wythnos, i gadw seiat, gan adael y drws yn agored i bwy bynag a ewyllysio ddyfod atom, ac ymuno â ni." Wrth ymadael, cynygid iddo chwe' cheiniog yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth; mynai yntau wrthod; eithr ni chymerent eu nacau. Dywedent fod y darn arian wedi ei gysegru at wasanaeth yr Arglwydd, ac na feiddient ei ddefnyddio at ddim arall. Yna gofynent iddo, pa bryd y caffai y fraint o ddyfod yno drachefn. Erbyn hyn yr oedd ei galon wedi ei gorlenwi. Wrth deithio yn ei flaen galwai ei hun, "Y cythraul balch," am iddo edrych yn isel ar waith Duw, oblegyd y wedd dlawd oedd arno. Yn mhen ychydig flynyddoedd cafodd y fraint of fyned i'r lle drachefn; ac erbyn hyn yr oedd yr eglwys wedi cynyddu i naw ugain o rifedi.
Fel y nodwyd, teithiodd y Parch. William Davies Gymru oll, ar ei hyd a'i lled, lawer gwaith. Yn ei farwnad iddo y mae Williams, Pantycelyn, yn crybwyll enwau amryw o'i gydnabod, o bob parth o'r Dywysogaeth, oeddynt wedi myned i'r nefoedd o'i flaen, ac yn ei groesawu i mewn. Tua'r flwyddyn 1780, cynhaliwyd Cymdeithasfa yn Nghastellnedd, a daethai yno. y Parchn. Daniel Rowland, ei fab Nathaniel, Peter Williams, Williams, Pantycelyn, ac amryw eraill heb fod lawn mor enwog. Yr oedd y Gymdeithasfa dan arddeliad mawr; y nefoedd a ddyferai y gwlith grasol i lawr yn helaeth, a bu cofio hir am dani. Lletyai y pregethwyr yn nhai Mr. Leyshon, o'r Hill, ger Llanilltyd, gwr nodedig am ei dduwioldeb, a Mr. Thomas Smith, tad Mr. Smith, Aberafan. Tua saith mlynedd gwedi y Gymdeithasfa hon y bu William Davies byw. Yn y flwyddyn 1787 efe a hunodd yn yr Iesu, yn y driugeinfed flwydd o'i oedran, a chladdwyd ef yn mynwent Castellnedd. Pregethodd Mr. Jones, Llangan, yn ei angladd; ac wrth weinyddu ar lan y bedd yr oedd ei deimladau wedi ei orchfygu yn hollol. "O Davies anwyl!" meddai, "O Davies, gwas yr Arglwydd! Ti fuost farw. Do; disgynaist i'r bedd a'th goron ar dy ben." Nis gallwn wrthsefyll y demtasiwn o ddifynu ychydig o benillion o'r farwnad nodedig a gyfansoddwyd iddo gan Beraidd. Ganiedydd Cymru:
Pam y tynodd angau diried
Ddavies fwyn oddiwrth ei waith?
Pwy sy' i gario 'mlaen ei ystod
Addfed ar y meusydd maith?
Pwy heb flino, megys yntau,
Ac heb orphwys, gasgla 'nghyd,
Yn ddiachwyn, yn ddiduchan,
Feichiau mawrion, trymion yd?
Yn ei rym ac yn ei hoewder,
Galwyd ffrynd y nef i'r lan,
Tru'gain mlynedd ar y ddaear
Drefnodd arfaeth idd ei ran;
Yna rhaid oedd iddo newid
Ei berth'nasau, ei ffryns, a'i le,
A rboi ei gorph i'r ddae'r i gadw
Nes glanhau 'i fudreddi e'.
Castellnedd, mewn mynwent eang,
'R oedd raid iddo lechu lawr,
Lle mae deng mil, neu fyrddiynau,
Yn ei gwmni ef yn awr;
Ond fe gwyd wrth lais yr angel,
Bloedd yr udgorn gryna'r byd,
A'i holl lwch, b'le bynag taenir,
Gesglir yno'n gryno 'nghyd.
*****
Deugain agos o bregethwyr
Oedd e'n 'nabod yn y nef,
Ac fu'n seinio'r jubil hyfryd
Yn ei ddyddiau byrion ef,
Oll a'u t'lynau aur yn canu
Yr un mesur, a'r un gân,
Ag a ganodd y cor nefol
A'r bugeiliaid gwych o'r blaen.
Na alerwch mwy am Davies,
Ond dihatrwch at eich gwaith;
Y mae'r meusydd mawr yn wynion,
Mae llafurwaith Duw yn faith;
Pob un bellach at ei arfau,
Aml yw talentau'r nef;
Sawl sy'n ffyddlon gaiff ei dalu
Ar ei ganfed ganddo ef.
Doed i waered i'r Deheudir
Ddoniau Gwynedd fel yn lli,
Aed torfeydd o dir y Dehau
Trwy Feirionydd fynu fry;
Fel bo cymysg ddoniau nefol
Yn rhoi'r gwleddoedd yn fwy llawn,
'Falau a photelau llawnion,
O lâs foreu hyd bryduhawn."
Yr ail bregethwr, ag y mae ei enw uwchben ein hysgrif, yw Dafydd Morris, un o'r pregethwyr mwyaf nerthol a welodd Cymru. Gelwir ef yn gyffredin yn "Dafydd Morris, Twrgwyn;" ond fel Dafydd Morris, Lledrod," y caffai ei adwaen gan yr hen bobl, am mai yn Lledrod y cafodd ei eni, ei ddwyn i fynu, y dechreuodd bregethu, ac y gwnaeth iddo ei hun enw fel pregethwr. Ardal amaethyddol ydyw Lledrod, yn tueddu at fod yn fynyddig, yn rhan uchaf Sir Aberteifi, a thuag wyth milltir o Langeitho. Ymddengys i Dafydd Morris gael ei eni rywbryd tua'r Tua naw mlynedd cyn flwyddyn 1744. hyny y dechreuasai Daniel Rowland ei weinidogaeth danllyd yn Llangeitho. Nid annhebyg ddarfod i Dafydd Morris, ac efe yn llanc ieuanc, fyned i Langeitho gyda