Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/519

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallasai William Davies fod wedi gwasanaethu fel cuwrad mewn rhyw le, neu leoedd, cyn dyfod i Gastellnedd. Modd bynag, y mae yn amlwg ddarfod iddo ddyfod i Forganwg tua chwech mlynedd o flaen Jones, Llangan.

STANGRACH, GER LLANFYNYDD, SIR GAERFYRDDIN.
[Preswylfod rhieni William Davies, Castellnedd.]


Yr oedd Mr. Pinkney yn meddu personoliaeth Castellnedd a Llanilltyd; ymddengys hefyd nad oedd yn byw yn y naill na'r llall o'i blwyfydd, ac felly fod y llafur a'r gofal yn disgyn yn gyfangwbl ar y cuwrad. Pan y daeth William Davies i Gastellnedd, yr oedd crefydd mewn cyflwr tra isel. Ni feddai yr Eglwys Wladol gynulleidfa yno o gwbl; darllenid y gwasanaeth ar y Sul i furiau moelion, tra yr ymroddai y werin i oferedd. Llwydaidd anarferol hefyd oedd y seiadau Methodistaidd o gwmpas; nid ydym yn sicr nad oedd rhai o honynt wedi darfod yn hollol. Yr oedd yr ymraniad rhwng Harris a Rowland wedi dygwydd er ys dros ddeng mlynedd; mewn canlyniad, yr oedd gwedd wywedig ar yr achos crefyddol dros y wlad; ac yr oedd yr adfywiad a gymerodd le gyda dyfodiad cyntaf emynau Williams, Pantycelyn, heb dori allan. Eithr yr oedd yspryd gwaith yn y cuwrad ieuanc, a chariad Crist yn berwi yn ei enaid. Gan na ddeuai y bobl i'r eglwys, penderfynodd yr ai efe i'w tai. Yno cynghorai hwy yn ddifrifol, ac weithiau pregethai iddynt, a rhyw ychydig gymydogion a fyddai wedi ymgynull gyda hwynt, o ben cadair ddiaddurn. Mentrodd hefyd fyned allan i'r awyr agored, ac i ganol y chwareu, gan bregethu Crist wedi ei groeshoelio i'r cymeriadau gwaethaf. Yn bur fuan, dyma gynhwrf yn mysg yr esgyrn sychion. Deallodd y bobl fod bywyd a nerth yn y gŵr a weinyddai yn y llan, a dechreuasant dyru tuag yno, fel na ddaliai yr adeiladau y gynulleidfa. Daeth Castellnedd a Llanilltyd yn fath o Langeitho ar raddfa fechan; cyrchai torfeydd yno o bob cyfeiriad; gwelid gwŷr Llansamlet yn eu dillad gwladaidd, a'u benywod yn eu bedgynau a'u shawls cochion, yn britho y ffyrdd tuag yno ar foreu y Sul. Deuent yno yn llu o Gwm Tawe, ac o'r Creunant, a blaen Cwmnedd, os nad o Hirwaun Wrgant, ac Aberdar. Am blwyfi Castellnedd a Llanilltyd, dywedir fod haner y trigolion, o leiaf, yn wrandawyr rheolaidd. Achubwyd canoedd yn ddiau i fywyd tragywyddol. Dywedir mai tan ei weinidogaeth ef y cafodd yr hynod Jenkin Thomas, neu Siencyn Penhydd, olwg ar drefn gras fel yn ddigonol i'r penaf o bechaduriaid, ar ol iddo fod am dymhor ar lewygu gwedi pregeth daranllyd Iefan Tyclai.

Yn ol tystiolaeth unfrydol yr hen bobl, pregethwr melus oedd Davies, Castell-