harris; dau brif gyfaill y diweddaf, hyd ei fedd, er y cymylau a godai rhyngddynt weithiau, oedd Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn. Yr oedd ei enaid wedi ymglymu am y ddau hyn, fel eiddo Jonathan wrth Dafydd.

Derfydd yr Hunangofiant a gyfansoddwyd gan Peter Williams gyda hanes ei daith gyntaf i Ogledd Cymru. Ychydig o hanes manwl a feddwn am dano o hyny allan. Y mae yn amlwg, modd bynag, mai fel pregethwr teithiol y treuliodd ei oes, ac iddo drafaelu holl Gymru, o Gaergybi i Gaerdydd, ddegau o weithiau. Meddai gymhwysderau arbenig tuag at deithio y wlad yr adeg hon. Yr oedd ei gorph yn gadarn a gwydn, fel y gallai ddal pob math o dywydd; ei yspryd oedd wrol a hyf, ac ni ddychrynai rhag lid yr erlidwyr; yr oedd ei ddoniau gweinidogaethol mor enillgar, fel yn aml y byddai yn swyno ei wrthwynebwyr heb yn wybod iddynt; ac yr oedd ei ddyoddefgarwch a'i ymroddiad yn ddiderfyn. A dylid cofio, mai nid myned yn ol cyhoeddiad, wedi cael ei drefnu yn fanwl, y byddai, o leiaf yn nechreuad ei lafur, a chyfeillion caredig yn dysgwyl am dano ac yn barod i'w groesawi yn mhob lle; ond byddai raid. iddo weithio ei ffordd yn mlaen goreu y medrai, gan anfon rywsut a rhyw ffordd i hysbysu ei fod yn dyfod; ac efallai mai yr unig dderbyniad a gaffai, fyddai lu o erlidwyr yn ei aros, gyda cherig a phastynau yn eu dwylaw, a llidiowgrwydd lonaid eu hyspryd. Nis gallwn ddychymygu am fawredd ei ddyoddefaint. Mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo [1]Ionawr 3, 1747, adrodda iddo ef ac eraill gael eu dal yn eu gwely yn Rhosllanerchgrugog, trwy warant wedi cael ei harwyddo gan Syr Watkin Williams Wynne; iddynt fod tan arholiad gan Syr Watkin, yn ei balas, hyd yr hwyr, heb gael tamaid i'w fwyta na thracht i yfed; ac i'r prawf orphen trwy iddo ef gael ei ddirwyo o ugain punt, a phob un o'i wrandawyr o bum' swllt yr un. Wedi cyhoeddi y ddedfryd gollyngwyd hwy yn rhydd. Eithr o gwmpas deg o'r gloch y nos dyma y cwnstabli, a'r churchwarden, yn llety Peter Williams, gan hawlio y ddirwy. Gomeddodd yntau dalu. Yna, y prif gwnstab a afaelodd yn ei fraich, a'r churchwarden a

  1. Gwel |Y Tadau Methodistaidd, tudal. 350.