ynu y bobl gweled gŵr eglwysig yn ei wisg glerigawl yn cyfarch dynion ar ymyl y ffordd fawr! Rhyw gynghorwr gwladaidd, mewn dillad cyffredin, heb na phryd na thegwch ynddo, oeddynt hwy wedi ddysgwyl; ond yn lle hyny, dyma foneddwr, o wisgiad ac o ymddygiad, ger eu bronau. Yr oedd yno un o leiaf a cherig yn ei logellau, er clwyfo ac anafu, os nad Iladd y llefarwr; ond llwfrhaodd pan welodd mai offeiriad urddasol oedd yno, a gollyngodd y cerig i lawr mewn cywilydd o un i un. Yr oedd yn ysgafn wlawio ar y pryd. Dechreuodd Mr. Jones gyfarch y dyrfa mewn ymadroddion serchog, a chyda thôn hollol hyderus, fel gŵr yn teimlo ei hun yn nghanol ei gyfeillion. Yn fuan gofynodd, a wnai rhyw foneddwr roddi benthyg gwlawlen iddo i gysgodi ei ben rhag y gawod? Ymddygiad lled eofn ydoedd hwn, gan ŵr a wyddai ei fod mewn perygl o dderbyn niwaid, ac nid cymwynas, gan y rhai oedd o'i flaen. Ond gwnaeth ef yr apêl yn ei ffordd serchog ei hun. Ar darawiad, dyma un Mr. Howard, cyfreithiwr o ddylanwad mawr yn y dref, yn ymadael i gyrchu gwlawlen iddo; a phan ddaeth yn ei ol, estynodd hi i'r pregethwr parchus. Derbyniodd yntau hi o'i law gydag ystum foesgar, a chyda'r wên fwyaf nefolaidd ar ei wynebpryd, a dechreuodd ar ei bregeth trwy ddywedyd ei fod yn teimlo mor gysurus dan y wlawlen a phe buasai yn St. Paul, yn Llundain. Cafodd berffaith lonyddwch i bregethu, yr hyn ni chafwyd yno cyn hyny. Fel yma y gwnai efe orchfygu drygioni â daioni; ac y pentyrai farwor tanllyd ar ben ei elyn.
Y mae yn ddiamheu ei fod yn bregethwr rhyfeddol o enillgar a phoblogaidd. Yr oedd ei draddodiad yn ddifai; yr oedd pob goslef ar ei lais, pob symudiad ar ei law, pob ystum ar ei gorph, yn hoelio llygaid pawb arno, fel yr oedd y gwrandawyr mwyaf difater yn rhwym o sylwi, a gwrando yr hyn a draethid. Yr oedd yn ardderchog o urddasol pan y byddai y deigryn gloew yn treiglo dros ei ruddiau hardd, ac yntau yn tywallt allan gynwys ei galon fawr gynes. Ni welid dim gwrthun un amser yn ei berson na'i ymddygiad, dim i dynu oddiwrth effaith yr ymadroddion grasol a ddisgynai dros ei wefus. Yr oedd yn ymadroddwr wrth natur. Byddai pob gair yn disgyn i'w le ei hun fel wrth reddf. Ei ymadroddion oeddynt ddetholedig, a'i chwaeth yn bur. Byddai pob math o bobl yn cael eu swyno gan neillduolrwydd ei ddawn, a melusder ei weinidogaeth. Gorchfygai y coeth a'r dysgedig, fel yr anwybodus a'r anwrteithiedig; ac yr oedd pawb fel eu gilydd yn teimlo nerth ei weinidogaeth. [1] Cawn fod dynion, fel Jack Jones, y cigydd, yn deall rhagor rhwng Mr. Jones, o Langan, a phregethwyr cyffredin. Dywedir i ni fod Mr. Jones yn pregethu yn Rhuthyn ar y geiriau: "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn," o flaen tyrfa derfysglyd. Darllenodd ei destun gyda llais cryf a gwyneb siriol, fel arfer. Yr oedd rhywbeth tarawiadol yn ei ymadroddion dechreuol. "Llefarodd hwn lygaid i'r deillion," meddai, "llefarodd hwn glustiau i fyddariaid, llefarodd draed i gloffion, llefarodd iechyd i gleifion, llefarodd gythreuliaid allan o ddynion, ïe, llefarodd fywyd i feirwon; gall wneyd yr un peth eto," &c. Jack Jones, y cigydd, ydoedd blaenor yr erlidwyr yn y cyfarfod, ond cafodd ei swyno gan rym y bregeth, fel y dywedodd: "Ni lefarodd dyn erioed fel tithau ychwaith, a myn dl, mi dfynaf chwareu têg i ti lefaru, a phwy bynag wnelo dim i ti, mi dalaf i'w groen o. [2]Cawn ddarfod i hen wreigan dduwiol yn Niwbwrch, yn Môn, ddangos awyddfryd am weinidogaeth Mr. Jones, Llangan, ag sydd bron yn annghredadwy. Yr oedd efe wedi bod yn pregethu mewn cymanfa yn y lle hwnw. Pan oedd ar ddychwelyd, aeth hen wraig, Annas wrth ei henw, i ofyn addewid ganddo i ddyfod yno drachefn. "Pa bryd, Mr. Jones bach, y deuwch chwi yma eto?" "Pan y deui di, Annas, i Langan, i ymofyn am danaf," oedd yr ateb, gan dybied, hwyrach, ei fod yn gosod telerau anmhosibl iddi. Ond cydiodd yr hen wraig yn yr addewid, a phenderfynodd fyned i Langan. oedd ganddi gant a haner o filldiroedd i'w cerdded, ac er nad oedd ganddi am ei thraed ond clocs, nac yn ei llogell ond a gardotai, nag at ei chynhaliaeth ond a roddid iddi ar y ffordd, eto, cyn hir, cychwynodd ar ei thaith. Dyddorol fuasai hanes y daith hon o eiddo Annas, a chael gwybod yn mha leoedd y lletyai ar y ffordd, pa anhawsderau a'i cyfarfyddodd, pa sarugrwydd a gafodd oddiwrth rai, a pha dosturi oddiwrth eraill; ond nid oes genym am y cwbl ond dychymyg. Ond cyrhaedd Llangan a wnaeth, er mawr syndod i Mr. Jones. Ryw ddiwrnod, wrth