GORPHENAF 18, 1789.
Capel Twrgwyn. | . . . . . | Esaiah lv. 3. |
Glynyrhedyn | . . . . . | Luc i. 74. |
Aberteifi | . . . . . | Can. vii. 1. |
Llandudoch | . . . . . | Luc |
Llechryd | . . . . . | 1 Cor. iii. 21, 22. |
Tremain | . . . . . | Luc i. 47. |
Morfa Uchaf | . . . . . | 1 Cor. iii. 21, 22, mewn angladd. |
TRO I SASIWN
Yn y Sasiwn yn gyntaf | . . . . . | Can. vii. 1. |
Llanddewi-brefi | . . . . . | 1 Cor. iii. 21, 22. |
Tregaron. | . . . . . | Actau xvi. 30, 31. |
Swyddffynon | . . . . . | Heb. vi. 7, 8. |
Lledrod | . . . . . | 1 Cor. iii. 21, 22. |
Llangwyryfon | . . . . . | Luc i. 74. |
Llanbadarn Fawr | . . . . . | Heb. iv. 3. |
Aberystwyth | . . . . . | Actau xvi. 30, 31. |
Rhyd-y-felin-fach | . . . . . | Zech. xii. 10. |
Llanrhystyd | . . . . . | Phil. iii. 20, 21. |
Llannon | . . . . . | Heb. ii. 3. |
Penant | . . . . . | Actau xvi. 30, 31. |
Llanarth | . . . . . | Heb. ii. 3. |
Geuffos | . . . . . | Zcch. xii. 10. |
Un ffaith ddyddorol a geir yn y braslun hwn ydyw, fod Dafydd Morris yn pregethu yn Nghymdeithasfa ei sir ei hun. Yr oedd hyn flwyddyn cyn i Daniel Rowland farw, ac y mae yn sicr fod a fynai efe â'r trefniant. Dywedir fod ganddo gynifer a saith o wahanol bregethau ar Actau xvi. 30, 31. Parhai Dafydd Morris i gyfansoddi pregethau newyddion trwy ystod ei oes, ac ymddengys fod hyn yn orchwyl hawdd iddo. Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru iddo weled saith o bregethau o'i eiddo, wedi eu cyfansoddi mewn chwech wythnos o amser, yn y flwyddyn 1789, sef dwy flynedd cyn ei farw. Nid oes dim yn awgrymu fod hyn yn beth anarferol iddo. Dywedai Mr. John Jones, Castellnewydd, ddarfod iddo ef ei wrando saith-ar-hugain o weithiau mewn un flwyddyn, a bod ganddo bregeth newydd bob tro. Yn y brasluniau o'i bregethau sydd ar gael, ymddengys nad oes dim anarferol o ran cynllun na chyfansoddiant; eu prif nodwedd yw Ysgrythyroldeb; ond diau ei fod yn cael llawer o'i syniadau dysgleiriaf ar y pryd, pan y byddai ei yspryd yn poethi wrth ymdrin â'r gwirionedd.
Yr ydym wedi dangos yn barod fod Dafydd Morris yn meddu craffder arbenig i adnabod cymeriad. Ceir hanes am dano yn Llansamlet a brawf yr un peth, ac a ddengys fod ganddo awdurdod nodedig i lywodraethu, a gweinyddu dysgyblaeth, pan fyddai galw. Yr oedd yn Llansamlet wr o'r enw Llewelyn John, cristion gloyw, a chymeriad pur. Yn ychwanegol, meddai ddawn gweddi helaeth, ac arferai fyned o gwmpas gyda phregethwyr i ddechreu y cyfarfodydd iddynt. Bu unwaith yn y Gogledd gyda Jones, Llangan. Yn mhen amser maith aeth Llewelyn John yn hen ac yn dlawd. Penderfynodd y seiat gyfranu ryw gymaint yn wythnosol at ei gynaliaeth; ond bu hyn yn foddion i beri cenfigen a therfysg. Yr arweinydd yn yr helynt oedd "Beni y crydd." Wedi cryn gyffro, penderfynwyd anfon cenhadau yno, er ceisio adfer trefn. Yn y cyfamser, daeth Dafydd Morris heibio; ac ar ol yr odfa, mewn cyfarfod eglwysig, gosododd y brodyr y mater ger ei fron. Ar ddechreu y drafodaeth rhoddes "Beni" amnaid i Dafydd Morris ddarllen y drydedd benod o 2 Thes., lle y ceir y geiriau: "Os byddai neb ni fynai weithio, na chai fwyta ychwaith." "Na wnaf fi," ebai yntau, "darllen hi dy hunan, os myni." Gwnaeth Beni hyny; ac yn ganlynol, wrth drafod y mater, coffaodd hi drachefn, fel un benderfynol ar y pwnc. Bellach, yr oedd yspryd Dafydd Morris wedi cyffroi ynddo, ac nis gallai ymatal, a dyma ef yn arllwys ei dynghed ar Beni, druan. "Clyw, y cythraul," ebai, "a wyt ti yn cymhwyso yr adnod yna at yr hen ŵr duwiol? Rhwygwr wyt ti, a rhwygwyr yw y rhai sydd yn dy gynghrair, ac allan a thi a hwythau." Yr oedd y Parch. Hopkin Bevan yn y cyfarfod ar y pryd, ac arferai ddweyd na fu mewn lle mor ofnadwy erioed; ei fod yn teimlo fel pe byddai llawr y capel yn crynu gan yr awdurdod oedd yn y geiriau. Gwedi hyn ymrestrodd y terfysgwr yn filwr, ac adferwyd tangnefedd i'r eglwys.
Yr oedd Dafydd Morris, heblaw bod yn bregethwr gwych, yn emynydd o fri, a cheir amryw o'i emynau yn y llyfr a arferir yn bresenol gan y Methodistiaid. Cyhoeddodd lyfr bychan o'i gyfansoddiadau cyn iddo adael Lledrod, a dywed y wyneb-ddalen iddo gael ei argraffu yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1773. Felly, nid oedd yr awdwr ar y pryd ond naw-mlwydd-ar-hugain oed. Enw y llyfr yw, Can y Pererinion Cystuddiedig. Yn y rhagymadrodd ceir a ganlyn: "Gwybydded pwy bynag y dygwyddo hyn o emynau ddyfod i'w ddwylaw, na fwriedais i erioed wrth eu canu eu rhoddi mewn print; ac mai afreidiol oedd i mi osod fy enw yn gyhoeddus trwy eu hargraffu. Ond wrth gofio am y gwŷr goludog oedd yn bwrw i'r drysorfa o'r hyn oedd yn ngweddill ganddynt, mi glywais beth cymhelliad