Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/518

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XX
WILLIAM DAVIES, CASTELLNEDD; DAFYDD MORRIS, TWRGWYN; A WILLIAM LLWYD, O GAYO.

William Davies yn hanu o Sir Gaerfyrddin—Ei ddyfodiad i Gastellnedd—Ei boblogrwyddYn colli ei guwradiaeth—Adnewyddu capel y Gyfylchi iddo—Barn Howell Harris am dano —Odfa ryfedd yn Llangeitho—Y tair chwaer—Ei farwolaeth—Boreu oes Dafydd MorrisDechreu pregethu yn ieuanc—Meddwl uchel Rowland am dano—Swyn ei lais—Yn symud i Dwrgwyn—Yn teithio Cymru—Pregeth y golled fawr—Ceryddu blaenor sarug—Amddiffyn Llewelyn John—Dafydd Morris fel emynydd—Marwolaeth ei wraig—Ei farwolaeth yntau —Haniad William Llwyd, o Gayo—Ei argyhoeddiad—Ei ymuniad a'r Methodistiaid—Yn dechreu pregethu—Hynodrwydd William Llwyd—Nodwedd ei weinidogaeth—Ei farwolaeth.

NIS gallwn lai na datgan ein gofid of herwydd fod amryw o brif bregethwyr y cyfnod Methodistaidd. cyntaf, dynion o ddoniau dysglaer, a phoblogrwydd mawr, nad oes ond y nesaf peth i ddim o'u hanes yn wybyddus. Llafuriasant yn galed, dyoddefasant erlidiau, a diau fod eu gweithredoedd wedi eu cofnodi yn ofalus ar lyfrau y nefoedd, ond ychydig o'r pethau a ddygwyddodd iddynt. sydd wedi eu croniclo ar lyfrau y ddaear. Yn mysg y rhai hyn, ac yn mhlith y penaf o honynt, rhaid gosod William Davies, Castellnedd. Yn ol y farwnad a gyfansoddwyd iddo gan Williams, Pantycelyn, cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1727; felly, nid oedd ond rhyw ddeng mlwydd yn ieuangach na'r Emynydd enwog, tair-ar-ddeg yn ieuangach na Howell Harris, a phedair-ar-ddeg yn ieuangach na Daniel Rowland. Gan hyny, perthynai i'r rheng flaenaf o'r ail do o bregethwyr. Ymddengys mai brodor o Sir Gaerfyrddin ydoedd. Yr oedd ei rieni yn amaethwyr parchus, ac yn byw mewn tŷ o'r enw Stangrach, lle sydd o fewn haner milltir i gapel y Methodistiaid yn Llanfynydd. Cynhaliai y Methodistiaid gyfarfodydd crefyddol yn y Stangrach, felly nid annhebyg fod rhieni William Davies yn perthyn i'r Cyfundeb. Gallwn gasglu eu bod mewn amgylchiadau cysurus, gan iddynt ddwyn. eu mab i fynu yn offeiriad. Buasai yn dda genym wybod rhywbeth am helyntion boreu oes William Davies, ac yn enwedig pa bryd y deffrowyd ef i ystyriaeth o'i gyflwr, a than ba ddylanwadau y cafodd ei ddychwelyd; ond y mae yr oll o'r pethau hyn wedi eu cuddio yn anobeithiol oddiwrthym, ac nid ydym yn gydnabyddus â dim o hanes ei fywyd, nes yr ydym yn ei gael yn gristion gloyw, yn bregethwr aiddgar a phoblogaidd, ac yn Fethodist zêlog, yn Castellnedd, yn gwasanaethu fel cuwrad i Mr. Pinkney, tua'r flwyddyn 1757. Ein hawdurdod dros hyn eto ydyw Williams, yr hwn, uwchben y farwnad, a gofnoda am dano iddo farw "yn y flwyddyn 1787, yn y driugeinfed flwyddyn o'i oedran, wedi treulio dros ddeg-ar-hugain o flynyddoedd i bregethu efengyl Crist yn mysg y Methodistiaid." Ar yr un pryd, gweddus nodi fod cryn amheuaeth am gywirdeb hyn. Yr ydym wedi chwilio llyfrau cofrestru eglwysydd Castellnedd a Llanilltyd yn fanwl; a'r nodiad cyntaf a geir ynddynt wedi ei arwyddo gan William Davies yw Rhagfyr 24, 1762; ac y mae yn hollol annhebyg iddo wasanaethu yno am bum' mlynedd cyn gweinyddu mewn bedydd na phriodas, yn arbenig gan nad oedd Mr. Pinkney yn byw yn un o'i blwyfydd. Ond