Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/510

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfieithiad Cymreig o honi yn y flwyddyn 1797.[1]

Ond os oedd y Saeson yn awyddu am ei wrando, yr oedd yntau yn llawn mor barod i dalu ymweliadau â hwy, o herwydd yr oedd yn gofalu i'r ymweliadau hyny â chyfoethogion Lloegr fod o ryw fantais i Gymru dlawd. Byddai ganddo fynychaf achos rhyw gapel neu ysgoldy yn Nghymru, ag yr oedd eisiau ei adeiladu, neu eisiau talu am dano; a daeth â llawer swm da o arian y Saeson yn ol gydag ef. Yr oedd ei olwg foneddigaidd, ei ddull deniadol, a'i ddawn parod, yn meddu y fath ddylanwad ar ei wrandawyr, fel nas gallent atal eu rhoddion oddi wrtho. Adroddai yr hen bobl lawer o hanesion difyr am dano yn nglyn â chasglu arian. Rhoddwn yma esiampl neu ddwy. Dygwyddodd fod Cymro un tro ar ymweliad â Llundain, ac aeth i'w wrando yn pregethu yn un o'r capelau Saesnig. Wrth siarad ar y casgliad ar ddiwedd y gwasanaeth, gollyngai y pregethwr holl ffrwd ei hyawdledd ar draws y bobl, er mwyn eu cynhyrfu i roddi. Teimlai y Cymro y cwlwm rhyngddo a'i arian yn datod yn gyflym, ac yn y man, nis gallodd ymatal rhag gwaeddi allan yn iaith ei fam: "Mr. Jones anwyl, ymataliwch, da chwi! peidiwch a gwasgu yn dynach eto, onide bydd raid i mi roddi y cwbl a feddaf, heb adael ffyrling i'm cario adref." Dywedir iddo dro arall, yn yr un ddinas, ddefnyddio hanes Petr yn bwrw ei fâch i'r môr, ac yn cael o hyd i bysgodyn a darn o arian yn ei enau, yn dra effeithiol. Boreu dranoeth, curai gwas boneddiges wrth ddrws y llety, lle yr oedd yn aros, gan adael basged yno gyda'r cyfeiriad: "To the Rev. Mr. Jones, Wales." Erbyn ei hagor, wele bysgodyn ynddi a llythyr yn ei enau, yn cynwys archeb am ddeg punt. Yr oedd Mr. Jones yn gweled llaw yr Arglwydd yn yr amgylchiad hwn mor amlwg ag y gwelai Petr hyny yn ei amgylchiad ef.

Ond er ei ymweliadau mynych â threfydd Lloegr, Cymru er hyny ydoedd prif faes ei lafur. Yr oedd yr yspryd Cymreig yn berwi yn ei wythienau, a chysegrodd ei fywyd i wasanaeth ei genedl. Nid oes modd gosod trefn ar y teithiau am a meithion a gymerodd ar hyd a lled Cymru, mwy nag y gellid gwneyd y cyffelyb â theithiau Williams, o Bantycelyn. Braidd nad yw yr oll o'r hanes sydd genym am Mr. Jones, o Langan, yn gynwysedig mewn byr hanesion a geir am dano yn nglyn â hanes boreuol ein heglwysi; rhywbeth a wnaed iddo, neu ganddo; neu ynte, rhyw ymadrodd tarawiadol a ddyferodd oddiar ei wefusau. Hwyrach fod yr adgofion hyn yn gystal allwedd i'w gymeriad a dim a ellid ei gael.

Yr ydym eisioes wedi dangos y modd y darfu iddo orchfygu erledigaeth yr offeiriaid drwy ei ymddygiad gostyngedig a pharchus o flaen yr esgob; ac y mae genym engrheifftiau lawer mai dyna oedd ei ffordd arferol ef o gyfarfod anhawsderau o'r fath. [2]Cawn ei fod un tro yn pregethu yn Nolgellau, ac ar ganol yr odfa, daeth rhyw un o'r dref, gan yru berfa olwyn (wheel-barrow), yn ol ac yn mlaen trwy ganol y gynulleidfa, a pheri llawer o rwystr i'r gwasanaeth. Y tro nesaf y daeth Mr. Jones yno, yr oedd y gŵr hwnw wedi cael ei draddodi, oblegyd rhyw drosedd, i'r carchar, yr hwn oedd yn ymyl y lle y safai y pregethwr arno. Mewn canlyniad, yr oedd teulu y dyn wedi eu darostwng i iselder a thlodi. Mynegwyd hyn i Mr. Jones, yr hwn oedd yn wastad yn barod i wneuthur cymwynas i'r trallodedig. Eglurodd yntau yr achos i'r gynulleidfa, dadleuodd dros y teulu tlawd yn daer, gan ddeisyf ar rai o'r cyfeillion fyned â het o amgylch, i dderbyn ewyllys da y bobl tuag at ddiwallu eu hangen. Effeithiodd yr ymddygiad caredig hwn o eiddo Mr. Jones yn fawr i ddarostwng yr erledigaeth a ffynai yn y dref hono yn erbyn y Methodistiaid.

Cofnodir yn Methodistiaeth Cymru y modd y darfu iddo ragflaenu erledigaeth yn nhref Caernarfon. Yr oedd y Diwygwyr boreuaf wedi derbyn triniaeth arw yno, ac nid oedd sicrwydd y cai yr Efengylydd. o Langan wrandawiad. Modd bynag, meiddiodd ef ac ychydig gyfeillion fyned i'r heol, ac i gyfeiriad porth y castell. Esgynodd Mr. Jones i drol oedd gerllaw, ac ymgasglodd pobl ynghyd, rhai gyda'r bwriad o derfysgu, rhai o gywreinrwydd, a rhai, feallai, gydag amcanion gwell. Diosgodd y pregethwr ei gôb uchaf oddiam dano, a gwelai y bobl fwy o foneddigeiddrwydd ynddo nag oeddynt wedi ddysgwyl gael yn neb o'r pengryniaid. Yn awr, yr oedd y gown du, y napcyn gwyn, a'r lapedau ysgwar a ddisgynent ar ei fynwes, wedi dyfod i'r golwg. Yr oedd peth fel hyn yn

  1. Llyfryddiaeth y Cymry, 703.
  2. Methodistiaeth Cymru, cyf. i. 5—11.