Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/495

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyddom ni yn awr am danynt. Bydded y rheswm y peth y bo, aflwyddianus a fu Thomas Williams. Cafodd oes faith; a bu farw Tachwedd 23, 1844, yn 84 mlwydd oed.

Yr ydym wedi aros cyhyd gyda Thomas Williams, oblegyd mai efe oedd yr unig un y gwyddom am dano, o unrhyw enwogrwydd, gyda yr eithriad o'i gyfaill, ac ysgrifenydd ei eglwys, sef John Williams, St. Athan, a ymadawodd a'r Methodistiaid oblegyd diarddeliad Peter Williams, ac a geisiodd ffurfio eglwysi ar wahan. Eithr i ddychwelyd at Peter Williams. Dywedir ei fod o ymddangosiad boneddigaidd ac urddasol, yn tueddu at fod yn dal, ei wynebpryd braidd yn hir, ac liw gwelw; a'i fod bob amser yn drefnus a glanwaith yn ei wisg a'i berson. Meddai gorph cryf, ac yspryd eofn a phenderfynol, ac yr oedd fel pe wedi ei gyfaddasu o ran corph a meddwl ar gyfer sefyllfa Cymru. yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Nid oes amheuaeth am ei dduwioldeb, a'i gydwybodolrwydd dwfn. Pa gamgymeriadau bynag a wnaeth, yr oedd ei amcanion yn bur, a'i olwg yn wastad yn syml ar ogoniant Duw, a lles eneidiau. Perarogla ei goffadwriaeth hyd y dydd hwn. Ac er i'r Methodistiaid deimlo ei bod yn ddyledswydd arnynt i dori pob cysylltiad ag ef, teimlent barchedigaeth dwfn iddo, ac i'w goffadwriaeth, ar ol iddo huno. Yn y rhifyn cyntaf o'r Drysorfa Ysprydol, ceir ysgrif arno, o gyfansoddiad y Parch. Thomas Charles, yn ol pob tebyg, yn yr hon nid oes cymaint a gair yn tueddu i'w iselu; eithr yn hytrach, dyrchefir ef fel gwr a fu yn dra defnyddiol. "Yr oedd Mr. Peter Williams," meddai Mr. Charles, "yn rhagori mewn cynheddfau cryfion, corph a meddwl; yspryd gwrol, er hyny, addfwyn a thirion tuag at ei gyfeillion a'i deulu; ac yn ymroddi gyda phob dyfalwch, diwydrwydd, ac egni parhaus yn ngwaith yr Arglwydd. Bu o fendith, y mae lle i obeithio, i lawer o eneidiau, ac yn offeryn i'w troi o'r tywyllwch i'r goleuni, ac o feddiant Satan at Dduw." Dywedai y Parch. John Elias unwaith, pan yn anerch efrydwyr y Bala, iddo ef fod yn pregethu am flynyddoedd, heb feddu un esboniad ar y Beibl, ond eiddo Peter Williams. Ac ychwanegai:[1] Esboniad byr a da ydyw; a dyn da a defnyddiol yn ei oes a fu efe." A gwyddis nad oedd gan Mr. Elias fawr cydymdeimlad a'r rhai a gyfeiliornent oddiwrth y wir athrawiaeth. Ffaith dra arwyddocaol ydyw, fod mwy o hiliogaeth Peter Williams wedi parhau yn aelodau crefyddol yn mysg y Methodistiaid, nag ef eiddo un o'r tadau eraill. Awgryma hyn eu bod i raddau yn argyhoeddedig mai goddefol yn benaf a fu y Cyfundeb yn yr helynt. Nis gallwn orphen ein hysgrif ar yr hen Esboniwr enwog yn well na thrwy ddifynu penil arall o'i farwnad gan Thomas Williams:

"'Nawr yn mynwent Llandyfeilog,
'Nol ei flin siwrneion pell,
Gorphwys mae ei gnawd mewn gobaith
Am yr adgyfodiad gwell.
Y corph gwael ar ddelw Adda,
'R Adda cyntaf aeth i lawr,
A ddihun ar ddelw ei Arglwydd,
Gyda rhyw ogoniant mawr."




HANES Y DARLUNIAU.

Mae y darlun o Peter Williams a gyhoeddir genym yn gopi o'r un a ymddangosodd yn y Beibl Teuluaidd, a wnaed yn Nghaernarfon, ac a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Evan Jones, yn y flwyddyn 1822. Yr oedd cynifer ag wyth argraffiad o Feibl Teuluaidd Peter Williams wedi eu cyhoeddi ganddo ef ei hun, ac o dan nawdd y teulu, cyn yr argraffiad hwn, ond nid oedd darlun o'r awdwr yn yr un o honynt. Nid dan nawdd teulu Peter Williams y cyhoeddwyd argraffiad Caernarfon; ond yn erbyn eu hewyllys, ac yn ddiystyr o wrthdystiad a wnaed ganddynt. Cyhoddwyd amryw argraffiadau o'r Beibl hwn wedi hyny, ond nis gwyddom fod darlun o'r awdwr ynddynt, hyd yr argraffiad a gyhoeddwyd gan William Mackenzie, Glasgow, yn 1868. Darfu iddo ef wneyd darlun mawr o Peter Williams, i'w gyflwyno i'w dderbynwyr fel presentation plate. Darlun i'w fframio ydoedd hwn; a gwelir copiau o hono ar furiau ein haneddau. Gwnawd ef oddiwrth gopi Caernarfon.

Gwelir fod y ddalen ar ba un y mae y darlun yn mynegu fel yma: "From an engraving in the Gospel Magazine, 1777." Ond y mae yn debygol nad oes darlun o Peter Williams i'w gael yn y misolyn hwnw am y flwyddyn hono, nac ychwaith yn y blynyddoedd cyfagos. Nid oes ond un copi o'r misolyn o fewn ein cyrhaedd, sef yr un sydd yn Llyfrgell yr Amgueddfa Frytanaidd (British Museum), felly, nid ydym mewn ffordd

  1. Llythyr oddiwrth yr Hybarch John Jones, Ceinewydd.