yn deall yr efengyl." Yr oedd llu yn tueddu i'w ganlyn, ac ofnid i'r holl wlad fyned ar ei ol. O'r diwedd, penderfynodd Rowland ei fod naill ai i roddi heibio ei olygiadau Antinomaidd, neu i gael ei ddiarddel o'r Cyfundeb; yr oedd yntau yn rhy warsyth i blygu, a'i ddiarddel a gafodd. Tybiodd, yn ei ffolineb, y gallai ddyfod yn sylfaenydd plaid grefyddol; ond "pan aeth o gwmpas, gwedi ei ddiarddeliad, gan geisio casglu canlynwyr, ni chafodd nemawr i lynu wrtho, ac ni arhosodd y rhai hyny gydag ef ond am ychydig. Yn y diwedd, gadawyd ef gan bawb, fel halen wedi colli ei halltrwydd. Bu gwroldeb Rowland yn gweinyddu disgyblaeth ar Popkins a D. Jones yn llesiol i'r lleill, a dueddent i'r unrhyw gyfeilornad; dychwelasant at symledd yr efengyl, gan ofyn maddeuant am y blinder oeddynt wedi beri. Yr oedd yntau o yspryd nodedig o faddeugar. Ond adroddir i un pregethwr tra phoblogaidd, oedd wedi teithio cryn lawer yn Ngogledd Cymru, gan bregethu syniadau Antinomaidd, gael ei osod tan ddisgyblaeth boenus iddo. Parwyd iddo ddychwelyd trwy yr holl eglwysi, a pha rai yr ymwelasai yn flaenorol, gan dynu yn ol ei gyfeiliornadau, ac addef ei fai a'i gamgymeriad; yr hyn a wnaeth yntau gyda pharodrwydd. At hyn y cyfeirir yn ei farwnad:—
" Ac fe wibiodd amryw ddynion,
Rhai ar aswy, rhai ar ddê;
Ond fe gadwodd arfaeth nefol
Rowland onest yn ei le;
A phwy bynag gyfeiliornai
O wiw lwybrau dwyfol ras,
Fe ddatguddiai 'u cyfeiliornad,
Hyd nes gwelai pawb hwy'n gas."
Cawsom gyfleusdra i ymddiddan ag amryw hen bobl yn nghymydogaeth Llangeitho oedd yn cofio Rowland yn dda, yn arbenig a David Jones, yr hen flaenor duwiol o'r Dolau-bach. Darlunient ef fel dyn cymharol fychan o gorffolaeth, cyflym ar ei droed, a chwimwth ei ysgogiadau. Dywed Dr. Owen Thomas fod y darlun o hono, a dynwyd ychydig cyn ei farwolaeth, ac a gyhoeddwyd yn mhen mis wedi ei gladdedigaeth, gan R. Bowyer—gyda'r talcen llydan, uchel, llawn, yr aeliau bwaog, y llygaid treiddgar, y trwyn Rhufeinig, y genau llydan, y gwefusau teneuon, a'r ymddangosiad penderfynol - yn un tra chywir. Darfu iddo ef adnabod merch iddo yn Llandilo Fawr, pan ar daith ddirwestol yn y Deheubarth yn y flwyddyn 1837, wrth y darlun hwn, er na wyddai ar y pryd fod un ferch wedi bod gan Rowland erioed, a llai fyth fod merch iddo yn fyw y pryd hyny. Trwy gryn anhawsder y cafwyd cymeryd ei hm. " Nid wyf fi ond telpyn o glai fy hun.in," meddai. A thra yr oedd yr arlunydd wrth ei orchwyl, dywedai drosodd a throsodd: "Ow! Ow! tynu llun hen bechadur tlawd!" Fel y rhan fwyaf o'r prif areithwyr, yr oedd yn dra nervous; pan y gwelai y bobl yn ymdaith wrth y canoedd tros y bryniau cyfagos, ac yn ymdywallt i ddyffryn cul Aeron, er mwyn gwrando arno, byddai ef yn crynu trwyddo gan ofn yn aml, ac yn arswydo eu gwynebu yn y capel Dywedai wrtho ei hun yn uchel: "Yr Arglwydd a drugarhao wrthyf, bryfyn distadl, llwch a lludw pechadurus." Treuliai lawer wythnos mewn pryder poenus gyda golwg ar ei bregeth y Sul dilynol; pan y deuai boreu y Sabbath, dywedai wrth ei hen was ei fod yn ofni na fedrai bregethu; ond meddai hwnw: "Wedi ei gael i'r pwlpud ni a wyddem fod pob peth yn iawn; enillai nerth yn raddol, byddai ei eiriau fel fflachiad mellten yn cyniwair trwy y gynulleidfa oddi allan ac oddi mewn; oblegyd yn gyffredin byddai mwy y tu allan nag yn y capel, a byddai yr effeithiau arnynt yn rhyfedd." Weithiau teimlai adgyfnerthiad i'w yspryd wrth weled y tyrfaoedd, a chlywed swn eu caniadau. Yr oedd ffynon tua dwy filldir yn uwch i fynu na Llangeitho; yno yr ymgasglai yr ymdeithwyr wrth y canoedd i fwyta eu tamaid bara a chaws, ac i ddrachtio y dwfr; wedi i natur gael ei hadfywio, canent emyn, a than ganu y disgynent yn fynych ar hyd llechweddau y dyffryn. Yn y cyfamser cerddai yntau yn gyflym ar hyd lan yr afon a'i feddwl mewn pryder; ond wrth glywed y swn codai ei ben i fynu yn sydyn, a dywedai, gyda gwen: "Dyma nhw'n dod, gan ddwyn y nefoedd gyda hwy."
Yr oedd holl elfenau y gwir bregethwr wedi cyfarfod yn Daniel Rowland. Meddai lais o'r fath oreu; hais treiddgar, chr, yn medru cyniwair yn hawdd hyd gyrau pellaf cynulleidfa o ugain mil Dywed rhai na fyddai yn bloeddio, er y siaradai yn gyffredin gydag yni mawr. Ond tystiai hen bobl Llangeitho fel arall, a dywedai ei hen forwyn y gorfyddai iddo newid ei grys ar ol yr odfa, gan fel y byddai wedi chwysu. Medrai ei lais arddangos pob math o deimlad, a phan yn traethu gwirioneddau tyner yr efengyl, byddai melusdra ei acenion yn orchfygol. Yr oedd