Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/512

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edrych drwy ffenestr ei dŷ, fe ganfu yr hen wreigan, a'i ffon yn un llaw, a'r cwd yn y llall, yn dyfod at y tŷ. Aeth i'w chyfarfod, gan ddweyd: "Och fi! Annas; a ddeuaist ti eisioes?" Y canlyniad a fu iddi gael ei llawn wobrwyo am ei llafur, canys cafodd addewid i gael tri o Efengylwyr penaf eu hoes i Sir Fôn, sef Jones, Llangan, Rowland, Llangeitho, at Llwyd, o Henllan. Bu y gwŷr hyn yn ffyddlon i'w haddewidion, a chafodd Môn cyn hir fedi ffrwyth oddi ar y maes a hauodd Annas dlawd.

Gellir nodi yn y fan hon y ffaith mai dan weinidogaeth Mr. Jones yr argyhoeddwyd i fywyd y seraph bregethwr, Robert Roberts, o Glynog. Dengys hyn mor orchfygol oedd ei weinidogaeth ar feddyliau a chalonau gwahanol. Cymerodd hyn le mewn odfa a gynhaliwyd yn Mryn yr odyn, yn agos i Gaernarfon. Ei destun oedd y geiriau: "Trowch i'r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol," &c. Hysbys yw i Mr. Roberts ddyfod ar ol hyn yn un o addurniadau penaf y pwlpud Cymreig; yn un ag oedd yn anhawdd cael neb a ymgymerai i gydbregethu ag ef mewn Cymdeithasfaoedd. Yn bur fuan wedi i Robert Roberts ddechreu pregethu, yr ydym yn cael ddarfod iddo gael ei enwi i gyd-bregethu â Mr. Jones mewn Cymdeithasfa a gynhaliwyd yn rhywle yn y Deheudir. Pregethodd Robert Roberts gyda grym anarferol, nes gorchfygu y gynulleidfa. Ar ei ol cyfododd Mr. Jones, a dygwyddodd fel y dygwydd yn fynych ar ol effeithiau grymus gyda'r bregeth gyntaf fod yr ail bregeth braidd yn drymaidd a dieffaith. Boreu dranoeth, cynhelid cyfarfod neillduol—cyfarfod y pregethwyr wrthynt eu hunain, y mae'n debyg. Mater y cyfarfod hwn oedd "Hunan.' Tra yr oedd amryw yn traethu ar y drwg, a'r perygl o fod egwyddor hunanol yn ein llywodraethu gyda gwaith yr Arglwydd, sylwid fod Mr. Jones yn aflonydd, fel dan ryw gynhyrfiadau mewnol, yn codi ac yn eistedd, ac weithiau yn cerdded yn ol ac yn mlaen hyd lawr y capel. O'r diwedd, gofynodd y llywydd: "Yn awr, Mr. Jones, dywedwch chwithau dipyn ar yr hunan yma." Atebai yntau yn gyffrous: "Na 'wedaf fi ddim 'nawr; ond ewch chwi 'mlân, frodyr anwyl! Ewch yn 'mlân, daliwch ati, ymosodwch arno, peidiwch a'i arbed, waith fe fu agos iddo'm lladd i neithiwr, wrth weled Robin bach o'r North' wedi myn'd gymaint tu hwnt i fi." Cofnodir yn Methodistiaeth Cymru hanes pur gyffelyb i'r un uchod am Mr. Jones, pan yn cydbregethu â Hugh Pritchard, clochydd Llanhir-yn-Rhôs, o Sir Faesyfed. Yr oedd y gŵr hwnw yn glochydd yn yr Eglwys Sefydledig, ac yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid. Dygwyddodd fod Hugh Pritchard y tro yma hefyd yn pregethu o flaen Mr. Jones mewn Cymdeithasfa yn y Deheudir, ac i'r cyntaf gael mwy o hwyl i bregethu na'r olaf. Craffodd Mr. Jones ar hyn, ac mewn llythyr at gyfaill cyfeiriai at y tro yn y dull ffraeth ag oedd mor briodol iddo: "A wyddoch chwi pwy ddarfu 'nhwy gyplysu yn y gymanfa a'r hen offeiriad penllwyd?—clochydd Llanhir, os gwelwch yn dda. Ac os dywedir y cyfan, y mae yn rhaid addef i'r clochydd guro y 'ffeirad o ddigon!"

Nid ydym yn cael i Mr. Jones lanw lle mor fawr yn nghynadleddau y Cyfundeb ag a allasem ddysgwyl. Gwnaeth wasanaeth i'r Cyfundeb nas gellir byth ei fynegu; ond yn y pwlpud y cyflawnodd efe y gwasanaeth hwnw, yn hytrach nag yn nghynadleddau y Cymdeithasfaoedd, a'r Cyfarfodydd Misol. Bu yn gadeirydd y Gymanfa lawer gwaith, yn enwedig gwedi marwolaeth Daniel Rowland; ond prin y gellir dweyd ei fod wedi profi ei hun yn arweinydd medrus mewn amseroedd o derfysg ac anghydfod. Mab tangnefedd oedd efe, ac yr oedd yn rhy dyner ei deimlad i fod yn arweinydd dyogel mewn amseroedd cyffrous ac enbyd. Eto, meddai ar lawer o gymhwysderau arweinydd. Yr oedd yn ŵr amyneddgar a phwyllog, o farn addfed, yn gyflawn o synwyr cyffredin, ac yn garedig tuag at bawb; ond yr oedd hytrach yn ddiffygiol mewn gwroldeb. Pe buasai yn fwy uchelgeisiol nag ydoedd, ac o feddwl mwy penderfynol, gallasai yn hawdd ddyfod yn brif arweinydd y Cyfundeb ar ol marwolaeth Daniel Rowland, a W. Williams, Pantycelyn; o herwydd prin y mae lle i amheuaeth mai efe ar y pryd oedd y mwyaf ei barch a'i boblogrwydd. Ond yr oedd yn rhy lwfr ei yspryd, ac yn rhy dyner ei deimlad i arwain. Nid ymddengys iddo gymeryd rhan gyhoeddus yn y ddadl yn nglyn â golygiadau athrawiaethol Peter Williams; a dangosodd gryn wendid yn adeg diarddeliad Nathaniel Rowland, a hefyd yn y ddadl ar ordeiniad gweinidogion yn