wybodol; dyna y goleuni oedd ganddynt hwy ar y pryd; ond nid yw yn canlyn eu bod yn rhagfarnllyd at enwadau eraill. Nid yw ymlyniad gonest wrth blaid grefyddol yn profi dyn yn gul ac yn llawn rhagfarn at bob cyfundeb crefyddol arall. Y mae aml un, ni a gredwn, yn Annibynwr cryf, ac yn dra ymlyngar wrth ei blaid a'i bobl; ond gallwn ni edrych arno fel dyn diragfarn, eang ei gydymdeimlad, a rhyddfrydig ei olygiadau. Yn y goleu hwn yr hoffem ni ein hunain gael ein barnu. Tra yn credu yn gryf mewn Methodistiaeth, nid ydym yn ddall o gwbl i rinweddau a rhagoriaethau y cyfundebau crefyddol sydd o'n cwmpas. Paham na chaniateir yr un egwyddor gyda golwg ar y Tadau Methodistaidd? Ac nid oeddynt mor ymlyngar wrth yr Eglwys ag y tybir. Nid hoffder ati oedd yr unig, na'r prif reswm dros eu gwaith yn aros o'i mewn, ond y ffaith mai mewn undeb a hi yr oedd yr Arglwydd wedi eu llwyddo, ac yr oedd arnynt ofn symud allan, a bwrw eu coelbren gyda'r Ymneillduwyr, am nad oeddynt yn gweled fod y golofn yn myned i'r cyfeiriad hwn. Y maent drosodd a throsodd yn datgan parodrwydd i adael cymundeb yr Eglwys pe y gwelent yn glir mai hyny oedd ewyllys yr Arglwydd.
Y mae llawer iawn wedi cael ei wneyd o benderfyniad Cymdeithasfa Watford gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys. Fel hyn y ceir y penderfyniad yn nghofnodau Trefecca: "Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent betrusder gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys, oblegyd annuwioldeb yr offeiriaid; a chyda'r Ymneillduwyr oblegyd eu claearineb, barhau i dderbyn yn yr Eglwys hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymundeb." Geilw Dr. Rees hyn yn ymlyniad dall wrth yr Eglwys, a chyfeirir ato gan ei amddiffynwyr fel prawf o ragfarn Eglwysyddol. Nid yw yn ymddangos i ni fod y penderfyniad yn haeddu y condemniad diarbed a deflir arno. Gellir dwyn y rhesymau canlynol drosto: Yn (1) Anogaeth ydoedd i'r rhai oeddynt hyd hyny wedi arfer cymuno yn yr Eglwys; profir hyn gan y gair "parhau;" nid oes yma gymaint ag awgrym i'r Ymnneillduwyr adael cymundeb eu henwad. (2) Yn mryd y Methodistiaid yr oedd yr oerni a feddianasai yr Ymneillduwyr yn gymaint rhwystr ar ffordd crefydd, a buchedd anfoesol yr offeiriaid. Yn eu golwg hwy, nis gallai oerni ysprydol a duwioldeb gyddrigo. Nis gallai dyn wedi ei ferwi gan y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo o gariad at y Gwaredwr, lai na theimlo gwrthnaws o'i fewn wrth weled gwasanaeth y cymundeb yn cael ei gyflawni gan weinidog a'i yspryd ynddo mor oer a'r rhew. Ac yn aml yr oedd yr oerni yn gynyrch syniadau anefengylaidd am berson Crist, a natur yr Iawn. Yn yr eglwys, pa mor anfucheddol bynag y gallai yr offeiriad fod, yr oedd y gwasanaeth a ddarllenid ganddo yn ardderchog, ac yn llawn maeth i dduwioldeb. (3) "Hyd nes y rhoddai yr Arglwydd ddrws agored i adael cymundeb yr Eglwys" yr oedd yr anogaeth. Felly y darllena y penderfyniad. Ac ymddangosasai yr adeg i'w gadael yn ymyl iddynt. Yr oedd yr offeiriaid yn dechreu gwrthod y sacrament i'r Methodistiaid, a thrwy hyn yr oedd eu sefyllfa mewn argyfwng difrifol. Ac os dymunent i'r rhai a argyhoeddwyd ganddynt, eu plant ysprydol, barhau yn nghyd, heb fod rhai yn ymuno â phlaid arall, pwy a fedr eu beio?
Howell Harris oedd y mwyaf ymlyngar wrth yr Eglwys, ond yr oedd yn hollol ddiragfarn at yr Ymneillduwyr. Cyfeiria gyda pharch a thynerwch mawr at amryw o'u gweinidogion yn ei lythyrau, ac yn ei Ddydd-lyfr. "Yr anwyl Edmund Jones," meddai drosodd a throsodd. "Fy mrawd, Lewis Rees," meddai drachefn. Gohebai yn y modd mwyaf cyfeillgar â gweinidogion efengylaidd yr Ymneillduwyr yn Nghymru a Lloegr; gofynai gyfarwyddyd ganddynt mewn gwahanol amgylchiadau, ac adroddai ei helynt, a'i lwyddiant, a'i brofiad ysprydol iddynt yn y modd mwyaf dysyml. Byddai yn anhawdd cael syniadau mwy catholig na'r rhai a draethir ganddo. Meddai mewn llythyr at Mr. Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllieni: "Anhawdd i ni oll ddyfod i gydweled gyda golwg ar y rhanau hyny o'r Beibl a gyfeiriant at ffurflywodraeth eglwysig, adeg, a dull bedydd, a rhyw allanolion felly ydynt yn fuan i ddarfod. Y mae undeb yn anmhosibl hyd nes y cydunwn i beidio gwneyd dim yn amod aelodaeth ond adnabyddiaeth achubol o'r Arglwydd Iesu, a ffydd fywiol yn cynyrchu sancteiddrwydd buchedd. Pe bawn i a gofal cynulleidfa arnaf, ystyriwn ei bod yn ddyledswydd arnaf i dderbyn pawb yn aelodau y gallwn obeithio am danynt eu bod wedi eu geni o Dduw, er na fyddent yn cydweled â mi ar ychydig o bethau allanol." Y dyn hwn, sydd mor ddiragfarn a chatholig ei syniadau, a gyhuddir o gulni at yr Ymneillduwyr. Mor bell o fod yn gul, apeliai Edmund Jones a gweinidogion Ymneillduol eraill ato am iddo gasglu yn ei gynulleidfaoedd mawrion er eu cynorthwyo i adeiladu eu capelau, ac y mae yn fwy na thebyg ei fod yn cydsynio.
Meddai un Ysgrifenydd am Howell Harris: "Credai nad oedd gan neb hawl i weinyddu yr ordinhadau ond a fyddai wedi cael ei urddo gan Esgob." Nid oes rhith o sail i'r haeriad hwn. Y mae yn hollol groes i don gyffredin ei weinidogaeth a'i ddysgeidiaeth. Yr ydym wedi myned yn fanwl trwy ei lythyrau a'i Ddydd-lyfr, ac nid oes tebyg i hyn i'w gael ynddynt. Yr oedd gweinidogion yr Ymneillduwyr a gydymdeimlent a'r diwygiad yn cael croesaw i Gymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Misol y Methodistiaid, caent gymeryd rhan yn yr ymdrafodaeth, a phleidleisio ar wahanol faterion, fel pe byddent yn Fethodistiaid. Yr oedd y Parchn. Henry Davies, Bryngwrach, a Benjamin Thomas, mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd cyntaf, a chroniclir eu henwau yn mysg y Parchedigion oeddynt wedi derbyn urdd esgobol, ac o flaen eiddo Howell Harris, a'r cynghorwyr; yr hyn a brawf yr ystyrid gweinidog Ymneillduol fel yn meddu yr un safle yn hollol ag offeiriad. Ni wnelid gwahaniaeth o gwbl rhwng y ddau. A thrachefn pan yr ymadawai un o'r cynghorwyr, gan gymeryd gofal eglwys Ymneillduol, nid oedd yn llai ei barch yn mysg y Methodistiaid o'r herwydd. Gwedi i Richard Tibbot ymadael, ac ymsefydlu yn Llanbrynmair, deuai i Gymdeithasfaoedd Llangeitho a'r Bala yn flynyddol, ac er nad oedd ei ddoniau gweinidogaethol yn ddysglaer, cai bregethu mewn lle anrhydeddus. Y mae y Parch. John Thomas, o'r Rhaiadr, wedi gadael tystiolaeth ar ei ol am garedigrwydd a thynerwch mawr Daniel Rowland ato, wedi iddo ymuno â'r Annibynwyr, pan yr oedd ar rynu oblegyd yr oerni ysprydol oedd wedi eu meddianu. Pa le y mae y culni a'r rhagfarn dychymygol? Arfer ddieithriad pobl ragfarnllyd yw erlid y rhai fyddo yn encilio oddiwrthynt. Ond ni wnelai y Methodistiaid ddim o'r fath, ond parhaent i'w hystyried fel brodyr.
Yn wir, gallwn droi y byrddau ar ein gwrth-