istiaeth. Gwelsom daflen wedi cael ei thynu allan, yn desgrifio sefyllfa y gwahanol eglwysi yn ystod y cyfnod hwn; ond y mae y daflen mor awyrol, ac mor anmhenodol, fel nas gellir gwneyd dim o honi i bwrpas ymresymiad. Dywedir am ambell eglwys ei bod yn cynyddu." Byddai hyn yn wir pe bai eglwys o ddau yn enill aelod ychwanegol, fel ag i fyned yn dri; nid yw yn profi dim gyda golwg ar ei rhif mewn cyfartaledd i faint poblogaeth y wlad. Tuag at gael rhyw wybodaeth am rifedi yr Ymneillduwyr yn 1735, rhaid cael rhywbeth llawer mwy pendant na geiriau yn llwyddianus," "ar gynydd," &c. Byddai yn dda genym hefyd wybod ar ba seiliau y dywedir fod rhai o'r eglwysi sydd ar y rhestr yn llwyddo o gwbl. Cymerer y gyntaf ar y llechres, sef Penmaen. Ar ba sail y dywedir ei bod yn llwyddianus? Addefa y Parch. Edmund Jones iddi syrthio i gyflwr isel tua dechreuad y ddeunawfed ganrif; elai rhif yr aelodau i lawr yn gyson, gan fod y gweinidog yn anmhoblogaidd. Ond dywed iddi gynyddu yn fawr rhwng 1720 a 1739, ac i o gwmpas cant i ymuno â'r gynulleidfa. Ai nid trwy ymweliadau Howell Harris yn y flwyddyn 1738 y cafwyd y cynydd hwn gan mwyaf? Cyrhaeddai eglwys Penmaen dros y wlad, o Goedduon hyd Gwm Tileri, gan gymeryd i fewn Gwm Ebwy Fawr. Cynyrchodd ymweliad Howell Harris â'r rhan hono o'r wlad, Pasg, 1738, gyffro mawr; ysgydwyd yr holl gymydogaethau, gan eu dwyn dan ddylanwad yr efengyl; ymunodd degau â'r eglwys, ac ychydig o deuluoedd oeddynt trwy yr holl fro na ddeuent i wrando. Cymera y cynydd y cyfeiria Edmund Jones ato i mewn y dychweledigion hyn. Ond yn y flwyddyn 1739, bu terfysg ac ymraniad yn Penmaen; ymadawodd un blaid o'r eglwys dan arweiniad Edmund Jones, gan ymsefydlu yn Mhontypwl, tra y glynai eraill wrth yr hen achos. A bu Ymneillduwyr Cwm Ebwy a Chwm Tileri am flynyddoedd lawer yn rhanedig, ac yn chwerw eu teimladau at eu gilydd. Ceir barn Edmund Jones am eglwys Penmaen yn y flwyddyn 1741, wedi ei chofnodi mewn llythyr at Howell Harris. Meddai: "I wish some of the sound Dissenting ministers separated from the loose and erroneous Dissenters; but perhaps it will come to that. Both the ministers at Penmaen deny that there is any need of discipline among them, and call my attempts of discipline by the approbious names of rigid, punctilious, and novel customs. Thus these men refuse to be reformed, the more is the pity." Dyna ddesgrifiad y Parch. Edmund Jones, yr hwn oedd yn Annibynwr o'r Annibynwyr, o gyflwr yr eglwys y dywedir ei bod yn llwyddo. Ystyriai efe hi yn eglwys ddiddysgyblaeth a chyfeiliornus, a'i gweinidogion ill dau yn gwrthod diwygiad, fel ag i wneyd ymwahanu oddiwrthynt yn beth i'w ddymuno.
Dyna eglwys Maesyronen eto, dywedir ei bod yn cynyddu dan ofal David Price. A ellir profi hyn Yn fuan wedi cyfodiad Methodistiaeth, darfyddodd yr achos yn llwyr yma. Ai nid oedd elfenau marwolaeth yn gweithio yn ei chyfansoddiad er's blynyddoedd? Nid mewn amser byr y mae eglwys lwyddianus yn suddo i ddifodiant.
Cymerer eto eglwys Pwllheli, am yr hon y dywed yr Ysgrifenydd ei bod yn dechreu adfywio trwy ymweliadau Lewis Rees." Faint oedd yr adfywiad? Pa brawf sydd o adfywiad o gwbl? Yn ol Drych yr Amseroedd (tudal. 55), pan aeth Lewis Rees yno, cwynai y cyfeillion fod yr achos yn isel, ac yn ddigalon, neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r gwrandawyr yn lleihau. Anogai yntau hwynt i beidio ymollwng. Y mae y wawr nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir," meddai. "Y mae acw ryw ddyn rhyfedd iawn wedi codi yn ddiweddar, a elwir Mr. Howell Harris; y mae yn myned oddiamgylch i'r trefydd a'r pentrefydd, y prif-ffyrdd a'r caeau; ac fel og fawr, y mae yn rhwygo y ffordd y cerdda." "O!" meddent, "na chaem ni ef yma." Atebodd Mr. Rees, ei fod yn bosibl y deuai. Soniodd wrthynt hefyd am Jenkin Morgan, a gadwai ysgol dan Griffith Jones. Felly, os bu adfywiad yn eglwys Ymneillduol Pwllheli, son am waith Duw trwy Howell Harris a'i hachosodd.
Drachefn, dywedir am Bentretygwyn a Chefnarthen: " Er ychydig o annealltwriaeth, yn llwyddo a chynyddu." Ychydig annealltwriaeth, yn wir! Am saith mlynedd o amser buasai tri o weinidogion ar eglwys Cefnarthen yr un pryd, dau yn Arminiaid ac un yn Galfiniad, a phregethent yn erbyn eu gilydd o'r un pwlpud. Wedi dadleuaeth chwerw, a rhyfeloedd poethion, ymranodd yr eglwys, ac aeth y Calfiniaid allan, yn cael eu harwain gan dad Williams, Pantycelyn, a sefydlasant achos mewn amaethdy o'r enw Clinypentan. Dygwyddodd hyn tua'r amser yr oedd Howell Harris yn dechreu cyffroi. Y rhwyg yma a elwir yn "ychydig annealltwriaeth!" Beth ŵys a fyddai annealltwriaeth mawr? Os yw terfysg, ymddadleu, ac yn y diwedd ymranu, yn brawf o lwyddiant, cyfaddefwn fod eglwys Cefnarthen, adeg cyfodiad Methodistiaeth, mewn sefyllfa nodedig o lwyddianus. Trachefn, cymerer Wrexham. Dywedir ei bod yn cryfhau, yn iachau o'i chlwyfau ar ol ymraniadau, a darfod i J. Kenrick lafurio yma gyda pharch mawr am agos i ddeugain mlynedd. Ond, fel amryw o'r hen weinidogion Presbyteraidd, tueddai J. Kenrick at Ariaeth; aeth ei ddisgynyddion yn Sociniaid rhonc; Ariad hefyd oedd ei olynydd, Mr. Boult; derbyniai ei olynydd yntau, y Parch. William Brown, Undodiaid i gymundeb eglwysig yr un fath a Thrindodiaid. Yr oedd yr eglwys Bresbyteraidd yn Wrexham yn gymysgedd o Undodiaeth, Ariaeth, a Chynulleidfaolwyr efengylaidd hyd nes yr oedd chwarter cyntaf y ganrif bresenol wedi myned heibio. Y pryd hwnw gorchfygodd y blaid efengylaidd, a llwyddasant i gael y Parch. John Pearce yn weinidog. (Gweler A History of the Older Nonconformity of Wrexham and its Neighbourhood, by Alfred Neobard Palmer, F.C.S.). Rhy brin y gellir dynodi cyflwr eglwys a wnelid i fynu o'r fath gymysgedd fel un llwyddianus.
Nid oes genym hamdden i fyned trwy y gweddill o'r daflen. Y mae i raddau mawr yn ddychymygol ac yn ddisail, ac yn wir yn gamarweiniol. Nis gellir rhoddi dim pwys o gwbl arni fel sail ymresymiad. Ac eto, dywedir y rhaid i bob dyn têg gydnabod fod y rhestr hon yn wadiad effeithiol ar y dybiaeth fod crefydd efengylaidd yn marw allan yn Nghymru yn nechreu y ganrif ddiweddaf. Tueddwn i feddwl mai yr hyn a wnai y "dyn têg," cyn rhoddi barn o gwbl ar y mater, fyddai gofyn am brofion dros y nodiadau a roddir mewn cysylltiad a'r gwahanol eglwysi; byddai yn debyg o ofyn paham y gelwid terfysg hyd at ymraniad mewn eglwys yn "ychydig annealltwriaeth?" A phaham y dynodid eglwys arall, oedd yn amddifad o ddysgyblaeth, ac a feddai weinidogion na chymerent eu diwygio, fel mewn cyflwr llwyddianus? Teimlwn yn sicr y gofynai y "dyn tèg "liaws o gwestiynau mewn perthynas i wahanol items y rhestr hon, y byddai yn anhawdd iawn cael atebiad iddynt.
Nonconformity of WrcxJiam and its NeigJiboiirJiood, by Alfred Neobard Palmer, F.C.S.). Rhy brin y gellir dynodi cyflwr eglwys a wneHd i fynu o'r fath gymysgedd fel un llwyddianus.
Nid oes genym liamdden i fyned trwy y gweddiU o'r daflen. Y mae i raddau mawr yn ddychymygol ac yn ddisail, ac yn wir yn gamarwciniol. Nis geliir rlioddi dim pwys o gwbl arni fel sail ymresymiad. Ac eto, dywedir y rbaid i bob dyn têg gydnabod fod y rhestr bon yn wadiad effcitliiol ar y dybiaeth fod crefydd efengylaidd yn marw allan yn Ngbymru yn nechreu y ganrif ddiweddaf . Tucddwn i feddwl mai yr liyn a wnai y " dyn têg," cyn rhoddi barn o gwbl ar y mater, fyddai gofyn am brofion dros y nodiadau a roddir mewn cysylltiad a'r gwabanol eglwysi ; byddai yn debj-g o ofyn pabam y gelwid terfysg byd at ymraniad mewn cglwys yn " ych- ydig anncalltwriacth ? " A pbaliam y dynodid eglwys arall, oedd yn amddifad o ddysgyblaeth, ac a feddai weinidogion na cbymerent eu diwygio, fel mewn cyflwr llwyddianus ? Teimlwn yn sicr y gofynai y " dyn tèg " liaws o gwestiynau mewn perthynas i wahanol items y rhestr hon, y byddai yn anhawdd iawn cael atebiad iddynt.