pregethu mewn rhyw fan, pa le yr oedd wedi astudio y bregeth hono. Lle na ddarfu i chwi astudio yr un erioed, Syr,' meddai yntau. Ond pa le, Ned?' ychwanegai Mr. Jones: Rhwng y tân a'r eingion,' oedd yr ateb. Barnai rhai dynion mai dyna paham yr oedd pregethau Edward Coslett mor wresog, neu mor danllyd, fel y dywedent. Ond wedi'r cwbl, nid yw efe namyn 'cynghori ticyn,' Mr. Jones sydd i bregethu yn yr eglwys. Gan hyny, i'r eglwys â ni. Dacw Mr. Jones yn esgyn y pwlpud bychan. Edrychwch arno am fynud. Nid yn fynych y ceir cyfle i weled dyn mor brydferth. Y mae yn rhy dal i'w alw yn fychan; ac y mae yn rhy fyr i'w alw yn dal; llydain ei ysgwyddau, praff ei fraich, goleu ei wallt, llawn ei fochgernau. Y mae ei aeliau bwäog, ei lygaid mawrion duon dysglaer, ei drwyn mawr cam, a'i wefusau serchog, yn dangos eu bod yn preswylio yn nghymydogaeth cyfoeth o synwyr cyffredin, a byd o natur dda. Ond wele, y mae yn dechreu darllen: 'Pan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni, &c.' Ymddengys fel pe byddai mewn brys i ddybenu. Llithra y geiriau, y gweddïau, a'r llithiau ar ol eu gilydd dros ei wefusau, fel y cenllif gwyllt. Cyn ein bod yn dysgwyl, dyma Amen y gwasanaeth gosodedig. Yn awr, am y weddi ddifyfyr, y canu, a'r bregeth. Y mae y cyntaf yn dangos cydnabyddiaeth y gweddiwr a'r hyn sydd o fewn y llen. Gellir bod yn sicr ei fod wedi bod yn y nef neithiwr, gan mor hawdd y mae yn myned yno heddyw. Y mae y canu fel swn dyfroedd lawer; 'dyfroedd yn rhuthro dros greigiau Lodor.' Nid oes arno ryw drefn ardderchog; ond y mae yr yspryd yn ardderchog, a'r hwyl yn hyfryd; am yr effaith, y mae yn annesgrifiadwy. Roddem rywbeth am gael clywed canu o'r fath unwaith eto.
"Ond dyna y canu yn dybenu, a'r bregeth yn dechreu. Y mae dystawrwydd, fel eiddo y bedd, yn teyrnasu trwy yr adeilad gorlawn. Y mae pob dyn fel pe byddai wedi anghofio fod un rhan yn perthyn i'w gyfansoddiad ond llygad, a chlust, a chalon. Y mae y pregethwr yn dechreu fel pe byddai yn penderfynu rhoddi llawn waith i'r tri. Y mae meddyliau ei galon yn ymdywallt yn ffrydlif gyson, mor gyflym ac mor ddidrafferth, nes peri i ti dybied fod cartrefle ei feddwl yn nhaflod ei enau. Y mae ei eiriau yn ddetholedig, ei lais yn soniarus; y bobl yn credu ei fod yn bregethwr heb ei ail. Y mae y pethau hyn yn fanteisiol i gynyrchu y teimlad a weli, ac a glywi, yn ymdaenu trwy y dyrfa. Ond nid hyn yw y cwbl; nid yna y mae cuddiad ei gryfder. Y mae bywyd yn mhob gair; y mae nerthoedd yn mhob brawddeg; y mae yn gwaeddi, ond y mae yr Yspryd tragywyddol wedi dweyd wrtho eisioes pa beth i waeddi. Y mae y pregethwr yn credu fod pob gair a ddywed yn wirionedd tragywyddol. Y mae yn teimlo pwys anrhaethol pob brawddeg a lithra dros ei wefus; eu pwys anrhaethol iddo ef ei hunan; eu pwys anrhaethol i bob enaid byw o'i flaen! Dyn newydd ei gipio o'r dwfr; newydd ei waredu rhag boddi; newydd ei osod yn y cwch; yn gwaeddi, 'Bad! bâd!' ar y soddedigion o'i amgylch, yw efe. Wrth ddweyd ei bregeth y mae yn dweyd ei galon. Dywed am ddagrau, a chwys a gwaed, a chroes ac angau ein Gwaredwr, a'i gariad anfeidrol yn berwi ei enaid. Sieryd am adgyfodiad y meirw a'r farn dragywyddol; a thra yn siarad teimla ei hun ar derfynau y byd anweledig, ac y mae ei wrandawyr yn teimlo yr un modd. Y mae y chwys a'r dagrau fel yn rhedeg gyrfa tros ei ruddiau glandeg, ac y mae cawod o ddagrau yn gwlychu llawr yr hen eglwys. Ond dyna y bregeth yn dybenu. Rhyfedd mor fyr; ond hynod mor felus. Dyna y pregethwr yn eistedd yn foddedig mewn chwys. Dyna y gwrandawyr, am y waith gyntaf oddiar pan ddechreuodd, yn edrych ar eu gilydd, ac yn gweled afonydd o ddagrau.
"Ond nid yw y cwbl drosodd eto. Y mae y bwrdd wedi ei ledu; y mae y dyrfa cyn ymadael yn bwriadu gwneyd cof am farwolaeth eu Hiachawdwr mawr. Aros i weled y diwedd. Darllena y gweinidog y gwasanaeth arferol, ond nid yw yn gorphwys ar hyny. Ni welir un argoel ei fod am arbed ei gorph; y mae nerthoedd yr aberth yn llenwi ei enaid. Nid yw y geiriau arferol, Corph ein Harglwydd Iesu Grist,' &c., yn ymddangos fel wedi pylu dim wrth eu hadrodd trosodd a throsodd; mwyhau y mae eu nerth, dyfnhau y mae eu hargraff ar y pregethwr ei hunan pa fynychaf eu dywed. Ymwthia drwy y dorf, ireiddia hwynt â'i ddagrau; gwlych hwynt â'i chwys; cynhyrfa hwynt drwyddynt draw â'i eiriau melusion. Yn awr, dyna ddernyn o hymn; yn awr dyna bwnc o athrawiaeth; yn awr dyna waeddolef annynwaredol am angau'r groes; yn awr y mae