Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/513

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

niwedd ei oes. Yn sicr, nid gŵr o ryfel oedd efe, ond mab tangnefedd yn hytrach.

Pregethwr yn ddiau ydoedd Mr. Jones, o Langan, a braidd na ddywedem mai pregethwr yn unig ydoedd, gan mor fawr oedd ei ddoniau gweinidogaethol. Yr oedd ei allu i bregethu Crist yn cysgodi pob dawn arall a feddai, ac yn cuddio pob gwendid a diffyg a berthynai iddo. Os mai prin y cymerodd efe y rhan ddyladwy yn nadleuon y Methodistiaid yn ei ddydd, gwnaeth anrhaethol fwy o wasanaeth i grefydd ein gwlad, yn y rhan flaenllaw a gymerodd yn y diwygiadau mawrion a ymwelasant â Chymru. Cawn i gynifer a phump o ddiwygiadau grymus gymeryd lle yn ystod ei fywyd cyhoeddus ef. Torodd y cyntaf allan yn 1773, tua phum' mlynedd wedi i Mr. Jones ymsefydlu yn Llangan, a'r olaf o honynt yn 1805, bum' mlynedd cyn ei farw. Pwy all fesur y gwasanaeth a gyflawnodd efe yn nglyn a'r diwygiadau hyn? Gwell oedd gan yr Efengylydd o Langan bregethu Crist i bobl wresog yn yr yspryd ar adeg o ddiwygiad, na chyndyn ddadleu yn ngylch athrawiaethau crefydd. Hyfryd y desgrifiad a rydd Thomas Williams, Bethesda-y-Fro, o hono, onide?:

"Iachawdwriaeth i bechadur,
Trwy rinweddau angau'r groes,
Oedd o hyd ei destun hyfryd,
Cy'd y parodd hyd ei oes;
Fe ymdrechodd, fe ymdreuliodd,
Fe lafuriodd tra fu byw,
Nes cyflawni'r weinidogaeth
A ro'w'd iddo gan ei Dduw.

Un o'r manau, byth mi gofia',
Gwelais i ef gynta' gyd,
Yn cyhoeddi gair y cymod
I golledig anwir fyd;
Iesu'n marw, Iesu'n eiriol,
Diwedd byd a boreu'r farn,
Oedd ei araeth o flaen canoedd
Wrth hen gapel Talygarn.

Dyddiau hyfryd oedd y rhei'ny,
Pan oedd Rowland uchel ddysg,
Peter ffyddlon, William Williams,
Llwyd a Morris yn eu mysg;
Jones fel angel yn Llangana
Yn udganu'r udgorn mawr,
Nes bai'r dorf mewn twymn serchiadau
Yn dyrchafu uwch y llawr.

Minau yno'n un o'r werin
(Er mai'r annheilynga'i gyd),
Tan y bwrdd yn bwyta'r briwsion,
(O mor hyfryd oedd fy myd!)
Torf yn bwyta'r bwydydd brasa',
Gwin a manna, nefol faeth,
Wrth y fron ro'wn inau'n chwerthin,
Tra'n ymborthi ar y llaeth.

Beth sy' fater, nid oes ronyn,
Ond i ni gael blasus fwyd,
Beth fo gwisg y gŵr a'i rhano,
Brethyn glas, neu brethyn llwyd;
Neu ynte frethyn du, a'i guddio
Drosto gyda llian gwyn;
Byddwn gallach o hyn allan,
 :Nag ymryson yn nghylch hyn.

Ni gymunwn yn yr eglwys,
Lle sancteiddia' sydd yn bod,
Neu mewn teiau na thywalltwyd
Olew sanctaidd yno erioed;
Ac na ddigied meibion Levi,
Plant yr offeiriadaeth wèn,
I ni dderbyn gan rai na fu
Llaw un esgob ar eu pen."


Gresyn na chawsem farwnad i Mr. Jones, o Langan, gan y prif Farwnadwr. Ond yr oedd hyny yn anmhosibl, gan i Williams ei ragflaenu i'r byd tragywyddol o gylch ugain mlynedd. Er hyny, y mae gan y Bardd o Bantycelyn gyfeiriad neu ddau ato yn y marwnadau a ysgrifenodd efe i bobl eraill, sydd yn werth eu coffhau. Yn ei farwnad i Mrs. Grace Price, o'r Watford, dywed:

"Yn Llangan, o dan y pwlpud,
'R oedd ei hyspryd, 'r oedd ei thre',
Tra f'ai Dafydd yno'n chwareu
'N beraidd ar delynau'r ne';
Iesu'r Text, a Iesu'r Bregeth,
Iesu'r Ddeddf, a Iesu'r Ffydd,
Meddai Jones, a hithau'n ateb—
Felly mae, a Felly bydd!"


Yn gyffelyb y mae yn ei farwnad i Daniel Rowland, yn cyfarch ei fab, Nathaniel, fel yma:—

"Bydd yn dad i'r Assosiasiwn,
Ac os teimli'th fod yn wan,
Ti gai help gwir efengylwr,
Dafydd onest o Langan;
Dodd y cerig a'i ireidd-dra,
A thrwy rym ei 'fengyl fwyn,
Wna i'r derw mwyaf caled
Blygu'n ystwyth fel y brwyn."


Y mae pob cyfeiriad ato, a wneir gan ysgrifenwyr yr amseroedd hyny, yn gwbl gydfynedol. Wrth son am dano, dywed Robert Jones, Rhoslan, yn Nhrych yr Amseroedd, eiriau fel yma: "Byddai yn hyfryd chwareu tanau telyn auraidd yr efengyl, nes y byddai llawer credadyn llwfr yn barod i lamu o lawenydd." Ac y mae tystiolaeth y galluog Christmas Evans fel hyn: "Bu gwrando Dafydd Morris, Jones, o Langan, Davies, o Gastellnedd, a Peter Williams, o ddefnydd mawr i mi tuag at fy nwyn i ddeall gras Duw trwy gyfryngdod, heb ddim haeddiant dynol." Ceir crybwylliad parchus iawn o hono yn Nghofiant John Jones, Talysarn, gan y