Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/505

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

annghyson a'u swydd a'u gwaith. Dyma hwy:

"Tri pheth sydd gas gan brydydd,
Bost uchel gŵr annghelfydd,
Awen ddiflas, heb ddim hwyl,
A 'ffeiriad plwyf di'menydd.

Tri pheth a gâr fy nghalon,
Heddychu rhwng cym'dogion;
Cadw'r iawn heb fyn'd ar goll,
A chrogi'r holl 'ffeiriadon."


Amlwg yw nad oedd y mwyafrif mawr o bersoniaid y wlad ronyn yn well eu moes, a'u buchedd, y pryd hwn, nag yr oeddynt gan' mlynedd cyn hyny; ac yr oedd plant y diwygiad hefyd wedi myned yn ol, ac nid yn mlaen, yn ystod yr ugain mlynedd hyn. Fel y darfu i ni sylwi, daethai dadleuon i mewn i'r eglwysi Methodistaidd, ac ymraniadau o bob math; y rhai a droisant ardd yr Arglwydd yn anialwch. Nid hawdd desgrifio y dirywiad a gymerodd le yn mhlith crefyddwyr mewn amser mor fyr ag ugain mlynedd. Mae darllen hanes eglwys Fethodistaidd yr Aberthyn yn y tymhor hwn, yn dwyn i gôf hanes eglwysi Annibynol Cefnarthen a Chwmyglo, ger Merthyr, mewn adeg foreuach.

Gan hyny, rhaid fod dyfodiad gŵr o yspryd a thalentau Mr. Jones i ardal fel yma, fel bywyd o feirw. Cafodd Llangan y fraint oruchel hon, canys nid hir y bu cyn teimlo grym ei weinidogaeth. Llosgai ei enaid ynddo o gariad at y Gwaredwr, ac o dosturi tuag at ei blwyfolion, pa rai a lusgid i angau. Yn fuan, dechreuodd y bobl ddeffroi, a'r eglwys lenwi.

Aeth y gair ar led am rym ei weinidogaeth, a thyrai y bobl i'w wrando o'r plwyfi cyfagos, a daeth Llangan yn gyffelyb i Langeitho, fel cyrchfa pobloedd o bell ac agos.

Er mwyn rhoddi rhyw syniad am fawredd y gwaith a wnaed yn Llangan, rhoddwn yma, gyda chaniatad yr Awdwr, ddesgrifiad campus yr Hybarch W. Williams, Abertawe, o Sul y cymundeb yn Llangan yn amser David Jones:—[1] "Tyred gyda ni, ddarllenydd hoff, ni a eisteddwn yn nghyd ar ben y maen mawr yma ar gopa cribog mynydd Eglwysfair. Y mae yn foreu Sabboth hyfryd. A weli di ar dy law aswy rhyngot a'r deheu-ddwyrain, hen adeilad fawreddog, braidd yn ganfyddadwy, o herwydd y coed a'i hamgylchant? Dyna gastell Penllin. Edrych eto ar dy law ddeheu, ryw bedair milltir i'r gorllewin, ti a weli dref fechan ar wastadedd pur hyfryd. Dyna Benybont-ar-Ogwr. Edrych yn awr rhag dy flaen. Yn union rhyngom a'r deheu, ar waelod y gwastad oddi tanom, ti a weli y pentref bychan annyben gwasgaredig yna; a braidd rhyngom ag ef, ond yn hytrach yn fwy i'r gorllewin, eglwys fechan ddigon gwael yr olwg, heb fod iddi yr un clochdy, ond rhywbeth tebyg i simnai, a thwll yn hono, a chloch yn hwn, yr hon na chlywem hyd y fan hon, tincied ei heithaf. Dyna Llangan. Dyna y fan y bydd Mr. Jones yn pregethu ac yn cyfranu heddyw, a dyna lle bydd yn ei gyfarfod dyrfa fawr. Aros enyd; ti gei eu gweled yn ymgasglu. Ust! dacw rai o honynt yn dechreu dyfod. Edrych ar dy gyfer, ti a weli lonaid yr heol serth acw o gopa y Filldir Aur, tua Llangan, llawer ar feirch, a mwy ar draed. Pobl y Wig, Llanffa, Ty'rcroes, a Thregolwyn ydynt, yn ymdywallt tua Llangan. Edrych eto rhyngom a chastell Penllin, dacw dyrfa yn ymarllwys oddiar y croesheolydd tua dyffryn Llangan. Edrych eto ar dy ddeheulaw, y mae yr heol fain wastad yna o Dyle-y-rôd, heibio i Langrallo a Melin-y-mur, i Dreoes, yn frith o fywiolion; ffordd yna y daw pobl Penybont, Trelalas, Pil, Llangynwyd, Margam, ac Aberafon. Y mae rhai o honynt yn dyfod o Gastellnedd, ac o'r Cwm uwchlaw, ac hyd yn nod o Langyfelach, y Goppa, ac Abertawe. Ond bellach, gad i ni ddisgyn i'r gwastadedd-awn rhagom i Langan. Bydd rhyw gynghorwr' yn anerch y gynulleidfa, yn ysgubor y persondy, am naw o'r gloch. Ni bydd Mr. Jones yn yr eglwys dan haner awr wedi deg. Dacw ŵr teneu, trwynllym, llygadgraff, yn sefyll ar yr ystôl. Y mae yr olwg arno yn dy argyhoeddi ar unwaith nad yw wedi bod yn yr athrofa, ac y mae ei ddull o ymadroddi yn dangos nad yw erioed wedi astudio na gramadeg na rheithioreg. Ond y mae rhyw nerth yn ei eiriau—mae rhyw wreiddiolder yn ei ddrychfeddyliau—mae rhyw swyn yn ei lais, yn dangos ei fod ef yn rhywbeth tuhwnt i'r cyffredin. Dyna Edward Coslett, gôf wrth ei alwedigaeth, ond pregethwr wrth ei swydd, a'r pregethwr Methodistaidd goreu yn Sir Fynwy, meddai ef ei hun. Ei reswm dros ddweyd hyny ydoedd, nad oedd yr un pregethwr Methodistaidd, ar hyny o bryd, yn Sir Fynwy, ond ei hunan. Gofynodd Mr. Jones iddo, wedi ei wrandaw yn

  1. Traethodydd, 1850.