Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/496

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i sicrhau na chyhoeddwyd ef yn y Gospel Magazine o gwbl. Gall y copi a welsom ni fod yn annghyflawn, a bod y darlun wedi ei gymeryd o hono i ryw bwrpas neu gilydd, ond y mae hyn i fesur yn annhebygol, am nad oes grybwylliad am ddarlun o Peter Williams i'w gael o gwbl yn y Gospel Magazine, mor belled ag y gallasom graffu wrth chwilio. Nid ydym yn alluog i roddi unrhyw eglurhad ar y ffaith hon; y mae hyd yma yn hollol anesboniadwy. Gellir dyfalu llawer, ond nis gellir penderfynu dim.

Gwelir fod y darlun o wneuthuriad celfydd, er nas gellir sicrhau ei fod yn ddarluniad cywir o Peter Williams. Y mae llythyr, a ysgrifenodd ei fab, y Parch. Peter Bailey Williams, i'r Gwyliedydd, yn mhen blynyddau ar ol cyhoeddiad y darlun, yn taflu amheuaeth ar hyn. Dywed fel yma: Nid yw y darlun (portrait) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Beibl Cymraeg, a argraffwyd yn Nghaernarfon, yn debyg i fy mharchedig dad, mewn pryd, na gwedd, na lliw, na llun, na chorpholaeth. Gwelais gynt ddarlun o hono wedi ei dynu yn Nghaerodor (Bristol), yr hwn oedd yn hollol annhebyg i'r un blaenorol; ac yno, yr oedd yn ymddangos mewn gown du a band, a'i wallt yn rhanedig, yn lled debyg i lun Mr. John Wesley, a'i law ddebeu ar y pwlpud, a'i aswy ar ochr ei wyneb, fel y byddai yn arferol wrth bregethu, ac o danodd yr oedd y geiriau hyn: The Rev. Peter Williams, of Carmarthen, Chaplain to the Countess of Huntington." Ac nid yw disgynyddion Peter Williams drwy y blynyddoedd yn credu yn nghywirdeb darlun Caernarfon.

Yn y flwyddyn 1823, blwyddyn ar ol ymddangosiad argraffiad Caernarfon, yn nghyd â darlun Peter Williams, ymddangosodd argraffiad o'r Beibl Teuluaidd gan Henry Fisher, o Lundain. Yn hwnw, ceid darlun o'r Parch. Peter Bailey Williams, Rector of Llanrug and Llanberis, sef un o feibion Peter Williams, gyda nodiad fel yma: "Gan nad oedd yn ddichonadwy gan y cyhoeddwyr gael darlun o'r awdwr, y maent yn deisyf cenad i anrhegu eu tanysgrifwyr ag un o'i fab, y Parch. Peter Bailey Williams, o Lanrug, swydd Gaernarfon, yr hwn, fel yr ydym wedi clywed, sydd yn dwyn tebygolrwydd agos i'w ddiweddar dad parchus." Cyhoeddwyd yr argraffiad hwn, y mae'n ymddangos, dan nawdd teulu Peter Williams, a gwneir i ddarlun Peter Bailey i wasanaethu yn lle darlun Peter Williams, naill am nad oedd ganddynt ddarlun o hono o gwbl, neu ynte, am nad oedd ganddynt ddarlun o hono ag yr oeddynt hwy yn eu hoffi.

Y mae tebygrwydd neillduol rhwng y darlun o Peter Williams, a gyhoeddwyd gan Mr. Lewis Evan Jones, Caernarfon, a'r un a gyhoeddwyd o'i fab, Mr. Peter Bailey Williams, gan Mr. Henry Fisher, yn Llundain. Pe buasai darlun Peter Bailey wedi ymddangos flwyddyn o flaen ei dad, ac nid ar ei ol, buasem yn cael ein tueddu i feddwl fod Mr. Lewis Evan Jones wedi gwneyd darlun o Peter Williams trwy gymeryd ei fab yn gynllun, a'i ddiosg o'i ddillad clerygol—y gown a'r band; ond gan mae fel arall y bu, yr oedd gwneyd felly yn anmhosibl.

Gwnaethom bob ymchwiliad dichonadwy i gael copi o'r darlun a wnaed o Peter Williams yn Mhristol, fel y tystiolaethir gan ei fab, ond nid ydym wedi llwyddo.

Dichon, gyda threigliad amser, y deuir i fwy o sicrwydd nag sydd genym yn bresenol o barth i hanes ag awduraeth darlun Peter Williams; hyd hyny, rhaid ymfoddloni ar y darlun a gyflwynwyd i ni gan Mr. Lewis Evan Jones, o Gaernarfon.

Y mae y darluniau eraill sydd yn y benod hon yn egluro eu hunain.