Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/499

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eus: "Druan o honot, yr wyf wedi blino ar dy fagu di." Edrychodd yntau gyda thynerwch yn ei hwyneb, a dywedodd: "Pan y mae fy nhad a'm mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Ar hyn, cipiodd y fam ei bachgen ffraethbert i'w mynwes, a dywedodd: "Am y gair hwn, mi a'th fagaf yn llawen tra y byddot byw ar y ddaear.' Hynodid ef pan y daeth i addfedrwydd oedran gan ei ffraethineb, parodrwydd a phriodoldeb ei atebion, ac yn yr amgylchiad hwn, cawn olwg ar y ddawn hon yn ei blagur.

Derbyniodd ei addysg athrofaol yn Ngolegdy Caerfyrddin, a dywed ef ei hun na ddarfu iddo dreulio term erioed yn y prif ysgolion. Urddwyd ef i guwradiaeth Llanafan-fawr, yn Sir Frycheiniog, tua'r flwyddyn 1758; ond symudodd yn bur fuan oddi yno i Dydweilog, yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Ac nid hir fu ei arhosiad yno ychwaith; oherwydd cawn ef yn gwasanaethu plwyfau Trefethin a Chaldicot, yn Sir Fynwy, yn y flwyddyn 1760. Beth oedd yn achlysuro y symudiadau parhaus hyn, nid yw yn wybyddus, ond gallwn ddweyd yn ddiogel mai nid ei grefydd oedd yr achos. Yr oedd hyd yn hyn yn ddigon difater am ei gyflwr ysprydol ei hun, a chyfrifoldeb ei swydd, i foddio personiaid oferwag yr oes hono. Dywedir ei fod y pryd hwn yn bregethwr enillgar a phoblogaidd, a dichon fod hyny yn ddigon o fai ynddo, yn ngolwg y personiaid ag yr oedd efe danynt. Modd bynag, daeth yn guwrad i Drefethin a Chaldicot, yn Swydd Fynwy. Y mae Trefethin yn ymyl tref Pontypŵl, ac yr oedd yn byw yn Mhontymoel, yn ymyl y dref hono, ar y pryd y daethai David Jones yno, feddyg enwog yn ei alwad, a thra enwog hefyd am ei rinweddau a'i dduwioldeb. Ei enw oedd Dr. William Read. Yr oedd clod y meddyg hwn wedi lledu dros Gymru oll, a chleifion yn tyru ato o'i chyrau pellaf. Ymgyfathrachai efe a'r Methodistiaid, ac yr oedd y Bardd o Bantycelyn ac yntau yn arbenig yn gyfeillion mynwesol. Pan fu y meddyg farw, yr hyn a gymerodd le yn 1769, ysgrifenodd Williams farwnad iddo, un o'r goreuon a gyfansoddwyd ganddo. Ceir hi yn mysg ei weithiau argraffedig. Gellir lled dybio oddiwrth awgrym sydd yn y farwnad, fod y bardd yn bresenol yn yr angladd, o herwydd y mae yr awdwr, ar ol datgan ei anghrediniaeth o'r hanes am farwolaeth y doctor, mewn tri o benillionprydferth, yn troi ac yn dywedyd:— Mae'n wirionedd, fe ddiangodd O fyd gwag i deyrnas nefoedd, Mae ei gorph ef heddyw'n llechu, Mewn cist o bren yn isel obry; Fe rowd arno yn ddiffafar, Bedair troedfedd lawn o ddaear; Hoeliwyd y gist, 'r wyf yn dyst, estyllod durfin, READ sy'n gorwedd gyda'r werin, Cwsg o fewn i eglwys Trefddyn.

Yr oedd Dr. Read yn fyw, ac yn nghanol ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb, pan ddaeth y cuwrad ieuanc i Drefethin. Trigent yn ymyl eu gilydd, a daethant yn hynod o gyfeillgar. Nid yw yn hollol eglur, pa un ai crefydd y meddyg a achlysurodd droedigaeth y cuwrad, neu ynte troedigaeth y cuwrad a'i dygodd ef i gydnabyddiaeth a'r meddyg. Yr hyn a ddywed Mr. Morgan, Syston, am hyn yw, mai trwy ddarlleniad llyfr o waith yr enwog Flavel yr effeithiwyd ei droedigaeth, pan yr oedd yn gwasanaethu yn y lle hwn. Dywed, yn mhellach, ddarfod i'r gwr ieuanc, wedi iddo gael ei gyfnewid i fywyd, dderbyn anngharedigrwydd a chreulondeb ar law y gŵr eglwysig ag yr oedd efe yn gwasanaethu' dano; ac nad oedd gan David Jones na châr na chyfaill yn agos ato i ddweyd ei gwyn wrtho, na chael cyfarwyddyd ganddo, ond Dr. William Read. Hwyrach mai ar ol i'r cyfnewidiad mawr gymeryd lle, trwy ddarlleniad llyfrau Flavel, y dechreuodd ei gyfeillgarwch a'r meddyg duwiol o Bontymoel; ond y mae yn llawn mor debygol, mai y meddyg a osododd weithiau Flavel o fewn ei gyrhaedd. Sut bynag y bu, daeth David Jones i gysylltiad a'r Methodistiaid yn Trefethin, a pharhaodd ei gyfeillgarwch â Dr. Read hyd ei farwolaeth; ac nid bai David Jones ydoedd na ddaeth un o'i ferched yn wraig iddo, yn mhen blynyddau lawer wedi hyn.

Am ba gyhyd o amser y darfu rheithor Trefethin gydymddwyn a'i guwrad ar ol yr anffawd o iddo gael crefydd, ni fynegir i ni. Diau fod y dygwyddiad, yn ei dyb ef, wedi ei anghymhwyso yn fawr at wasanaeth yr Eglwys. Cawn fod y cuwrad, ar ol hyn, yn peri cyffro yn yr ardal; fod tyrfaoedd yn tyru i'w wrando; fod mîn ac arddeliad ar ei weinidogaeth; ei fod yn holi ac yn dysgu y bobl ieuainc yn ngwirioneddau crefydd; ac yn eu dysgu i ganu mawl i Dduw; a'i fod ef ei hun yn hynod hoff o gerddoriaeth. Nid oedd dim i'w wneyd â gwr ieuanc mor ddireol a hyn ond ei yru i ffwrdd; ac ymaith y cafodd