pryd. Dychymygol hollol yw y rheswm hwn eto; ymddengys i ni, fel yr ydym wedi dangos yn barod, ei bod yn debycach o fod yn gorgyfrif nag yn rhoddi cyfrif rhy fychan. Honir i Dr. John Evans adael allan lu o weision a morwynion a phlant. Yr unig sail o blaid y dybiaeth yw, fod dyblu y rhai a ddesgrifir fel boneddwyr, rhydd-ddeiliaid, crefftwyr, a llafurwyr, yn rhoddi mwy na'r cyfanswm mewn dwy o'r eglwysi, ac mewn pedair o rai eraill fod eu dyblu yn dyfod yn agos iawn at y cyfanswm. Ond yr eglurhad ar hyn yw, nid fod y gweision a'r morwynion wedi cael eu gadael allan, ond nad oeddynt, fel rheol, yn cydymdeimlo âg Ymneillduaeth; yr oeddynt fel dosparth heb eu crefyddoli. Fel y dywed Dr. Thomas, Liverpool, rhai "mewn amgylchiadau bydol cysurus," oedd yr Ymneillduwyr; "yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd." Buasai Dr. John Evans yn cyfrif y gwas a'r forwyn yn o gystal a'r boneddwr a'i foneddiges, pe buasai y cyfryw yn arfer gwrandaw gyda'r Ymneillduwyr, ond nid oeddynt. Gwraidd camgymeriad amddiffynwyr Dr. Rees yn y fan yma yw cymeryd yn ganiataol fod Ymneillduwyr yr adeg hono yn gyffelyb o ran sefyllfa fydol i Ymneillduwyr ein dyddiau ni. Y mae mor amlwg a'r haul i ni y cyfrifid y plant. Dyna y rheswm dros ddyblu, ac weithiau treblu, y rhai y rhoddir desgrifiad o'u sefyllfa yn y cyfanswm. Ie, hyd yn nod pe y gellid dangos nad yw taflen Dr. John Evans yn rhoddi holl nerth yr Ymneillduwyr ar y pryd, ni fuasai gan Dr. Rees yr hawl leiaf i ddyblu y rhif. Addefir fod ei average attendance yn gamarweiniol, yn gystal ag yn anghywir. Y mae ei sail yn bwdr. Os eir i gyfnewid, gellir treblu lawn cystal a dyblu. Yr un sail fyddai i'r naill a'r llall. Yn wir, y mae Dr. John Thomas, Liverpool, yn taflu dyfaliaeth Dr. Rees dros y bwrdd yn ddiseremoni. Y mae Dr. Recs," meddai, 'yn dyblu y nifer, ac yn gosod rhifedi Ymneillduwyr Cymru yn 50,000; ond yn absenoldeb unrhyw reol ddyogel i gyfrif, gwell genym beidio dyfalu" (Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf v., tudal. 456). Hollol wir; unwaith yr ymwrthodir a'r daflen, gan ychwanegu ati, neu dynu oddiwrthi, yr ydym yn yr anialwch, yn nghanol y niwl. Gallem feddwl mai tua 30,000 y cyfrifai Dr. Thomas Ymneillduwyr y dyddiau hyny. Y mae yn sicr pe y gwybuasai mai nid average attendance sydd yn y golofn, ond number of hearers, y buasai yn gosod y rhif gryn lawer yn is. Eithr, a chaniatau y tybiai Dr. Rees fod taflen Dr. John Evans yn cyfrif Ymneillduwyr y Dywysogaeth yn is nag oeddynt, nid oedd ganddo hawl i wau ei dybiaethau a'i ddychymygion i mewn iddi, gan gyflwyno falsified copy o honi i'r byd yn lle copi gwirioneddol. Ei ddyledswydd ddiamheuol fuasai gosod y document i mewn yn ei lyfr fel yr ydoedd, air am air, a ffugr am ffugr, heb ychwanegu at, na thynu oddiwrth; ac os meddyliai ei bod yn ddiffygiol mewn unrhyw gyfeiriad, ei chyflenwi ar y diwedd, gan ddangos yn glir i'r darllenydd mai cyflenwad ydoedd, a nodi ei resymau dros geisio ei diwygio. I hanesydd cywir nid oedd unrhyw gwrs arall yn agored. Yr oedd llurgunio document o'r fath bwysigrwydd, a'i chyhoeddi felly i'r byd, heb gymaint ag awgrymu ei fod wedi ei chyfnewid, yn drosedd nas gellir ei ddarlunio mewn lliwiau rhy ddu. Trwy drugaredd, Dr. Rees yw yr unig hanesydd y gwyddom am dano a fu yn euog o'r fath beth. Gellir maddeu i hanesydd am dynu casgliadau unochrog; gellir maddeu iddo am edrych ar ffeithiau mewn goleu anghywir; ac, yn wir, am adael yn ddisylw ffeithiau anghydnaws a'i syniadau; y mae yr holl ffaeleddau hyn yn faddeuadwy, er nad ydynt mewn un modd i'w canmol, a'u bod yn tynu yn fawr oddiwrth werth safonol llyfr; ond am lurgunio tafleni pwysig mewn gwaed oer, a'u hanfon allan felly i'r byd yn eu holl anghywirder, y mae yn drosedd llenyddol nas gellir, ac na ddylid ei faddeu. Addefir hyn gan ysgrifenydd perthynol i'r Annibynwyr, yr hwn sydd wedi gwneyd hanesiaeth yn faes arbenig ei efrydiaeth; a dywed mai anfedrusrwydd Dr. Rees a'i harweiniodd i'r pwll. Fel hyn y dywed efe am Dr. Rees mewn newyddiadur dyddiol sydd yn cael cylchrediad mawr yn y Deheudir: "Unfortunately for his reputation, and for the success of his object, he, it seems clear, tampered with a return which Dr. J. Evans, of London, made in 1715, of the number of Nonconformists. His motives were pure, and his deductions were undoubtedly right. But no historian should take upon himself to alter in any degree an original document, from which he is quoting, without apprising the reader of the fact, and, unfortunately, Dr. Rees must be held guilty of doing this. In quoting Dr. J. Evans' return he changed the heading number of hearers' into 'average attendance.' We believe he was perfectly justified in concluding that Dr. Evans' hearers would in our days be reckoned as the average attendance; but it was an unwarranted liberty, excusable only in a man who had received no special training for the work of a historian, to embody his own convictions in Dr. Evans' returns without a word of warning or explanation." Yn mhob cymal o'r difyniad uchod, teimlir awyddfryd i geisio taflu clogyn dros ymddygiad Dr. Rees; priodolir purdeb amcan iddo, a chredir fod ei dyb yn gywir, ond y mae greddf hanesyddol yr Ysgrifenydd yn ei orfodi i gyfaddef fod ymddygiad y Doctor yn hyn o fater yn unwarranted liberty. Dyna yn ddiau ydoedd, ac y mae yn syn genym na chyfaddefid hyny yn ddigel.
Rhydd i ni yw cyfaddef ddarfod i ni gamgymeryd wrth dybio fod ail-argraffiad llyfr y Parch. W. Williams, Abertawe, allan o flaen ail-argraffiad History of Protestant Nonconformity in Wales, gan Dr. Rees, ac yr ydym yn ofidus am y camsynied. Ond nid yw yn gwneyd y gwahaniaeth lleiaf i'r pwnc mewn dadl. Yr hyn sydd yn bwysig i'w gadw mewn cof ydyw, ddarfod i Dr. Rees gael ei gyhuddo yn ystod ei fywyd o ymyraeth yn anghyfreithlon â thaflen Dr. John Evans; i'r cyhuddiad hwn gael ei ddwyn yn ei erbyn, nid mewn llythyr dan ffugenw mewn newyddiadur, ond mewn llyfr safonol gan weinidog Ymneillduol a breswyliai yn yr un dref ag ef, ac o safle barchus fel yntau; ond na ysgrifenodd y Doctor gymaint a llinell i'r wasg i amddiffyn ei hun, nac i egluro ei resymau dros yr hyn a gyflawnodd. Y mae genym awdurdod dros ddweyd ddarfod i Mr. Williams a'r Doctor gael aml i awr o ymgom ar ol hyn, ond na wnaeth Dr. Rees y cyfeiriad leiaf at y cyhuddiad pwysig a ddygasai Mr. Williams yn ei erbyn. Pe buasai ganddo amddiffyniad digonol, amddiffyniad a fuasai yn cymeradwyo ei hun i gydwybod y cyhoedd, tybed na fuasai yn dal ar y cyfle cyntaf i'w gyflwyno i'r wlad? Ni fuasai raid iddo fod yn amddifad o gyfryngau, oblegyd yr oedd gwasg Cymru yn agored iddo.
Y mae llawer o ymdrech wedi cael ei wneyd i ddangos fod Ymneillduaeth wedi cynyddu yn Nghymru, rhwng y blynyddoedd 1715 a 1735, sef rhwng cyfrif Dr. John Evans a chyfodiad Method-