ynof i daflu fy nwy hatling i mewn yn eu mysg. Heblaw hyny, wrth roddi ambell air maes o honynt weithiau mewn cynulleidfaoedd cristionogol, a gweled ambell blentyn newynog yn adfywio trwy yr ymborth gwael hwn, a'r Arglwydd yn dysgleirio arnynt trwy y moddion, mi a feddyliais ei bod yn bechod i gadw bara haidd oddiwrth eneidiau newynllyd; hyn a'm cwbl gymhellodd idd eu gosod o'th flaen yn y drych y gweli hwynt. Os bendith a gei oddiwrthynt trwy eu darllen, neu eu canu, rho'r clod i Dduw, a gweddïa drosof finau, yr hwn wyf dy gydymaith mewn cystudd,—DAFYDD MORRIS.' gryma y geiriau sydd mewn llythyrenau. Italaidd fod yr awdwr ar y pryd yn wael ei iechyd. Yn sicr, nid oedd raid iddo ymesgusodi o herwydd cyhoeddi y llyfr, na galw ei Emynau yn "ymborth gwael" nac yn "fara haidd;" y mae yspryd y peth byw yn amryw o honynt, a byddant yn debyg o gael eu canu tra y parhao y Cymry i offrymu mawl i Dduw yn eu hiaith eu hunain. Yn mysg eraill, perthyn yr emynau canlynol i Dafydd Morris:
"Mae brodyr imi aeth ymlaen."
"Os rhaid yfed dyfroedd Mara."
"Arglwydd grasol, dyro gymhorth."
"A ddaw gwawr ar ol y plygain?"
Os nad oedd ei awen mor hedegog ag eiddo Williams, gwelir fod ei emynau yn nodedig am eu Hysgrythyroldeb a'u dwysder.
Yr oedd Dafydd Morris hefyd yn ddyn nodedig o garuaidd, a thyner ei deimlad; ac arferai letygarwch ar raddfa eang, fel y ceid aml gyfleustra y dyddiau hyny. A braidd nad oedd ei wraig, Mary, un o'r benywod serchocaf ar y ddaear, yn rhagori arno yn y rhinwedd hwn. Ni byddai wythnos yn pasio na byddai ryw "lefarwr " yn ymweled a Twrgwyn; ac ambell wythnos byddai pedwar neu bump; oblegyd cyfnod y teithio oedd hwnw, ac yn nhŷ Dafydd Morris y lletyent gan amlaf, a byddai Mrs. Morris wrth ei bodd yn gweini arnynt. Parchai hwynt oll, y sychlyd ei ddawn fel y talentog; yr anwybodus fel y galluog; anrhydeddai y gwaelaf fel cenad Duw. Bu farw yn y flwyddyn 1788, yn gymharol ieuanc, ac ysgrifenwyd marwnad iddi gan Williams, Pantycelyn. Braidd nad yw y farwnad yn awgrymu na pherchenogai dalent ddysglaer, ond mai mewn duwiol frydedd a charedigrwydd y rhagorai. Wele ychydig o'r penillion:
"O galared y gyn'lleidfa
Fawr, liosog, faith, am hyn,
Sydd yn bwyta bara'r bywyd
O fewn capel y Twrgwyn;
Collwyd mam, a chwaer, a mamaeth,
Collwyd gwraig garuaidd wiw;
Ac nid oes all lanw'r golled,
Ond yr Hollalluog Dduw.
Os rhagluniaeth drefna imi—
F'allai fyth fydd hyny'n bod—
Wrth gyhoeddi'r 'fengyl oleu,
I dŷ Dafydd Morris ddod;
A gwel'd Mary'n eisiau yno,
Gwn y tyn afonydd hallt
O fy llygaid, fel o greigydd,
Er mor wyned yw fy ngwallt.
Mwy yw Dafydd yn mhob ystyr,
Uwch na Mary raddau heb ri',
Mwy talentau, mwy arddeliad,
Godidocach swydd na hi;
Ond am garu, ymgeleddu,
Gwneyd y rheidus oer yn glyd,
Yr oedd Mary'n abl ateb,
Neb rhyw wraig o fewn y byd.
Doed pregethwyr fan y deuant,
Gogledd, de, neu ddwyrain bell,
I'r Twrgwyn, gyhoeddi allan
Bur newyddion Juwbil well;
O ba ddwg, o ba dalentau,
O ba raddau, o ba ddawn,
Hwy gaen' ffeindio Mary Morris,
O garueiddiwch pur yn llawn."
Bu i Dafydd Morris a Mary dri o blant, sef Theophilus, Eleazer, ac Ebenezer. Cymerodd angau y ddau flaenaf ymaith yn nyddiau eu hieuenctyd, a chyn cael cyfleustra i wneyd dim yn haeddu ei goffa; ond am yr olaf, Ebenezer, daeth yn un o ser dysgleiriaf y pwlpud, ac y mae enw "Eben Morris" yn anwyl gan y genedl hyd y dydd hwn. Daw efe dan ein sylw eto. Oes fer a gafodd Dafydd Morris; canwyll yn llosgi yn ddysglaer ydoedd, a llosgodd i'r soced yn bur fuan. Ar yr ail-ar-bymtheg o fis Medi, 1791, galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr, ac efe ond saith-a-deugain mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu am ryw chwech-mlynedd-ar-hugain. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn mynwent Troedyraur, yn nghanol dagrau lawer. Ond i ni gadw mewn côf ei fod yn cydfyw, yn mron trwy ystod ei oes, â'r Tadau Methodistaidd cyntaf; mai tua blwyddyn o'i flaen y bu farw Daniel Rowland; mai tuag wyth mis o'i flaen y croesodd Williams, Pantycelyn, yr lorddonen; ddarfod i Peter Williams, ei oroesi; ac iddo fod yn gydlafurwr â Howell