Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/526

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llanciau eraill yr ardal i wrando y "Ffeirad crac," ac mai rhyw saeth oddiar fwa Rowland ddarfu ei glwyfo. Modd bynag, cafodd grefydd yn gynar, a dechreuodd bregethu pan yn un-mlwydd-ar-hugain oed. Ychydig o fanteision addysg a gawsai yn moreu ei oes; tebygol mai tlodion oedd ei rieni; ond ymroddodd i lafurio am wybodaeth a dysg, a llwyddodd i gyrhaedd mesur helaeth o honi. Daeth yn alluog i ysgrifenu yn dda; yr oedd yn dra chydnabyddus â gweithiau y prif dduwinyddion, a medrai wneyd y defnydd angenrheidiol o awduron Saesnig. Fel y rhan fwyaf o bregethwyr y Methodistiaid yn y cyfnod hwnw, bu yn efrydydd caled a chyson ar hyd ei oes; o herwydd nodwedd deithiol y weinidogaeth, gorfodid ef, yr un fath a'r pregethwyr eraill, i dreulio llawer o'i amser ar gefn ei geffyl; ond gofalai na fyddai y cyfryw amser yn cael ei wastraffu; byddai wrthi yn gyson, naill ai yn darllen. llyfr, neu ynte yn cyfansoddi pregeth.

Daeth Dafydd Morris yn boblogaidd ar gychwyniad ei weinidogaeth, ac ymddengys fod gan Daniel Rowland feddwl uchel am dano, ac am ei ddoniau. Gwahoddai ef i Langeitho, ar Sul pen mis, fel ei gelwid, i bregethu i'r miloedd a fyddent yno wedi ymgynull o bob parth o Gymru. Yn nyddiau ei ieuenctyd yr oedd yn nodedig o ran prydferthwch ymddangosiad; yr oedd yn llyfndeg ei wedd, ei wallt oedd yn wineu-felyn, ac yn disgyn yn deneu ar ei dalcen; ei lygaid oeddynt yn fawrion a bywiog, a'i lais yn gryf a soniarus. Pan yn gymharol ieuanc daliwyd ef gan dewychder dirfawr, yr hwn a gynyddodd fel yr elai yn mlaen mewn dyddiau; yn ei amser olaf ni feiddiai farchogaeth, eithr teithiai mewn cerbyd. Gwelsom yn amryw o dai capelau Sir Aberteifi gadair lydan hen ffasiwn, a digon o le i ddau i eistedd ynddi yn gysurus; gelwid hi yn "gadair Dafydd Morris," a dywedid mai er ei fwyn ef y cawsai ei gwneuthur. Oblegyd y tewychder hwn y darfu i Dafydd Ddu o'r Eryri, ac efe yn fachgenyn ieuanc llawn direidi a dígrifwch, gyfansoddi iddo y penill a ganlyn:

"Am Dafydd Morris, 'r wyf fi'n syn, Nid oes, mae hyn yn rhyfedd, Berffeithiach cristion mewn un plwy', Yn cario mwy o lygredd. Ar fyr eheda'i enaid ef, Yn iach i'r nef fendigaid; A'r gorph a fydd, yn ngwaelod bedd, Ddanteithiol wledd i bryfaid."

Fel pregethwr, meddai ddirnadaeth ddofn o brif wirioneddau trefn yr iachawdwriaeth; yr oedd pob pregeth o'i eiddo yn dangos craffder sylw, a meddylgarwch. Ond ei brif nodwedd oedd angerddolrwydd teimlad. Byddai y gwirioneddau a lefarai yn tanio ei enaid ei hun, ac yn cyneu y cyffelyb dân yn ysprydoedd y rhai a'i gwrandawent. Meddai Christmas Evans am dano: "Yr oedd Dafydd Morris yn bwysig, a thra deffrous, yn ei anerchiadau at gydwybodau, a serchiadau ei wrandawyr. Nid hawdd darlunio yr effeithiau oedd yn canlyn ei ddawn yn y dyddiau cyffrous hyny." Desgrifiai rhai o'r hen bobl ei ymweliad a'r gwahanol ardaloedd. fel ymdoriad ystorm o fellt a tharanau. Wrth ei wrando, safai dynion anystyriol yn syn, wedi eu dal gan ddychrynfeydd, fel pe buasai y Barnwr yn ymddangos; ac elai y rhuthr heibio gyda chawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn. Fel cyfrwng i gludo angerdd ei deimlad, rhoddasid iddo lais cryf a soniarus, yr hwn oedd ar unwaith yn dreiddgar a llawn o fiwsig. Meddai ei fab, Eben Morris, lais perseiniol ac o gwmpas dirfawr. Gofynai Hiraethog unwaith i Dr. Owen Thomas: "A ydych chwi yn cofio Ebenezer Morris?" Atebai yntau nad oedd. "Wel," meddai Hiraethog, "ni chlywsoch chwi ddim llais, ynte." Ond mynai yr hen bobl, oeddynt yn gydnabyddus a'r ddau, fod llais Dafydd Morris yn rhagori o ddigon ar eiddo ei fab.

Yn y flwyddyn 1774, symudodd o Ledrod i Dwrgwyn i drigianu. Gwnaeth hyny ar gais eglwysi dyffryn Troedyraur, y rhai a alwent arno i roddi heibio bob llafur bydol, ac ymroddi yn gyfangwbl i'r weinidogaeth, gan gadw cyfarfodydd eglwysig, a phregethu yn yr wythnos fel y byddai cyfleustra yn rhoi, ac addawent ei gydnabod am ei lafur. Yn nhafodiaeth yr oes hon, galwad i fod yn fugail a gafodd, ac ufuddhaodd yntau iddi. Isel oedd agwedd crefydd yn rhanau isaf Sir Aberteifi yr adeg yma, ar ol bod yn lled flodeuog unwaith; yr oedd yr ymraniad â Harris wedi taflu ei ddylanwad gwenwynig dros y seiadau, ac ymddangosai yr achos yn ei holl ranau yn dra gwywedig. Eithr yn fuan gwedi ei symudiad ef, newidiodd gwedd pethau er gwell; teimlwyd effeithiau grymus yn cydfyned a'r weinidogaeth, a chwanegwyd llawer iawn at y gwahanol eglwysi. Darostyngwyd y rhagfarn oedd yn meddyliau llawer o'r trigolion at y Methodistiaid, a lliosogodd y gwrandawyr i'r fath raddau, fel yn mhen pedair blynedd, sef yn 1778,