Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/500

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyned. Y rheswm dros ei symudiad o Drefethin, yn ddiau, oedd ei arferion Methodistaidd, a hwyrach ei gyfeillgarwch gormodol â Dr. Read a'i deulu. I le yn agos i Fryste yr aeth nesaf, ond ni fu nemawr o amser yn y fan hono; symudodd yn fuan i le yn Swydd Wilts. Yr oedd erbyn hyn fel colomen Noah, yn methu braidd a chael lle i roddi ei droed i lawr, canys nid oedd llonyddwch i guwrad, o'i yspryd ef, i'w gael y pryd hwnw yn yr Eglwys Wladol yn Lloegr, nac yn Nghymru. Yr oedd tân y weinidogaeth yn llosgi o'i fewn; ond ni fynai perchenogion bywioliaethau wasanaeth ei fath. Aflonyddai y wlad, gwnai anesmwytho cydwybodau y bobl, ac yr oedd y gweithredoedd ysgeler hyn yn bechodau nas gellid eu maddeu. Ymddengys iddo, tra yn aros yn Wilts, ddyfod i gyffyrddiad â rhai o Fethodistiaid Lloegr, ac yn eu plith daeth i gydnabyddiaeth a'r enwog Iarlles Huntington, gwraig o fendigaid goffadwr iaeth. Chwiliai hon am ffyddloniaid yr Iesu, i'w noddi a'u cynorthwyo yn ngwasanaeth crefydd. Yr oedd yr Iarlles wedi bod yn foddion i ddwyn pendefiges arall at draed y Gwaredwr, sef yr Arglwyddes Charlotte Edwin, perchenog etifeddiaeth eang yn Sir Forganwg. Ac yn fuan daeth personoliaeth Llangan yn wag, pa un oedd yn rhoddiad yr Arglwyddes hono, ac ar gais yr Iarlles cyflwynodd hi i David Jones. Cymerodd hyn le, fel y dywedwyd yn flaenorol, yn y flwyddyn 1768, pan yr oedd efe yn 33 mlwydd oed.

EGLWYS LLANGAN, GER PONTFAEN, SIR FORGANWG.


Plwyf bychan ydyw Llangan, yn gorwedd rhwng Pontfaen a Phenybont—arOgwr, yn Sir Forganwg, ac y mae ynddo bentref bychan, gwasgaredig, a elwir ar enw y plwyf. Y mae yr eglwys yn adeilad hynafol, er nad ydyw yn un o'r rhai mwyaf o faintioli. Adgyweiriwyd hi yn drwyadl yn y flwyddyn 1856. Mae croes nodedig iawn ar y fynwent, un o hen olion yr oesoedd Pabaidd. Dywedir mai adeiladwaith y 12fed ganrif ydyw. Eir o bellder ffordd i'w gweled gan hynafiaethwyr, ar gyfrif ei maint, destlusrwydd ei cherfiadaeth, yn nghyd a'i bod mewn cadwraeth mor dda. Cyfrifir yn gyffredin mai ar adeg dyfodiad David Jones i Langan y mae ei gysylltiad ef a'r Methodistiaid yn dechreu. Gwelir oddiwrth yr hyn a ddywedwyd eisioes, nad yw hyn yn gywir. Tra sicr ydyw iddo ef ddyfod o fewn cylch dylanwad y Methodistiaid tra yn gwasanaethu yn Nhrefethin a Chaldicot. Yma y gwnaed ef yn gristion, ac yma yr ymddangosodd yr arwyddion cyntaf ei fod ef yn Fethodist. Pa reswm bynag ddichon gael ei roddi am symudiadau aml David Jones, cyn iddo ddyfod i'r lle hwn, nid oes le i amheuaeth, mai ei arferion Methodistaidd barodd ei holl symudiadau ar ol hyn. Dygodd hyn arno erledigaeth a dial. Ond os mai ei yspryd