ei gynefindra rhyfedd a'r Beibl yn peri fod ganddo gawell saethau o'r fath oreu wrth ei benelin yn wastad; ni fyddai ei gôf byth yn pallu pan y dymunai ddifynu adran o'r Ysgrythyr; byddai yr adnod wrth law ganddo yn ddieithriad, a hono yr adnod gymhwysaf i'r mater. Meddai ddychymyg beiddgar a chryf, yr hwn a barai i'r amgylchiadau a fyddai yn ddarlunio ymrithio yn ddelweddau byw o flaen ei lygaid. Pan yn pregethu unwaith yn Llancwnlle ar ddyoddefiadau y Gwaredwr, teimlodd fel pe bai Iesu Grist dan ei glwyfau a'i gleisiau yn bersonol ger ei fron, a gwaeddodd allan, "O wyneb glaswyn! O wthienau gweigion! O gefn drylliedig," nes yr oedd y dylanwad arno ef ei hun, ac ar y gynulleidfa yn mron yn llethol. Yr oedd ei deimladau yn danbaid ac yn gryfion. Dywedai un a'i hadweinai fod ganddo ddigon o deimladaeth (animal spirits) i haner dwsin o ddynion. Felly, heblaw fod ei ddeall yn nodedig o gyflym a chlir, a'i grebwyll yn fírwythlawn mewn meddylddrychau, yr oedd grym ei deimladaeth yn rhoddi adenydd i'w eiriau, ac yn peri eu bcd yn llawn tân. A thynai ysprydoliaeth o bresenoldeb cynulleidfa; byddai dod wyneb yn wyneb a thorf yn ei gyffroi drwyddo; a byddai y cyfryw gyffro nid yn ei ddyrysu, ond yn grymysu pob cyneddf a feddai, fel yr oedd ei ddeall yn fwy bywiog, a'i grebwyll yn fwy cynyrchiol, a gwresogrwydd ei yspryd yn gryfach nag ar unrhyw adeg arall. Efallai mai yn y pwlpud, yn nylanwad yr ysprydoliaeth a sugnai oddiwrth ei wrandawyr, y deuai o hyd i'r perlau dysgleiriaf a ddisgynai dros ei wefusau. Ac yn goron ar y cyfan, arddelid ef gan Yspryd Duw mewn modd neillduol yn mron trwy holl gydol ei oes, Pan y disgynai y dylanwadau nefol arno byddai fel llosg-fynydd mawr, yn arllwys allan o'i ymysgaroedd ffrydiau o hylif tanllyd, fel nad oedd yn ddichon i gnawd sefyll o'i flaen. Byrion oedd ei bregethau fel rheol, rhyw haner awr neu ddeugain mynyd o bellaf, ond ar rai achlysuron, anghofiai ei hunan yn gyfangwbl, a phregethai am dair neu bedair awr. Adroddir am un tro arbenig, pan yr cedd ef a'i wrandawyr wedi ymgolli mewn mwynhâd, fel na wyddent ddim am amser, mai wrth weled yr haul yn pelydru i mewn trwy y pen gorllewinol i'r eglwys, yn arwydd fod y dydd yn tynu at ei derfyn, y deallasant feithder yr adeg yr oedd yr odfa wedi para. Yr oedd ei deimladaeth ysprydol yn nodedig o fyw. Mewn cymdeithasfa unwaith, yr oedd yr odfaeon wedi bod yn bur galed; yr oedd offeiriad wedi pregrethu yn dra marwaidd am ddeg o'r gloch y prif ddiwrnod, a Rowland i sefyll o flaen y dorf ar ei ol. Teimlodd nas gallai lefaru heb fedru cynhesu yr hinsawdd rywsut yn gyntaf. Galwodd ar hen gynghorwr duwiol, enwog am fyrdra a nerth ei weddïau, Dafydd Hugh, Pwllymarch, i fyned am fynyd i weddi, "dim ond mynyd," meddai. Gyda'r gair, yr oedd yr hen gynghorwr yn anerch yr orsedd: "Arglwydd Iesu, er mwyn dy waed a'th ing, gwrando fi. Y mae dy weision wedi bod yma yn ceisio nithio y prydnhawn ddoe, a'r boreu heddyw; ond yn ofer,, Arglwydd; nid oes yr un chwa o wynt wedi chwythu arnom o'r dechreu. Y gwynt, Arglwydd! Y gwynt, Arglwydd grasol. Oblegyd yn dy ddwrn di y mae y gwynt yn awr ac erioed, Amen." Daeth ton o deimlad dros y gynulleidfa; chwythodd yr awel falmaidd nes sirioli ac adfywio pawb, a phregethodd gŵr Duw gyda nerth a dylanwad anorchfygol.
Siaredir weithiau fel pe byddai nerth Daniel Rowland yn gynwysedig yn gyfangwbl yn ei areithyddiaeth, ac nad oedd ei bregethau, ar wahan oddi wrtho ef, ond cyfansoddiadau digon cyffredin. Y mae hyn yn gamgymeriad hollol. Y mae ei bregethau a gyhoeddwyd yn awr ger ein bron, ac y maent mewn gwirionedd yn ardderchog, yn llawn mater, ac wedi eu cordeddu a difyniadau allan o'r Beibl. Puritanaidd ydynt o ran nodwedd, a nodedig o Ysgrythyrol; ac y maent yn dryfrith o'r cymhariaethau mwyaf cyffrous a swynol. Bid sicr, yr oedd hyawdledd a chyffro enaid y pregethwr yn ychwanegu at eu heffeithiolrwydd; ond ar eu penau eu hunain byddai yn anhawdd cael dim mewn unrhyw iaith yn rhagori arnynt. Cymerer y difyniad canlynol o " Newydd Da i'r Cenhedloedd." Cyfeiria at y doethion wedi myned i Jerusalem i chwilio am y Mab bychan yn lle i Bethlehem: " Nid trwy dywysogaeth y seren y daethant yno, ond trwy dywysiad eu rhesymau eu hunain. Tybiasant, gan mai Caersalem oedd prif ddinas y deyrnas, ac eisteddfod brenhinoedd, y byddent yn sicr o glywed yno am enedigaeth Crist. Dilynasant, meddaf, ddynol resymau, am hyny, nis cawsant yr Iesu. Nis gellir ei gael ef ond wrth ei oleuni a'i gyfarwyddiadau ei hun. Rheswm yn wir sydd roddiad daionus, ac o'r gwaed brenhinol;