Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/534

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Davies a Howell Harris; ac eto i gyd iddo, yn mysg yr enwogion hyn, enill iddo ei hun safle fel pregethwr o'r radd flaenaf, fel y daeth ei enw yn air teuluaidd yn Nghymru, o Fôn i Fynwy, rhaid fod Dafydd Morris yn bregethwr anghyffredin. A chan iddo droi llawer i gyfiawnder, rhaid ei fod heddyw, yn ol geiriau yr Ysgrythyr, yn seren o'r mwyaf dysglaer yn ffurfafen y nefoedd. Cyfansoddwyd marwnad iddo gan y Parch. Thomas Jones, o'r Maes, yn Sir Gaerfyrddin, wedi hyny o Peckham, Surrey, o ba un y difynwn ychydig benillion:

"Seren ddysglaer yn goleuo
Yn neheulaw Iesu gwiw,
Gariodd athrawiaethau grymus,
Pur wirionedd geiriau Duw;
Chwiliai ddyfnion droion calon,
Troion gwrthgiliadau cas,
Yn ngoleuni ei athrawiaeth
Fe'i datguddiai hwynt i maes.

Nid ymryson gwag a dadleu
Ydoedd ei bregethau ef,
Ond canolbwynt ei athrawiaeth,
Oedd gogoniant Brenin nef;
Dyn yn ddyn, a Christ yn bobpeth,
Fyddai e'n gyhoeddi maes,
Mewn rhyw ddysglaer oleu, hyfryd,
A rhyw ddwyfol nefol flas.

Y mae rhai o'i ddwys gynghorion
Ar fy meddwl hyd yn awr;
'Rwy'n hyderu caf eu cofio
Tra b'wyf ar y ddaear lawr;
Wrth drafaelu dyffryn Baca,
Sych ac anial, llawn o wres,
Mewn tywyllwch anghysurus,
Gwnaethant i fy enaid les."


Y trydydd enw sydd uwchben y benod yw eiddo William Llwyd, o Gayo. Fel amrai o bregethwyr cyntaf y Methodistiaid, yr oedd Mr. Llwyd yn hânu o deulu parchus, yn meddu eiddo rhydd-ddaliadol, a pherthynai yn agos i Lwydiaid y Briwnant, yr hwn deulu breswylia yn y Briwnant, ar y naill du rhwng Cayo a Phumsaint, hyd y dydd hwn, ac a ystyrir yn mysg bonedd Sir Gaerfyrddin. Enw ei dad oedd Dafydd Llwyd, a phreswyliai yn Blaenclawdd, ger Cayo.[1] Cafodd William ei eni yn y flwyddyn 1741, sef tua chwe' blynedd wedi cychwyniad y diwygiad Methodistaidd, a rhyw ddwy flynedd cyn Cymdeithasfa gyntaf Watford. Pan yr oedd efe yn blentyn bychan, yn chwareu o gwmpas gliniau ei fam, yr oedd Rowland a Harris yn tanio Cymru, a than fendith Duw yn cynyrchu chwildroad hollol yn nghyflwr moesol y trigolion. Ymddengys i rai o'r gwreichion gydio yn William pan yn ei fabandod, oblegyd dywed ei fod dan fesur o argyhoeddiad, ac mewn pryder oblegyd ei gyflwr, er pan o gwmpas saith mlwydd oed. Diau mai rhyw ddylanwad, mwy neu lai uniongyrchol, oddiwrth weinidogaeth y Diwygwyr cyntaf a fu y moddion i gynyrchu hyn. Am helynt dyddiau ei ieuenctyd ychydig a wyddom; eithr cafodd addysg well na'r cyffredin, a bu am beth amser yn ysgol y Parch. Owen Davies, gweinidog perthynol i'r Ymneillduwyr. Pan oedd tua deunaw mlwydd oed cafodd gyfleustra i wrando Peter Williams, a than y weinidogaeth dyfnhawyd ei argyhoeddiadau yn ddirfawr, fel y darfu i fater enaid lyncu pob peth iddo ei hun yn ei deimlad. "O'r blaen," meddai Mr. Charles, "nid oedd ei argyhoeddiadau, mewn ystyr, ond meirwon a dieffaith, yn ei ddangos ac yn ei farnu yn euog; eithr heb fawr o ymgais i ffoi rhag y llid a fydd, ac heb y waedd yn ei yspryd: Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf cadwedig? Ond effeithiodd gweinidogaeth y gweinidog llafurus hwnw, y Parch. P. Williams, yn fywiog ac yn danllyd arno, nes yr oedd dyfnder ei bechadurusrwydd, a'i drueni yn ganlynol, heb un llen yn ei olwg, a chadw enaid y peth mwyaf ei bwys a'i ganlyniad o ddim yn y byd." Ymddengys ddarfod i'r llanc, William Llwyd, fod mewn gwasgfa meddwl am gryn yspaid; dan Sinai yn swn y taranau y preswyliai; am agos i flwyddyn llanwai dychrynfeydd y ddeddf ei enaid, heb gael tawelwch yn un man. Y gwr a ddefnyddiwyd i agor drws gobaith o'i flaen oedd Evan Jones, cynghorwr o Ledrod, yn Sir Aberteifi. Ychydig neu ddim o hanes yr Evan Jones yma sydd ar gael; yn unig ceir ei enw yn mysg cynghorwyr Rowland; ai byr ei ddawn ydoedd, ynte a feddai dalent naturiol gref, ni wyddom; ond efe a fendithiwyd i dywallt balm yr efengyl i glwyfau dyfnion William Llwyd, ac eiddo Grist a fu y gŵr ieuanc o hyny allan.

Brysiodd i ymuno âg eglwys Crist, ac yn ol Mr. Charles, gyda chynulleidfa yr Ymneillduwyr yn y gymydogaeth, sef, yn ddiau, cynulleidfa Crugybar, y bwriodd ei goelbren. Awgryma Mr. Charles, yn mhellach, mai y rheswm paham y gwnaeth felly oedd, am nad oedd seiat Fethodistaidd o fewn cyrhaedd iddo; a dywed mai yn y flwyddyn 1760 y ffurfiwyd cymdeithas

  1. Trysorfa Ysprydol.