Tybir mai efe oedd y pregethwr yr adroddir hanes tra chyffrous am dano yn Llangynog, Sir Drefaldwyn. Safai i draddodi y Gair wrth ddrws tŷ tafarn; a gyferbyn ag ef, yr ochr arall i'r ffordd, yr oedd tair coeden yn tyfu gyda glan yr afon. Yn fuan wedi dechreu y bregeth daeth dyn meddw heibio, yr hwn a waeddai allan, ar derfyn pob sylw o eiddo y pregethwr: "Celwydd a ddywedi." Goddefodd Dafydd Morris am enyd, ond wrth fod y dyn yn parhau i grochlefain a bytheirio, cyffrowyd ei yspryd, a dywedodd wrth y gynulleidfa: "Gwrandewch! bydd y tair coeden yna yn dwyn tystiolaeth yn erbyn y dyn hwn yn y farn, oni oddiwedda dialedd ef cyn hyny." Sylwodd y bobl ar y dywediad; ac yn fuan dygwyd ef yn fyw i'w cof drachefn, gan i'r dyn yn ei feddwdod, ryw noson dywell, syrthio dros y mur i'r afon, a boddi. Ac yr oedd hyn o fewn ychydig latheni i'r man y safai y pregethwr arno. Meddai y Beibl: "Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffol; paham y byddit farw cyn dy amser ?"
Cawn hanes am dano yn pregethu yn Amlwch, Sir Fôn, cyn adeiladu y capel cyntaf yno. Pregethai yn yr awyr agored, am fod y gynulleidfa, yn ddiau, yn rhy fawr i unrhyw dy. Safai wrth dalcen tŷ yr hen bregethwr, William Roberts, y crydd. Yr oedd llyn o ddwfr, meddir, yn gyfagos i dŷ William Roberts; llyn lled fawr, a lled fudr ei ddwfr yn gyffredin. Yr oedd yn byw yn y gymydogaeth ar y pryd amaethwr, yr hwn oedd yn dra dig llawn at y Methodistiaid. Penderfynodd y gŵr hwn, wedi deall fod cyfarfod crefyddol i gael ei gynal yn y dref, fyned yno i wneuthur gwawd o hono, ac i'w aflonyddu. Daeth i'r dref ar ei geffyl, gan fwriadu marchogaeth trwy y gynulleidfa, a thrwy hyny ei dyrysu a'i chwalu. Tybiai y caffai ddifyrwch wrth weled penbleth y bobl druain oedd wedi ymgynull i wrando. Eithr pan ddaeth yn gyfagos, mynai y ceffyl, er gwaethaf ei berchenog, droi i'r llyn; ac wedi cyrhaedd yno, taflodd ei farchog oddiar ei gefn i'r dwfr, gan orwedd ar ryw ran o hono fel nas gallai symud. Ofnai yr edrychwyr iddo foddi yn y llyn, a gwaeddent ar i rywun ei achub ef. "O, na," ebai rhyw hen wraig, mwy ei nwyd, debygyd, na'i gras, "gadewch iddo; gan i'r Llywydd mawr weled yn dda fyned ag ef yna, yna y dylai fod." Tybiai rhai fod llygaid yr hen wraig ar Diar. xxviii. 17: "Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffŷ i'r pwll; nac atalied neb ef." Modd bynag, rhuthrodd rhywrai i'r llyn, a llusgasant y dyn druan allan o'i wely peryglus, heb fod fawr gwaeth, ond fod ei ddiwyg yn llawer butrach. Felly, siomwyd yr erlidiwr. Nid difyrwch, ond poen, a fu y tro iddo; ac yn lle medru dyrysu y moddion, cafodd y gynulleidfa bob hamdden i wrando heb i neb feiddio gwrthddywedyd.
Ymddengys mai Dafydd Morris oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yn nhref Beaumaris. Ar yr heol y safai, ond ychydig o lonyddwch a gafodd; ymosodwyd arno gyda cherig a thom; a chodwyd y fath dwrf a therfysg, fel nas gallai fyned yn mlaen. Yr oedd llais Dafydd Morris yn gryf a chlochaidd, a'i galon ynddo yn wrol; ond ymddengys fod yno yn perthyn i'r Methodistiaid ddyn, William Lewis wrth ei enw, a feddai lais cryfach fyth. Safodd hwn i fynu yn ddiofn, wedi i'r terfysgwyr orchfygu y pregethwr o'r Dê, ac ymliwiodd a'r bobl am eu hymddygiad at ŵr dyeithr, a ddaethai o bell i geisio gwneyd daioni iddynt. Gostegodd hyn i raddau ar y terfysg, a chafwyd peth llonyddwch i orphen y cyfarfod. Pe buasai Dafydd Morris wedi ysgrifenu ei hanes yn fanwl, fel y gwnaeth Howell Harris, gan gadw cofnod manwl o bob peth a ddygwyddodd iddo, yr erlidiau a ddyoddefodd, a'r gwaredigaethau a estynwyd iddo, buasai yn ffurfio penod debycach i ramant nag i ddarn o hanesiaeth.
Ceir yn Methodistiaeth Cymru gynllun o'i gyhoeddiad yn Sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1771, yr hwn sydd yn meddu cryn ddyddordeb :-
Tachwedd 23, 1771, am 12, Waunfawr; nos, Llwyncelyn.
Dydd Mawrth, Llanllyfni, 2; a chadw yn breifat (seiat).
Dydd Mercher, am 10, Tynewydd; y nos, Brynygadfa.
Dydd Iau, am 12, Nefyn; nos, Tydweiliog.
Dydd Gwener, am 10, Tymawr; prydnhawn, am 3, Lon-fudr.
Dydd Sadwrn, am 12, Saethonbach.
Boreu Sul, Pwllheli; Cricieth, am 2.
Dydd Llun, am 10, Brynengan: a chadw yn breifat yn y Garn, am 5.
Nid annhebyg mai cynifer a hyn o leoedd pregethu oedd gan y Methodistiaid yn Sir Gaernarfon ar y pryd; ac os felly, pur araf y cynyddodd yr achos ynddi.
Ceir yn yr un llyfr fraslun o daith a wnaeth yn Sir Aberteifi, tua'r flwyddyn 1789, sef ryw ddwy flynedd cyn ei farw; ac yn y braslun hwn rhoddir y testunau oddiar ba rai y pregethodd yn ogystal:—